Cymynroddion
Cartref > Chwarae rhan > Cymynroddion
BETH YDYCH CHI’N EI DRYSORI?

- Eich teulu?
- Eich anwyliaid?
- Eich cynefin a Chymru?
- Yr iaith?
Ers 1962 mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod ar flaen y gad yn ymgyrchu dros hawliau i bobl Cymru ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o’u bywydau.
Gallwn ymfalchïo mewn sawl llwyddiant nodweddiadol dros y degawdau – o statws swyddogol yr iaith i sefydlu S4C – ond mae ffordd bell i fynd, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn dal i ymgyrchu dros y Gymraeg bob dydd.
Ydych chi'n barod i’n cefnogi yn y frwydr?
Fel mudiad gwirfoddol, mae Cymdeithas yr Iaith yn dibynnu ar gyfraniadau ei haelodau a'i chefnogwyr. Ar hyd y blynyddoedd, mae rhoddion a chymynrhoddion gan garedigion yr iaith wedi bod yn hollbwysig o ran ariannu ein gwaith. Drwy eich cefnogaeth chi gallwn ddal ati i ymgyrchu dros ddyfodol mwy cadarn i'r iaith ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
Gadael rhodd yn eich ewyllys
Gallwch drafod eich dymuniad i adael rhodd i Gymdeithas yr Iaith gyda’ch cyfreithiwr wrth lunio eich ewyllys. Os ydych eisoes wedi paratoi ewyllys, ac yn dymuno ychwanegu cyfarwyddiadau, yna mae modd gwneud hynny drwy gynnwys codisil neu atodiad. Bydd eich cyfreithiwr yn gallu cynghori ar y mater yma.
Beth bynnag yw’r swm – yn fawr neu’n fach – rydyn ni wir yn gwerthfawrogi pob un rhodd. Gallwch chithau ymfalchïo eich bod yn cyfrannu at ddiogelu’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Cysylltwch os am unrhyw wybodaeth bellach: 01970 624501 neu post@cymdeithas.cymru