Rhanbarthau
Cartref > Amdanom > Rhanbarthau
Yn ogystal a’r ymgyrchoedd cenedlaethol, mae yna ymgyrchoedd sy’n berthnasol i ardal benodol ac mae sicrhau trefniadaeth leol effeithiol yn bwysig felly i waith Cymdeithas yr Iaith.
Mae gan y mudiad 6 rhanbarth sy'n ymestyn ar draws Cymru gyfan:
- Gwynedd-Môn (gwyn@cymdeithas.cymru)
- Glyndŵr (post@cymdeithas.cymru)
- Ceredigion (jeff@cymdeithas.cymru)
- Powys (post@cymdeithas.cymru)
- Caerfyrddin-Penfro (ffred@cymdeithas.cymru)
- Morgannwg-Gwent (post@cymdeithas.cymru)
Y bwriad yw bod y rhanbarthau hyn yn cwrdd yn rheolaidd, ac yn trefnu ymgyrchoedd yn eu hardal hwy.
Cysyllta felly i wybod mwy am beth sy’n digwydd yn dy ardal di. Os nad yw’r rhanbarth yn weithredol, beth am fynd ati i drefnu cyfarfod a chael grwp o bobl ynghyd i drafod beth sy’n diwgydd yn yr ardal.
Cofia hefyd bod modd sefydlu cell yn dy ardal hefyd. Gellir sefydlu celloedd mewn ysgol, coleg, pentref, tref, dinas neu mewn man gwaith. Gall cell fod yn unrhyw beth o ddau ffrind yn cwrdd bob nawr ac yn y man i ddegau o bobl yn cwrdd yn gyson. Gall fod yn rhywbeth dros dro i ymgyrchu dros fater penodol, neu gall fod yn rhywbeth rheolaidd, parhaol.
Cysyllta os wyt am gychwyn cell neu os wyt ti am i dy ranbarth fod yn weithredol. Byddwn ni’n gallu helpu’n ganolog trwy gysylltu gydag aelodau yn dy ardal neu ranbarth, a bydd staff c cyflogedig y Gymdeithas bob amser ar gael i helpu gydag unrhyw drefniadau neu waith sy’n dod yn sgil unrhyw gyfarfod.