Hanes
’Nôl ar ddechrau’r chwedegau, doedd yr iaith ddim yn rhan o fywyd cyhoeddus o gwbl; doedd dim arwyddion ffyrdd Cymraeg nac ysgolion
uwchradd cyfrwng Cymraeg, a doedd dim modd cael dogfennau swyddogol yn Gymraeg.
Yn y cyfnod yma, roedd chwyldro ar droed ar draws y byd a mwy a mwy o bobl yn sefyll dros eu hawliau – o hawliau pobl hoyw i Martin Luther King a’r frwydr dros hawliau sifil yn yr Unol Daleithiau.
Yn y pumdegau, gwrthododd teulu’r Beasleys dalu bil treth uniaith Saesneg. Bu Eileen a Trefor gerbron llys 16 o weithiau ac aeth y beilïaid â’u heiddo sawl gwaith, ond fe dalodd eu hymgyrch ffordd.
O 1960 ymlaen, roedd eu biliau treth yn ddwyieithog.
Ym mis Chwefror 1962, darlledwyd darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith; darlith oedd yn rhybuddio bod perygl i barhad y Gymraeg. Yn ôl Saunders Lewis: “trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo”.
Bu’r ddarlith yn ysbrydoliaeth i lawer o bobl, a sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith rai misoedd wedyn yn ysgol haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais.
Fe enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth yn ystod y chwedegau, gan gynnwys Deddf Iaith 1967 oedd yn rhoi hawliau cyfyngedig i ddefnyddio’r Gymraeg mewn achosion cyfreithiol, ac roedd rhai ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus.
Yn 1963, cynhaliwyd y protestiadau torfol cyntaf – yn Swyddfa Bost Aberystwyth ac ar Bont Trefechan, pan ataliwyd y traffig wrth i
ymgyrchwyr eistedd yn y ffordd. Dyma oedd dechrau ymgyrchu tor-cyfraith i Gymdeithas yr Iaith.
- Arwydd â'r enw Saesneg - Lampeter
- Eileen a Trevor Beasley
- Saunders Lewis â llyfr yn ei law
- Gosod posteri "Defnyddiwch yr Iaith Gymraeg" ar Swyddfa Post Aberystwyth
- Myfyrwyr yn eistedd ac yn sefyll yn ffordd cerbyd ar Bont Trefechan
- Rhes o fyfyrwyr yn eistedd ar draws Pont Trefechan a dau gerbyn yn cael eu rhwsytro
- Myfyrwyr yn eistedd ar bont Trefechan â phosteri Defnyddiwch y Gymraeg
Dyma gyfnod Margaret Thatcher, Rhyfel y Malvinas a Streic y Glôwyr – a marwolaeth Bobby Sands.
Roedd y Torïaid yn gwrthod cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith. Dechreuwyd ymgyrchoedd dros Ddeddf Iaith newydd a Chorff Datblygu Addysg Gymraeg.
Erbyn diwedd yr 1980au roedd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd wedi magu momentwm. Daeth mil o bobl i wrthdystiad o flaen adeilad y Swyddfa Gymreig yng Nghaerdydd yn 1989 ac 1990.
Ildiodd Llywodraeth Prydain i’r ymgyrchu, a phasiwyd Deddf Iaith 1993. O hynny allan, roedd disgwyl i sefydliadau cyhoeddus drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, ac fe grëwyd Bwrdd yr Iaith.
Yn 1987, cychwynnodd yr ymgyrch dros Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad dai, gyda’r slogan enwog ‘Nid yw Cymru ar Werth’ – slogan sydd wedi dod yn amlwg sawl gwaith dros y blynyddoedd ers hynny.
Am wythnos gyfan yn haf 1991 bu aelodau'r Gymdeithas yn gwersylla o flaen Llys y Goron yr Wyddgrug yn ystod achos llys Branwen Niclas ac Alun Llwyd, oedd wedi torri mewn i adeiladau’r Swyddfa Gymreig yn Llandrillo-yn-rhos a difrodi eiddo er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Eiddo.