Addysg

Addysg Gymraeg i Bawb

Nid hawl i’w gymryd neu ymwrthod ag ef yw’r gallu i gyfathrebu’n Gymraeg, ond sgil hanfodol i bob disgybl a myfyriwr. Mae angen gwireddu hyn ar frys er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael y sgil hwn.

Golyga hyn sicrhau:

  • bod gwybodaeth a sgiliau yn cael eu trosglwyddo i alluogi pobl ifanc i aros yn a chyfrannu at eu cymunedau, i ddeall ac ymddiddori yng ngwleidyddiaeth Cymru a datblygu'r sgiliau i ddadansoddi a chael dylanwad, a deall lle potensial Cymru yn y byd
  • bod y bobl ifanc sy'n dod allan o'r system addysg yn gallu cyfathrebu, siarad, defnyddio a gweithio'n hyderus yn y Gymraeg
  • bod pawb yn gweld ac yn gwerthfawrogi'r Gymraeg fel rhan o'u hunaniaeth a'u hetifeddiaeth eu hunain
  • bod strwythurau addysg yn cael eu creu i gefnogi'r iaith a chymunedau Cymraeg.

Darllenwch ein dogfen Deddf Addysg Gymraeg i Bawb yma.

Polisïau

  • diwygio cwricwlwm i wneud dealltwriaeth gymunedol a gwleidyddol yn hanfodol
  • diwygio cwricwlwm i ddileu cysyniad Cymraeg ail iaith ac yn ei le creu un continwwm dysgu Cymraeg
  • sicrhau bod addysg gyflawn Gymraeg yn dod yn fwy o norm, a bod pob disgybl yn cael o leiaf rywfaint o'i addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
  • cyflwyno'r Gymraeg yng nghyd-destun dysgu am sefyllfa economaidd a diwylliannol yr ardal leol
  • dulliau dyfeisgar o gynnal ysgolion cymunedol a'u datblygu i adfer y cymunedau trwy eu hagor i Gymreigio'r gymuned gyfan, nid plant yn unig, ynghyd â dulliau o agor adnoddau addysg uwch Gymraeg i bobl yn gyffredinol (ar-lein)
  • diwygio cyrsiau hyfforddi athrawon a hyfforddiant mewn swydd fel bod gan bob athro y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyfrwng addysgu, ac fel bod meithrin dealltwriaeth a sgiliau cyfrannu at y gymuned a democratiaeth Gymreig yn thema drawsgwricwlaidd.

Rhaid i'r hyn a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd fod yn berthnasol i anghenion Cymry ifanc. Rhaid i’r cwricwlwm rymuso disgyblion gyda gwybodaeth hanfodol am Gymru heddiw, a rhoi'r sgiliau iddynt i werthuso, ffurfio barn a dylanwadu a chreu Cymru’r dyfodol.

Rhaid i’r sefydliadau addysgol eu hunain fod yn rhan annatod o’n cymunedau a’u cryfhau at y dyfodol.

Mae ymgyrchoedd addysg y Gymdeithas yn cael eu harwain gan Toni Schiavone, cysylltwch â Toni dros ebost: toni@cymdeithas.cymru