"Dilynwch gyfraith addysg Catalaneg yng Nghymru" - adolygiad

Bydd ymgyrchwyr yn pwyso yn yr Eisteddfod heddiw (2pm, dydd Iau, 7fed Awst) ar i banel sy'n adolygu'r ddeddfwriaeth addysg Gymraeg argymell mabwysiadu yr un statud addysg ag sydd gan Gatalwnia er mwyn symud at addysg cyfrwng Cymraeg i bawb dros gyfnod o amser. 

Daw'r alwad wrth i Fwrdd dan arweiniad y cyn-Aelod Cynulliad Aled Roberts adolygu deddfwriaeth addysg Gymraeg, sef y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Ar hyn o bryd, nid oes nod hirdymor yn y gyfraith sydd ddim ond yn gofyn i awdurdodau lleol "wella’r broses o gynllunio" a "gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal". Mae grym gan Weinidogion i orfodi rhai awdurdodau lleol i fesur y galw am addysg Gymraeg yn ogystal.            

Ar y llaw arall, mae'r gyfraith yng Nghatalwnia yn datgan y "bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol." Er i'r iaith gael ei herlid dan Lywodraeth unbenaethol Franco, bellach mae tua 80% o'r boblogaeth o 7.5 miliwn yng Nghatalwnia yn siarad Catalaneg. 

Yn siarad cyn trafodaeth ar faes yr Eisteddfod, meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: 

"Nid oes modd i Gymru symud at bolisi Catalwnia dros nos, ond mae modd i'r ddeddf sy’n cael ei hadolygu ar hyn o bryd osod hynny fel nod mwy hirdymor. Mae gwneud y Gymraeg yn norm cyfrwng addysg ein gwlad yn bosib o fewn yr ychydig ddegawdau nesa. Dyma'r brif ffordd rydyn ni'n mynd i gyrraedd y filiwn o siaradwyr, a symud ymlaen o hynny – ac mae'r grymoedd gan ein Senedd i allu gwneud hyn.   

"Dyw hyn ddim yn golygu bod yn rhaid i bob un athro neu weithiwr addysg fedru'r Gymraeg. Eisoes mae traean o'n hathrawon yn rhugl yn y Gymraeg. O'r gweddill, mae gan ganran sylweddol ychwanegol wybodaeth sylweddol o'r Gymraeg ac maen nhw’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ac mae gan y rhan fwyaf o'r lleill rywfaint o ddealltwriaeth o'r Gymraeg. Rydyn ni'n dechrau o seiliau cadarn, ond, wrth gwrs, bydd angen cynyddu sgiliau'r gweithlu yn sylweddol dros amser."   

Ychwanegodd:  

"Wrth reswm, bydd angen mwy na nod hir dymor yn y ddeddf newydd – a bydd angen cerrig milltir tymor byr a chanolig ynghyd â chymhellion ariannol clir ar lefel leol. Gan y bydd y nod hwnnw yn disodli'r hen syniad o 'fesur y galw', mae yna hefyd le i gwestiynu ai cynlluniau lleol yw'r dull mwyaf effeithiol o weithredu’r gyfundrefn. Ond, mae hefyd yn bwysig bod pawb o fewn y system yn deall mai gwneud y Gymraeg yn norm fel cyfrwng addysg ar bob lefel o addysg yw ein nod fel cenedl. Mae hynny'n allweddol er mwyn i'r Llywodraeth gyrraedd ei thargedau ei hun. Er nad yw'n amlwg, ymhlyg yn nhargedau'r Llywodraeth bresennol mae yna dderbyn anuniongyrchol y bydd rhyw ddyddiad yn y dyfodol pan fydd pob plentyn yn derbyn y rhan helaeth o'u haddysg drwy'r Gymraeg. Ein dadl ni yw y dylid gosod hynny mewn deddf gydag amserlen glir fel bod pob corff yn deall ac yn cynllunio'n fwriadus er mwyn cyflawni hynny."           

Deddf Addysg Catalwnia:

"Erthygl 20  

1.Mae’r Gatalaneg, fel priod iaith Catalonia, hefyd yn iaith addysg, ar bob lefel ac ym mhob math o addysgu.  

2.Bydd sefydliadau addysg ar bob lefel yn peri mai’r Gatalaneg yw’r cyfrwng arferol i fynegi gweithgareddau addysgu a gweinyddol, yn fewnol ac yn allanol." 

http://llengua.gencat.cat/en/detalls/article/Capitol-III-00001