Teyrnged i'r diweddar Dr John Davies

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi talu teyrnged i Dr John Davies, a fu farw heddiw.   

John Davies oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe drefnodd brotest gyntaf y mudiad ar bont Trefechan ym 1963.  

Dywedodd Sel Jones, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Bu cyfraniad John i'n hiaith, a'r mudiad cenedlaethol yn gyffredinol, yn amhrisiadwy. Athrylith, ysgolhaig, cofnodydd hanes ei bobl oedd a’i draed ar y ddaear. Bydd colled enbyd ar ei ôl.  Fel ein hysgrifennydd cyntaf, fe oedd yn gyfrifol am sefydlu ein mudiad; ond, yn bwysicach na hynny, fe ysbrydolodd e genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith. Pobl sydd wedi llwyddo cadw'n hiaith yn fyw.  Mae'n cydymdeimladau gyda'i deulu a'i gyfeillion heddiw, ond bydd ein dyled i John - fel ymgyrchwyr iaith ac fel pobl - yn para am byth."