Dysgwyr

Mudiad sy'n gweithio i ddiogelu'r iaith Gymraeg yw Cymdeithas yr Iaith. Mae'n croesawu dysgwyr fel aelodau. Mae gan Gymdeithas yr Iaith Swyddog Dysgwyr sy'n gweithio gyda phwyllgor i drefnu gweithgarwch i ddysgwyr ar hyd y flwyddyn (manylion yn yr adran digwyddiadau). Croeso i aelodau newydd ymuno â'r pwyllgor hwn.
PWY YW CYMDEITHAS YR IAITH?
Cafodd ei sefydlu yn 1962. Dyma beth o hanes y Gymdeithas.
Cyn y 60au
- Dim arwyddion Cymraeg ar y ffyrdd
- Dim ysgolion uwchradd Cymraeg
- Dim hawl i dderbyn dogfennau dwyieithog – ymgyrch y Beasleys i gael bil treth gan Gyngor Llanelli
Y 60au
- Darlith Saunders Lewis ‘Tynged yr Iaith’ ar y radio (13 Chwefror 1962)
- Awst 1962 – sefydlu Cymdeithas yr Iaith, Pontardawe
- Chwefror 1963 – Protest dorfol gyntaf, Pont Trefechan, Aberystwyth
- Trwy'r 60au - ymgyrch peintio arwyddion ffyrdd, ac hefyd tynnu arwyddion Saesneg
- Deddf Iaith 1967 – hawl i ddefnyddio’r Gymraeg mewn llysoedd
- 1969 - ymgyrch yn erbyn yr Arwisgo
- Cannoedd yn cael eu harestio yn ystod y ddegawd – cosbau ariannol yn bennaf
Y 70au
- Mwy o arestiadau – cosbau mwy llym
- Ymgyrch dros sianel deledu a gwella gwasanaethau radio- miloedd yn gwrthod prynu trwyddedau teledu
- Sefydlu Radio Cymru yn 1977
- Addewid o Sianel Deledu Gymraeg
Y 80au a’r 90au
- Ceidwadwyr yn torri’r addewid am Sianel Deledu Gymraeg
- Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio i farwolaeth dros Sianel Deledu Gymraeg
- Sefydlu S4C yn 1982
- Ymgyrchu dros Ddeddf Iaith newydd a Chorff Datblygu Addysg Gymraeg.
- 1987 – dechrau'r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo gyda'r slogan ‘Nid yw Cymru ar werth’
- Deddf Iaith 1993
Y ganrif newydd
- 2011 – Mesur y Gymraeg – statws swyddogol i’r Gymraeg am y tro cyntaf
- Sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg yn lle Bwrdd yr Iaith i osod Safonau cyfreithiol ar gyrff cyhoeddus
- 2011 – protestiadau yn erbyn torri cyllid S4C
- 2011 sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dilyn pwysau gan Gymdeithas yr Iaith a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor
- Cyfrifiad 2011 yn dangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg. Cymdeithas yr Iaith yn rhoi pwysau ar y Llywodraeth i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
- Ar ôl etholiad 2016, y Llywodraeth yn cyhoeddi targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Nodau Cymdeithas yr Iaith heddiw
- Deddf Addysg Gymraeg i Bawb
- Datganoli grym dros ddarlledu i Gymru
- Deddf Eiddo
- Ehangu Safonau’r Gymraeg