Dim ond un cyngor sy’n darparu prentisiaethau cyfrwng Cymraeg

Dim ond un cyngor yng Nghymru sydd wedi cynnig prentisiaethau cyfrwng Cymraeg yn y pedair blynedd diwethaf, yn ôl ymchwil gan fudiad iaith.

Mae ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth Cymdeithas yr Iaith wedi datgelu mai dim ond un cyngor sydd wedi cyflogi prentisiaid sydd wedi gwneud eu fframwaith cymhwyster drwy gyfrwng y Gymraeg dros y pedair blynedd diwethaf, sef Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd 13 cyngor, gan gynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Wrecsam, Torfaen a Chastell-Nedd Port Talbot, nad oedd yr un prentis wedi astudio drwy’r Gymraeg dros y pedair blynedd diwethaf. Yng Ngwynedd, mae’r Cyngor yn dweud eu bod wedi cyflogi pum prentis ers 2015/16, gydag un wedi astudio drwy gyfrwng y Saesneg a phedwar arall yn ddwyieithog. Yn Sir Gaerfyrddin, cyflogwyd 188 o brentisiaid gan y Cyngor dros y pedair blynedd diwethaf, gyda dim ond un yn astudio’n ddwyieithog a’r gweddill yn astudio yn Saesneg yn unig. Cafwyd ymateb gan 20 o gynghorau a dywedodd chwe chyngor nad ydyn nhw’n dal y wybodaeth.  

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos nad oes yr un Awdurdod Heddlu wedi cyflogi prentis sydd wedi ymgymryd â'u fframwaith prentisiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Dim ond un Bwrdd Iechyd a ddarparodd ymateb i’r cais am wybodaeth, sef Bwrdd Iechyd Bae Abertawe - roedd yr ymateb yn dangos mai dim ond prentisiaid sy'n astudio drwy gyfrwng y Saesneg sydd ganddyn nhw.

Dywedodd Mabli Siriol, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith:

“Mae’r ymchwil yn amlygu sefyllfa ddigalon iawn: nid yn unig mae cyrff cyhoeddus yn gwadu hawliau prentisiaid i ddysgu drwy’r Gymraeg, ond maen nhw’n defnyddio arian cyhoeddus i gynnal system sydd bron â bod yn uniaith Saesneg. Mae hynny’n mynd i gael effaith negyddol ar hyder prentisiaid i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd, felly mae polisïau’r cyrff yma yn uniongyrchol gyfrifol am leihau defnydd o’r Gymraeg.  

“Mae llawer o’r cynghorau yma’n colli tric o ran datblygu eu capasiti i ddarparu gwasanaethau a gweinyddu drwy’r Gymraeg. Mae rhai ohonyn nhw’n cwyno nad oes ganddyn nhw’r capasiti i ddarparu gwasanaethau Cymraeg tra’u bod nhw’n gwario arian yn hyfforddi drwy gyfrwng y Saesneg. Mae’n hurt.  

“Mae'r Llywodraeth yn buddsoddi llawer o arian yn yr hyfforddiant, a da hynny, ond mae'n rhaid hyfforddi ein pobl ifanc i allu gweithio yn Gymraeg. Wedi'r cwbl, mae cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle yn allweddol os yw’r iaith i ffynnu dros y blynyddoedd i ddod. Yn y byd sydd ohoni, mae sefyllfa lle mae cyrff cyhoeddus yn dal i dderbyn yn ddi-gwestiwn bod y byd gwaith a hyfforddiant bron â bod yn gyfan gwbl Saesneg yn annerbyniol.”

Oherwydd y diffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am glustnodi deg miliwn o bunnau o gyllideb £111 miliwn prentisiaethau'r Llywodraeth i'r Coleg Cymraeg er mwyn sicrhau bod llawer mwy o brentisiaethau ar gael yn Gymraeg.

Ychwanegodd Mabli Siriol:

"Ers blynyddoedd bellach, cyfran eithriadol o fach o brentisiaethau sy’n cael eu cynnal drwy'r Gymraeg. Mae’r penderfyniad clodwiw i ymestyn cyfrifoldebau'r Coleg Cymraeg i'r maes yma’n cynnig cyfle pwysig i wneud gwir wahaniaeth yn hyn o beth. Ond er mwyn taclo'r perfformiad cwbl annerbyniol presennol, galwn ar y Llywodraeth i glustnodi £10 miliwn o bunnau allan o'r gyllideb prentisiaethau o £111.51 miliwn i fod o dan reolaeth y Coleg Cymraeg er mwyn dechrau gweddnewid y sefyllfa. Ni fyddai'r polisi yma’n costio'r un geiniog ychwanegol i’r Llywodraeth - mater o drosglwyddo arian o'r gyllideb bresennol i'r Coleg Cymraeg fyddai e.”

Mi fydd yr ymchwil yn cael ei drafod mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Ystafell Siapan yng Nghanolfan y Mileniwm am 2pm ddydd Iau, 30ain Mai.

[cliciwch yma i weld crynodeb o ymatebion cynghorau]