Ymaelodi

Cartref > Ymaelodi

Ymunwch â'r mudiad

Drwy gyfrannu rhodd reolaidd heddiw, byddwch yn dod yn rhan o ac yn cefnogi mudiad sy'n gweithio i sicrhau bod yr iaith Gymraeg nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu.

 

Ffioedd aelodaeth

Lleiafswm yw'r ffioedd hyn – gwerthfawrogir pob cyfraniad!

Tâl aelodaeth lawn, £2 y mis

Tâl aelodaeth ostyngol, £1 y mis (e.e. ar gyfer disgyblion, myfyrwyr, y di-gyflog, pensiynwyr)

 

Sut i ymuno

Sefydlu archeb banc

Sefydlwch archeb banc (standing order) – yn eich cangen leol neu ar-lein.

E-bostiwch post@cymdeithas.cymru yn gyntaf er mwyn i ni roi rhif aelodaeth i'w ddefnyddio fel cyfeirnod ac i chi gael manylion y cyfrif banc.

Ymuno ar-lein

Gallwch drefnu talu'n fisol gyda'ch cerdyn banc yma: Ffurflen Aelodaeth Fisol

Mae cyfraniadau rheolaidd yn bwysig ar gyfer sicrwydd ariannol y Gymdeithas. Cofiwch: bydd angen i chi ail-ymaelodi pan ddaw'r cerdyn i ben neu os ydych yn ei golli.

Gallwch dalu am flwyddyn yn unig, yma: Ffurflen Aelodaeth Flynyddol

Os am wneud cyfraniad ariannol, heb ymaelodi, gallwch wneud hynny yma: Ffurflen Cyfraniad

Ymuno drwy'r post

Gallwch argraffu ffurflen ymaelodi (dogfen pdf) ac yna dychwelyd y ffurflen wedi'i chwblhau gyda siec (yn daladwy i 'Cymdeithas yr Iaith') ar gyfer blwyddyn yn unig i: Cymdeithas yr Iaith, Canolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth SY23 1JH.

Byddwn yn defnyddio unrhyw fanylion yr ydych yn eu darparu yn unol â rhybudd preifatrwydd y Gymdeithas.

Pwy all ymuno â Chymdeithas yr Iaith?

Gall unrhyw un sy'n cefnogi amcanion y Gymdeithas ymuno!

✅ Siaradwyr a dysgwyr Cymraeg

Mae croeso cyfartal i siaradwyr rhugl ac unigolion sy'n dysgu'r iaith.

✅ Pobl ddi-Gymraeg

Nid yw’n angenrheidiol eich bod yn siarad Cymraeg i'n cefnogi.

✅ Pobl y tu allan i Gymru

Gall cefnogwyr sy’n byw mewn ardaloedd eraill yn y DU neu ar draws y byd ymuno.

✅ Gweithredwyr, cynghreiriaid a chefnogwyr cymunedol

Boed yn angerddol am addysg, tai, y cyfryngau, cyfiawnder hinsawdd, neu ddatblygu cymunedol, mae yna le i chi.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o sicrhau dyfodol y Gymraeg a’n cymunedau ac eisiau bod yn rhan o fudiad sy’n brwydo am gyfiawnder cymdeithasol ac ieithyddol, gallwch chi – a dylech chi – ymuno â Chymdeithas yr Iaith!

 

Ble mae eich arian yn mynd?

Mae ein haelodau yn rhan hanfodol o gynnal ein cenhadaeth i hyrwyddo a sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg fel iaith gymunedol ym mhob rhan o Gymru. Yn wahanol i lawer o sefydliadau, rydym yn gweithredu heb grantiau’r llywodraeth na chymorth ariannol allanol, gan ddibynnu’n llwyr ar haelioni ein haelodau a’n cefnogwyr.

Ymgysylltu â’r gymuned: Mae ffioedd aelodaeth yn cefnogi gweithgareddau sylfaenol, gan gynnwys cyfarfodydd lleol, gweithdai a digwyddiadau.

Costau gweithredol: Mae cyfraniadau’n help i dalu costau gweithredol hanfodol, megis cyflogi staff, cynnal sianeli cyfathrebu, rhedeg ymgyrchoedd a chefnogi aelodau sy’n rhan annatod o’n gweithgareddau.

Annibyniaeth ac uniondeb: Trwy ddibynnu’n llwyr ar gyfraniadau aelodau, rydym yn cynnal ein hannibyniaeth, gan ganiatáu inni ymgyrchu dros y Gymraeg a’n cymunedau a dal sefydliadau’n atebol heb ddylanwad allanol fel rhan o hynny.

 

Manteision aelodaeth:

  • Byddwch yn rhan o gymuned weithredol.

  • Cewch fynediad i'n cylchgrawn 'Y Tafod'.

  • Gallwch bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddolar benderfyniadau arfaethedig a lleisio’ch barn ar benderfyniadau a fydd yn dylanwadu ar gyfeiriad ein gwaith am flynyddoedd i ddod.

 

Beth allwch chi ei wneud fel aelod?

Aelodau sy’n llywio gwaith y Gymdeithas felly, er mwyn sicrhau bod ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith yn llwyddiannus ac effeithiol, mae angen cymorth ein haelodau.

Mae pob cyfraniad yn bwysig ac yn helpu'r mudiad i gyrraedd y nod! Gellir helpu mewn ffyrdd amrywiol: 

  • bod yn rhan o waith y grwpiau ymgyrchu: Hawl i'r Gymraeg, Cymunedau Cynaliadwy, Dyfodol Digidol, Addysg, Iechyd a Lles – o drefnu digwyddiadau i lunio dogfennau polisi

  • bod yn rhan o waith rhanbarthau neu grwpiau lleol

  • trefnu digwyddiadau megis gigs

  • codi arian

  • dylunio, creu fideos a delweddau

  • cynorthwyo â thasgau gweinyddol megis cyfieithu a phrawf ddarllen

  • gweithredu

  • a mwy!

Rydym bob amser yn gwerthfawrogi cymorth gan arbenigwyr hefyd (e.e. cyfreithwyr, dylunwyr). Os ydych yn meddwl eich bod yn gallu helpu mewn unrhyw ffyrdd, nodwch hynny ar y ffurflen aelodaeth – neu anfonwch ebost.