Rali - Enw uniaith Gymraeg i’n Senedd ni!

09/11/2019 - 13:00

1pm, dydd Sadwrn, 9/11/19
Y Senedd, Bae Caerdydd
Bethan Ruth Roberts, Jolyon Maugham QC a Jacob Morris

Dewch i alw ar ein gwleidyddion i wrando ar lais pobl Cymru, sydd eisiau enw uniaith Gymraeg i’n Senedd ni, cyn pleidlais ar newid yr enw. Mae’r enw ‘Senedd’ eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar lawr gwlad gan bawb, os ydyn nhw’n siarad Cymraeg neu beidio.

Dyma gyfle i anfon neges i’n gwleidyddion bod y Gymraeg yn gynhwysol ac yn perthyn i bawb, o bob cefndir. Dathlwn a chefnogwn yr holl bethau uniaith Gymraeg yn ein gwlad - fel ein hanthem genedlaethol - a dymunwn weld mwy a mwy ohonyn nhw.

Dewch â’ch baner eich hun gyda’r gair ‘Senedd’ arni.

https://www.facebook.com/events/3140896139285383/