Datblygiad tai Caerfyrddin, angen dechrau o'r dechrau

protest-s4c.JPGMae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar gynghorwyr Sir Gaerfyrddin i adalw'r Cynllun Datblygu Lleol ar frys, wrth i wrthwynebiad lleol i gynllun, a fyddai'n golygu codi tua 11,600 o gartrefi newydd yn yr ardal, gynyddu. Bydd y cynllun yn cynnwys codi dros fil o gartrefi newydd ar gyrion Gorllewinol Caerfyrddin. Mae'r mudiad iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi annog eu haelodau a chefnogwyr i ymateb i ymgynghoriad y Cyngor yn gwrthwynebu'r cynlluniau.Dywedodd Sioned Elin, Cadeirydd Rhanbarth Sir Gar Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r datblygiad yma yn gwbl anaddas ar gyfer Sir Gar heddiw. Nid yw'r cynllun yn seiliedig ar ymchwil trylwyr o'r angen lleol, ond yn hytrach ar ddata sydd wedi dyddio. 'Does dim angen y tai yma yn lleol. Ni chafwyd asesiad digon trylwyr o'r effaith ar yr iaith Gymraeg - byddai hynny wedi dangos y bygythiad mawr a fyddai'n dod yn sgil y datblygiad. Dylai'r Cyngor ddechrau o'r newydd, a dylid cychwyn drwy sicrhau cyfnod o ymchwil trylwyr i'r angen am dai ymysg poblogaeth y sir.""Hefyd, mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar agwedd cynllunio'n lleol tuag at yr iaith newydd ddod i ben. Felly oni ddylid rhewi'r cynlluniau yn Sir Gar nes bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfeiriad clir i'r cyngor?"Dywedodd Hywel Griffiths, llefarydd Cymunedau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:"Mae'r sefyllfa yng Nghaerfyrddin yn symptom o argyfwng sydd yn effeithio cymunedau ar hyd a lled Cymru, sef bod datblygiadau tai diangen, anaddas ac anghynaladwy yn cael eu gorfodi ar gymunedau sydd yn eu gwrthwynebu. Eisoes rydym wedi gweld gwrthwynebiad cryf i ddatblygiadau tai arfaethedig yng Ngogledd Cymru, ym Modelwyddan, er enghraifft. Nid yr angen lleol sy'n gyrru'r datblygiadau yma, ond yr angen i greu elw i ddatblygwyr."Yn ogystal, mae'r asesiadau a wnaed o effaith y datblygiadau yma ar y Gymraeg yn eithriadol o wan. Rhaid inni ddangos i'r awdurdodau lleol ac i Lywodraeth y Cynulliad bod gorfodi'r cynlluniau fel ag y maent yn annerbyniol, a phwyso am eu had-alw'n syth."Mae ymgynghoriad y Cyngor ar eu cynlluniau datblygu yn cau am 4.30pm ar 19 Awst 2011, fe allai unrhyw drigolyn o Sir Gar ymateb trwy e-bostio blaengynllunio@sirgar.gov.uk , danfon ffacs at 01267 228785 neu ei bostio at Y Rheolwr Blaen-gynllunio, 40 Heol Spilman, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1LQ. Enghraifft o ymateb ar gael yma.