Galw ar i aelodau Seneddol Cymru gefnogi safiad Hywel Williams AS

deddf_eiddo.gifMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at holl Aelodau Seneddol Cymru yn gofyn iddynt gefnogi Hywel Williams yn erbyn bwriad Gordon Brown i wneud newidiadauiír Cynlluniau Self Invested Personal Pensions (SIPPS) aír Self Administered Plans yn y Gyllideb y Mis nesaf.

Bwriad y Canghellor yw cynnig toriadau treth sylweddol iír sawl syín buddsoddi mewn tai ac eiddo fel cynllun pensiwn. Byddaiír newid hwn yn golygu fod y sawl sydd aír modd i brynu ail neu drydydd cartref yn gallu cael hyd at 40% o ostyngiad ar y pris y byddaiín rhaid i unigolyn syín prynu ty am y tro cyntaf ei dalu.Maeír cynllun hwn yn fygythiad pellach i gymunedau Cymraeg. Gyda phrisiau tai yng Nghymru yn dal i godi ar raddfa arswydus ac o gofio y bydd prinder cyfalaf yn yr ardaloedd gwledig yn rhywstro pobl rhag manteisio ar y fath gynllun ofnwn y bydd hyn yn arwain at gynnydd sylweddol ym mhryniant tai haf ac yn rhwystro prynwyr tai am y tro cyntaf rhag cystadlu yn y farchnad dai. Yn ychwanegol at hynny yr ydym yn gweld y bydd hyn yn arwain at gynnydd pellach ymmhrisiau tai ac yn tanseilio ymdrechion y Cynulliad Cenedlaethol i ddarparu tai fforddadwy i bobl Cymru. O ystyried y sgil-effeithiau tebygol hyn credwn y byddai cynllun y Canghellor yn ergyd drom arall iír Gymraeg yn y cymunedau hynny lle siaredir y Gymraeg o ddydd i ddydd.Gwerthfawrogwn yn fawr fod Hywel Williams am godiír mater hwn yn y Ddadl Gymreig yn Nhyír Cyffredin heddiw Byddwn yn cyflwyno llythyr i Gordon Brown ar y mater hwn yn 11 Stryd Downing dydd Mercher nesaf (Mawrth 3ydd) acar Ddydd Mercher Mawrth 10fed gobeithiwn gael cyfarfod yn y Trysorlys i drafod y mater.