Cynulliad yn rhwystro mudiad iaith rhag rhoi tystiolaeth

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi colli'r hawl i roi tystiolaeth gerbron pwyllgor y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r Gymraeg, gan i'r Gymdeithas ddatgan y byddai ei chynrychiolwyr yn glynu at safiad y mudiad o ymwrthod â rhagfarn UKIP. 

Roedd disgwyl i ddau gynrychiolydd o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ymddangos gerbron Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad y bore yma, fel tystion - wrth i'r Pwyllgor graffu ar gylch diweddaraf rheoliadau Safonau'r Gymraeg, sydd i'w cyflwyno gerbron y Senedd ddiwedd y mis. 

Anfonodd y mudiad iaith e-bost at Gadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins AC, er cwrteisi, cyn ymddangosiad y cynrychiolwyr gerbron y Pwyllgor, i'w hysbysu o bolisi Cymdeithas yr Iaith o beidio ymwneud â phlaid UKIP, y mae un o'i haelodau yn aelod o'r Pwyllgor Diwylliant. 

Ymhen llai na dwy awr o anfon yr e-bost, cafodd y Gymdeithas wybod fod y pwyllgor wedi penderfynu i dynnu'r gwahoddiad yn ôl – wedi iddynt ddod i ddeall na fyddai cynrychiolwyr y mudiad iaith yn barod i ateb cwestiynau o du UKIP ac y byddent yn tynnu sylw yr agweddau rhagfarnllyd mae'r blaid yn eu harddel ar goel, pe bai cwestiwn wedi dod i law o gyfeiriad y blaid honno. 

Mudiad democrataidd yw Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn 2016, penderfynodd Senedd y Gymdeithas y byddai'n gwrthod ymwneud â'r blaid.  

Dywedodd Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: 

“Mae'r penderfyniad annemocrataidd hwn ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn hynod siomedig ac yn adlewyrchiad trychinebus o gyflwr ein hoes. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bodoli i hwyluso trafodaeth agored a theg. Ond nid yn unig bod aelodau'r Pwyllgor am gofleidio rhagfarn UKIP â dwylo agored ond maent am atal llwyfan i ni, sydd o blaid hawliau i'r Gymraeg ac i leiafrifoedd eraill. 

"Drwy gydol y Cynulliad diwethaf, buon ni'n cyd-weithio gyda'r holl bleidiau yn y Cynulliad, er, ar adegau, bu gennym wahaniaeth farn ar sawl mater gyda nifer ohonynt. Fodd bynnag, fel mudiad rydyn ni wedi cytuno na fyddwn ni'n cydweithio gydag UKIP, a hynny ar sail eu rhagfarn. Mae UKIP wedi hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas - pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thraws, lleiafrifoedd ethnig, mewnfudwyr, pobl sydd â HIV - a'r Gymraeg. Allwn ni ddim eu trin fel unrhyw blaid arall.  

"Rydyn ni, fel mudiad, yn credu mewn creu cymdeithas gynhwysol, sy'n croesawu pobl i'n gwlad waeth beth eu cefndir o ran iaith, cyfeiriadedd rhywiol neu genedligrwydd. Dylai'r Gymraeg a Chymru gynnwys a chroesawu pawb sy'n dod i'n gwlad. Rwy'n gofyn i bob mudiad yng nghymdeithas sifil ein gwlad wneud safiad tebyg yn erbyn UKIP er mwyn creu cymdeithas gynhwysol sy'n dathlu amrywiaeth."