Ystyried ymyrryd yn gyfreithiol os yw cynghorau yn ceisio gwanhau'r Safonau

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dweud y byddan nhw'n ystyried ymyrryd yn gyfreithiol er mwyn cryfhau hawliau iaith pobl os yw cynghorau sir yn ceisio herio'r Safonau. 

Yr wythnos diwethaf, ysgrifennodd y mudiad iaith at Gomisiynydd y Gymraeg gan fynegi pryder nad yw'r dyletswyddau yn cefnogi cytundeb trawsbleidiol Cyngor Sir Gaerfyrddin i weithio'n fewnol yn GymraegMae'r llythyr hefyd yn mynegi pryder nad yw'r Safonau'n ddigon uchelgeisiol yn gyffredinol. 

Yn ôl adroddiad yn y wasg, mae cynghorau Sir Gâr a Sir Fflint wedi herio'r dyletswyddau iaith newydd. O dan Fesur y Gymraeg, mae'r cynghorau yn gallu herio'r gofynion ar y sail nad ydyn nhw'n rhesymol a chymesur, ond yn ystod achos gerbron y Tribiwnlys mae modd i drydydd partïon gymryd rhan. Mae'r mudiad yn dweud y bydden nhw'n dadlau nad yw'n rhesymol i bobl a gweithwyr gael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg, ac y gallai pobl yn ei henoed a phlant fod ymysg y rhai sy'n dioddef. 

Meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: 

"Mae'n debyg bod rhai cynghorau eisiau gwanhau'r Safonau: byddai hynny'n golygu rhai o'n pobl fwyaf bregus, fel plant bach a dioddefwyr dementia, yn cael eu hamddifadu o wasanaeth Cymraeg cyflawn pan fo'r angen ar ei mwyaf. Dyw hyn ddim yn fater bach. Rhan o'u pwrpas yw cyflawni'r hyn mae cynghorau wedi bod yn anelu at ei gyflawni ers tua ugain mlynedd. Yn wir, mewn sawl maes prin fod y Safonau'n gofyn i'r awdurdodau wneud llawer mwy na'u cynlluniau iaith. Mae 'na beryg na fydd camu 'mlaen a datblygu gwasanaethau Cymraeg cyflawn. 

"Yn achos Sir Gaerfyrddin, dyw'r Safonau ddim yn cefnogi'r cytundeb trawsbleidiol i symud at weithio'n Gymraeg, sydd mor bwysig os yw'r iaith i gryfhau yn yr ardal. Mae'n bosib i drydydd parti ymyrryd mewn unrhyw achosion gerbron Tribiwnlys y Gymraeg, ac yn sicr byddwn ni'n ystyried hyn gan fod angen llais sy'n sefyll lan dros hawliau cryfach i bobl fyw pob rhan o'u bywydau yn Gymraeg." 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ysgrifennu at y ddau gyngor a Chymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru i esbonio y bydden nhw'n ystyried ymuno ag unrhyw achos, er mwyn dadlau dros safonau cryfach yn y ddwy sirMaen nhw hefyd wedi ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg gan ofyn iddi gryfhau'r Safonau ar gyfer y cynghorau sydd wedi ceisio eu herio.