Galw am oedi pleidlais er mwyn sicrhau gofal iechyd yn Gymraeg – adroddiad pwyllgor

Mae mudiad iaith wedi croesawu argymhellion gan bwyllgor trawsbleidiol yn y Cynulliad i newid rheoliadau iaith er mwyn sicrhau bod hawliau gan gleifion i ofal wyneb yn wyneb yn Gymraeg.   

Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu cynnal pleidlais ar y rheoliadau iaith yn y Senedd yfory, ond disgwylir iddi gael ei gohirio yn sgil argymhellion y pwyllgor.  

Mewn adroddiad ar Safonau'r Gymraeg ym maes iechyd – dyletswyddau sydd i fod i greu hawliau iaith i gleifion a staff – mae aelodau o bob plaid yn y Cynulliad wedi argymell oedi pleidlais arnynt yfory. Mae aelodau'r pwyllgor diwylliant hefyd wedi galw am welliannau i ychwanegu "dyletswyddau penodol a fydd yn cael eu rhoi ar gontractau mewn safonau ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol" yn y Safonau ac i “sefydlu hawliau clir i gael gwasanaethau gofal iechyd wyneb yn wyneb yn Gymraeg.” 

Meddai Osian Rhys, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith:  

"Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod aelodau o bob plaid wedi gofyn am newidiadau i'r rheoliadau yma: yn eu ffurf bresennol dydyn nhw ddim yn creu dim un hawl i bobl gael gofal iechyd wyneb yn wyneb yn Gymraeg. Fe ddylai'r Llywodraeth fynd ati nawr i gynnal trafodaethau brys gydag aelodau o bleidiau eraill, ac wedyn yn ail-drefnu'r bleidlais ar reoliadau diwygiedig cyn gynted â phosibl. Mae'n hollbwysig cael hyn yn iawn. Wedi'r cwbl, mae'n gyfle prin, unwaith-mewn-degawd o bosib, i sicrhau hawliau cadarn i bobl ymwneud â'r gwasanaeth iechyd yn Gymraeg."  

"Nid atodiad yw'r Gymraeg – mae'n rhan greiddiol o'r gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n egwyddor sydd wedi'i sefydlu yn adroddiadau Comisiynydd y Gymraeg ac yn nogfennau'r Llywodraeth ei hunan. Mae'n rhaid cofio mai dim ond yn Gymraeg y mae llawer o gleifion yn gallu cyfathrebu, gan gynnwys pobl mewn sefyllfaoedd bregus, cleifion â demensia a phlant bach uniaith. Fel mudiad, allwn ni ddim cefnogi'r Safonau yn eu ffurf bresennol, achos dydyn nhw ddim yn creu hawliau i bobl mewn dau faes sy'n gwbl greiddiol i ddarparu gwasanaeth iechyd drwy'r Gymraeg, sef gofal iechyd sylfaenol a gofal iechyd wyneb yn wyneb mewn ysbytai. Yn eu tystiolaeth, roedd hyd yn oed y byrddau iechyd yn derbyn eu bod nhw'n rhy wan."