Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas (Gweinyddol)

06/07/2024 - 10:30

10.30, dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf 2024

Cyfarfod dros Zoom

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn (darllenwch fwy yma), ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio). 

Yn ystod blwyddyn arferol, cynhelir Senedd Ymgyrchoedd bedair gwaith, Senedd Ranbarthau deirgwaith a Senedd Weinyddol deirgwaith. Bydd y cyfarfod hwn yn canolbwyntio ar faterion gweinyddol ond bydd cyfle i drafod materion eraill hefyd.

Mae croeso i bob aelod o'r Gymdeithas fynychu a chyfrannu at y drafodaeth (ond heb yr hawl i bleidleisio).

Cysylltwch os am fynychu: post@cymdeithas.cymru.