Herio ELWA - Cyfarfod Cyhoeddus 'Addysg yn Arfon, Pwy sy'n ELWa?

Disgwylir cynulliad da i ddod ynghyd i gyfarfod cyhoeddus ym Mhenygroes, heno nos Lun Medi 29ain, i drafod un o bynciau poeth y dydd. Cynlluniau ELWa a'r bygythiad i'r 6ed dosbarth mewn sawl ysgol yn Arfon sydd wedi ysgogi Cymdeithas yr Iaith i drefnu'r cyfarfod.

Cynhelir y cyfarfod yn Neuadd Goffa Penygroes am 7.00pm ar Fedi 29. Yno'n siarad bydd Dewi Jones, Prifathro Ysgol Dyffryn Nantlle ac Alun Ffred Jones, AC ynghyd ’ chynrychiolydd o'r chweched dosbarth yn Ysgol Dyffryn Nantlle."Mae teimladau cryf yn yr ardal dros gadw'r 6ed dosbarth yn ein hysgolion" meddai Angharad Tomos fydd yn cadeirio'r cyfarfod. "Mae ELWa yn rhoi arian cyn ystyriaethau addysgol, ac yn peri colled anfesuradwy i fyfyrwyr ysgol. Yn ddiweddar, gwelwyd na allant gadw trefn ar eu ty eu hunain, heb sÙn am rywbeth mor bwysig ag addysg uwchradd."Cafwyd neges o gefnogaeth gan brifathro Ysgol Syr Hugh Owen, Dafydd FÙn Williams, sydd hefyd yn llym ei feirniadaeth o ELWa ac yn dweud mai dyma'r bygythiad mwyaf i werthoedd traddodiadol addysg yng Nghymru ers iddo ddechrau dysgu. Mae prifathro Ysgol Brynrefail yntau wedi lleisio ei bryderon yn y Wasg.Gobaith y cyfarfod yw cychwyn caseg eira o gefnogaeth o blaid cadw yChweched Dosbarth yn ysgolion Arfon.