Cyfarfod Cyffredinol

Cartref > Amdanom > Cyfarfod Cyffredinol

Cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas yr Iaith yn yr hydref.

Fel gyda phob cyfarfod cyffredinol cyflwynir adroddiadau ar waith y mudiad dros y flwyddyn a fu ac etholir swyddogion i wasanaethu ar y Senedd am flwyddyn.

Trafodir amryw o gynigion hefyd – wedi eu cyflwyno gan aelodau, grwpiau ymgyrchu, rhanbarthau neu’r Senedd – a’r cynigion fydd yn cael eu pasio fydd yn blaenoriaethu gwaith y Gymdeithas am y flwyddyn sydd i ddod.

Mae croeso i bob un o aelodau'r Gymdeithas fynychu'r cyfarfod hwn a phleidleisio. Os nad ydych yn aelod, gallwch ymaelodi.