Cyngor tref Blaenau Ffestiniog yn galw am Ddeddf Eiddo o flaen rali yn y dref

Mewn Cyfarfod Arferol ar nos Lun, 11 Mawrth, cytunodd Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog yn unfrydol i basio cynnig yn ‘datgan cefnogaeth i alwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo’.

Daw y cyhoeddiad o flaen rali fawr Nid yw Cymru ar Werth yn y dref ar 4 Mai, lle bydd Beth Winter AS, Mabon ap Gwynfor AoS a’r cynghorydd Craig ab Iago ymysg rheiny fydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ‘Ddeddf Eiddo - Dim Llai’ i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel cartrefi.

darllen mwy

Lansio map ffordd tuag at addysg Gymraeg i bawb

Mewn sesiwn briffio yn y Senedd wythnos nesaf bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio gwaith ystadegol sy’n dangos y cynnydd sydd angen ei weld mewn addysg cyfrwng Cymraeg i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n ei dderbyn erbyn... darllen mwy...

Archif Newyddion

Gellir darllen yr holl archif newyddion yma.