Gwirfoddoli

Cartref > Chwarae rhan > Gwirfoddoli

Mae'r Gymdeithas dy angen di!

Rho wybod os oes gennyt sgiliau neu ddiddordebau arbennig gall helpu gyda ein hymgyrchoedd, er enghraifft:

  • cyfieithu neu brawf ddarllen
  • llenwi amlenni neu ddosbarthu posteri
  • dylunio – posteri, dogfennau, memes, crysau-T
  • syniadau ar gyfer nwyddau a chodi arian yn gyffredinol
  • trefnu gigs neu ddigwyddiadau eraill
  • creu cartwnau neu gelf ymgyrchu
  • gwirfoddoli ar stondinau mewn eisteddfod neu ddigwyddiadau eraill
  • stiwardio yn gigs eisteddfod
  • diddordeb neu brofiad ym maes cyfathrebu – y cyfryngau cymdeithasol, ac ati
  • diddordeb neu brofiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata
  • diddordeb mewn trefnu gweithgarwch i ddysgwyr
  • diddordeb neu brofiad gydag ymgyrchwyr iaith eraill, neu faterion rhyngwladol yn gyffredinol
  • y gallu i ddarparu cyngor cyfreithiol
  • diddordeb yn ein Grŵp Addysg, neu brofiad ym maes addysg
  • diddordeb yn ein Grŵp Cymunedau Cynaliadwy, neu brofiad mewn maes cynllunio, amaeth, datblygu economaidd neu lywodraeth leol!
  • diddordeb yn ein Grŵp Dyfodol Digidol, neu brofiad ym maes teledu/radio/y we
  • diddordeb yn ein Grŵp Hawl i'r Gymraeg, neu brofiad ym maes hawliau
  • diddordeb yn ein Grŵp Iechyd a Lles, neu brofiad yn y maes.

Dim ond enghreifftiau yw’r rhain! Os gelli di feddwl am ffyrdd eraill i’n helpu – cysyllta!