Pwyllgor Siaradwyr Newydd

29/11/2021 - 20:00

Rydym wedi dod â chriw o bobl ynghyd  yn siaradwyr newydd ac yn siaradwyr profiadol – i gynorthwyo gyda'r gwaith o drefnu gweithgarwch ar gyfer dysgwyr/siaradwyr newydd dan arweiniad Nia Llywelyn, Swyddog Dysgwyr Cymdeithas yr Iaith.

Croeso i unrhyw sydd â diddordeb yn y maes i ymuno. Y prif beth y byddwn yn ei drafod yn y cyfarfod hwn yw'r ail Ddiwrnod Cefnogi Siaradwyr Newydd. Cynhelir hwn dros y penwythnos 4-5 Chwefror 2022 i gyd-fynd a Dydd Miwsig Cymru (4/2/2022). Ein gobaith felly yw y bydd pob math o ddigwyddiadau – yn seiliedig ar gerddoriaeth Cymraeg – yn cael eu cynnal ledled Cymru fydd yn dod â dysgwyr a siaradwyr rhugl at ei gilydd.

Ebostiwch post@cymdeithas.cymru am wybodaeth bellach.