Aelodau'r Senedd 2019-2020
Cadeirydd |
bethanruth@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am reoli'r Gymdeithas rhwng cyfarfodydd Senedd |
Is-Gadeirydd Ymgyrchoedd |
david@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am sicrhau bod y Grwpiau Ymgyrchu'n weithredol |
Is-Gadeirydd Gweinyddol |
mai@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am ein gweinyddiaeth ac yn ateb i'r Senedd ar ran y Trysorydd, Swyddog Codi Arian, Swyddog Mentrau Masnachol |
Is-Gadeirydd Cyfathrebu |
tamsin@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am beiriant cyfathrebu'r Gymdeithas ac yn ateb i'r Senedd ar ran y Swyddog Gwefan a Dylunio, a Golygydd y Tafod. |
Swyddog Adloniant |
elan@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am greu bas-data o wybodaeth a chanllawiau ar gyfer Pwyllgorau Adloniant mewn rhanbarthau ac ar gyfer digwyddiadau arbennig |
Swyddog y We |
talulah@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am hyrwyddo ein presenoldeb ar-lein |
Swyddog Aelodaeth |
steffan@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am ein system aelodaeth a'n hymgyrchoedd aelodaeth |
Cadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
robat@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd grŵp Cymunedau Cynaliadwy a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â thai, cynllunio a materion eraill sydd yn effeithio ar gymunedau Cymraeg eu hiaith |
Is-Gadeirydd Grŵp Cymunedau Cynaliadwy |
jeff@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol | GWAG | Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y grŵp Digidol a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â materion darlledu a phresenoldeb y Gymraeg arlein a materion eraill sydd yn effeithio ar y Gymraeg yn y byd digidol |
Is-Gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol |
rhisiart@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
sarah@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y grŵp Hawliau a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith |
Is-Gadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg |
marged@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Cadeirydd yr Is-grŵp Iechyd |
gwerfyl@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd yr is-grŵp iechyd a llefaru ar ei ran |
Cadeirydd Grŵp Addysg |
mabli@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gadeirio cyfarfodydd y grŵp Addysg a llefaru ar ei ran ac arwain ar ymgyrchoedd addysg |
Is-Gadeirydd Grŵp Addysg |
toni@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gefnogi y Cadeirydd, dirprwyo iddo a hwyluso gwaith y grŵp |
Swyddog Rhyngwladol |
joseff@cymdeithas.cymru
|
Cyfrifol am gadw llygaid ar ddatblygiadau polisi ac ymgyrchu ieithyddol ymysg cymunedau rhyngwladol gydag ieithoedd a'u lleiafrifwyd; am wahodd ymgyrchwyr iaith i Gymru; ac am drefnu teithiau astudiaeth i aelodaeth y Gymdeithas yn rhyngwladol |
Swyddog Dysgwyr |
matt@cymdeithas.cymru
|
Cyfrifol am drefnu darpariaeth i bobl ddysgu’r iaith |
Swyddog Mentrau Masnachol |
mirain@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am nwyddau a werthir gan y Gymdeithas |
Golygydd y Tafod |
tafod@cymdeithas.cymru |
Golygydd Cylchgrawn y Gymdeithas |
Trysorydd |
danny@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am gyfrifon y Gymdeithas |
Swyddog Codi Arian |
lowriwhughes@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am strategaeth codi arian y Gymdeithas |
Swyddog Dylunio |
dyfan@cymdeithas.cymru |
Cyfrifol am drefnu gwaith dylunio'r Gymdeithas, gan gynnwys y Tafod |
Swyddog Hamdden | GWAG | Cyfrifol am gydlynu ymgyrch genedlaethol i gymreigio gweithgareddau hamdden |
Mae swyddogion cyflogedig (4) a chadeiryddion/cynrychiolwyr pob rhanbarth (5) hefyd yn aelodau llawn o'r Senedd.
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith.
Bob blwyddyn, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Hydref, fe etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas megis trefniadau'r ymgyrchoedd canolog, gwaith gweinyddol neu ddigwyddiadau Codi Arian ac Adloniant. Caiff y Swyddogion sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd blynyddol y rhanbarthau.
Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith i enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd.
Cynhelir cyfarfod Senedd ar ddydd Sadwrn cynta'r mis (fel arfer). Mae hawl gan unrhyw un o aelodau Cymdeithas yr Iaith i fynychu cyfarfodydd y Senedd fel 'sylwebydd'.
Dyddiadau cyfarfodydd a digwyddiadau - 2019/20
Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i'n cyfarfod Senedd, a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd gyda'r hawl i bleidleisio.
7/12/19 - Cyfarfod Senedd Weinyddol - 10:30yb, Tafarn Y Pengwern, Llan Ffestiniog
4/1/20 - Cyfarfod Senedd Ranbarthau - 10:30yb, Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
1/2/20 - Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd - 10:30yb, Casnewydd
7/3/20 - Cyfarfod Senedd Weinyddol - 10:30yb, Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
4/4/20 - Cyfarfod Senedd Ranbarthau - 10:30yb, Llety Arall, Caernarfon
2/5/20 - Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd - 10:30yb, Canolfan Cymunedol Clawdd Offa, Tref-y-Clawdd
6/6/20 - Cyfarfod Senedd Ranbarthau - 10:30yb, Ty Tawe, Abertawe
4/7/20 - Cyfarfod Senedd Weinyddol - 10:30yb, Canolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
12/9/20 - Cyfarfod Senedd Ymgyrchoedd - 10:30yb, Canolfan CAT, Pantperthog, ger Machynlleth