Addysg

Cartref > Cyhoeddiadau > Addysg

Dogfennau Polisi Addysg

Rhagair

Drwy gyfrwng y Ddeddf Addysg Gymraeg arfaethedig, mae gan y Llywodraeth gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i sicrhau fod pob plentyn yn ein gwlad yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae'r ffaith bod wyth deg y cant o’n plant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg cyfrwng Cymraeg yn warth cenedlaethol, gyda'r anghyfartaledd ar ei waethaf ymysg cymunedau difreintiedig, mudwyr a phobl groenliw. Am nad ydyn nhw’n dod yn rhugl yn Gymraeg, mae’n debygol y bydd y bobl ifanc yma'n cael eu hallgáu o gyfleoedd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd am weddill eu bywydau. Ac mewn ardaloedd lle siaredir yr iaith gan fwyafrif y boblogaeth, mae nifer o bobl ifanc yn colli eu sgiliau iaith wrth fynd drwy’r system addysg oherwydd methiannau’r system ‘ddwyieithog’ a’r drefn asesu.

Mae Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith yn dangos bod modd i’r Llywodraeth ddatgan mewn statud y prif nod mai'r Gymraeg, erbyn 2050, fydd cyfrwng addysg yng Nghymru. Golyga hynny y byddai pob ysgol yn cael ei gosod ar lwybr sy'n symud yn gyson at sicrhau Addysg Gymraeg i Bawb erbyn y flwyddyn honno. Mae hefyd o fewn gallu'r Gweinidog i sicrhau mai Cymraeg fydd cyfrwng pob ysgol newydd ynghyd â chreu un llwybr dysgu ac un cymhwyster i bawb fydd yn dileu'r arfer cyfeiliornus o gynnig ‘Cymraeg Ail Iaith’ cwbl annigonol i’r mwyafrif tra bod lleiafrif yn cael cyfleoedd ieithyddol cyflawn.

Mae ein diolch yn fawr i Gymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Keith Bush, am ei gyfraniad allweddol i'r gwaith arbenigol o ddrafftio'r Ddeddf arfaethedig. Mae ei waith wedi galluogi Cymdeithas yr Iaith i drosi ei pholisïau a’i gweledigaeth i iaith y gyfraith gan ddangos y ffordd ymlaen i'r Llywodraeth mewn ffordd hollol ymarferol. Diolch hefyd i’r rhai sydd wedi cyfrannu sylwadau gwerthfawr ers i ni gyhoeddi ein Deddf ddrafft yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, gan ein galluogi i wneud newidiadau pwysig cyn cyhoeddi’r fersiwn terfynol hwn.

Pan fydd y Llywodraeth yn pasio ei Deddf Addysg Gymraeg ei hun, dim ond un o ddau ganlyniad all ddeillio o hynny. Un ai bydd y Gweinidog yn dewis taflu'r drysau ar agor i holl blant Cymru, neu fe fydd yn dewis dyfnhau'r anghyfartaledd ieithyddol drwy allgáu cenedlaethau'n rhagor o blant. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb. Byddai’r cynigion yn y Ddeddf hon yn gwireddu’r egwyddor honno o’r diwedd.

Llwythwch Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith i lawr

Cyflwyniad
Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ond ar hyn o bryd mae’r gyfundrefn addysg yn amddifadu 80% o bobl ifanc o'r gallu i siarad a defnyddio'r Gymraeg yn hyderus erbyn diwedd eu
cyfnod mewn addysg statudol.
Addysg cyfrwng Cymraeg yw’r unig ffordd o sicrhau bod disgyblion yn gadael yr ysgol yn medru’r Gymraeg yn hyderus felly fe gyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb llynedd, sy'n gosod nod statudol bod pob plentyn yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050.

Er mwyn i hynny ddigwydd byddai angen gweithredu yn genedlaethol ac yn lleol. Byddai angen i’r Llywodraeth fabwysiadu’r nod hynny a gosod targedau i Awdurdodau Lleol, a byddai’n rhaid i
Awdurdodau Lleol greu cynllun i gyrraedd y targedau hynny a rhoi pob ysgol ar lwybr at fod yn ysgol sy’n dysgu trwy’r Gymraeg. Mae rhan gyntaf y gwaith ystadegol hwn yn dangos y twf fydd ei angen fesul sir er mwyn cyrraedd y nod bod pob plentyn yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar gynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, sydd yn gosod nod bod 50% o blant Cymru yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050. Mae'r ystadegau yn ail
ran y gwaith hwn yn dangos y twf fydd ei angen fesul sir i gyrraedd y nod bod hanner disgyblion Cymru yn derbyn addysg Gymraeg erbyn 2050.
Er yn gam ymlaen byddai hynny’n annigonol gan y byddai'n parhau i amddifadu hanner disgyblion Cymru o allu defnyddio'r Gymraeg yn hyderus.

Fe wnaeth y Gymdeithas waith ystadegol tebyg i’r gwaith hwn yn 2017, Targedau Addysg Lleol - Cyrraedd y Miliwn o Siaradwyr Cymraeg. Mae’n dangos y twf fyddai ei angen er mwyn cyrraedd
targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae'n dangos y byddai angen i 39.7% o ddisgyblion saith oed fod yn derbyn addysg Gymraeg yn genedlaethol erbyn 2025.
Yn 2022/23, gyda dwy flynedd i fynd, dim ond 23.5% o blant cynradd oedd yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae’r gwaith yma yn ehangu ar y gwaith ystadegol hynny, ac yn tynnu sylw at y diffyg dilyniant sylweddol wrth i blant symud o'r sector cynradd i'r uwchradd, sydd i’w weld ar ei fwyaf amlwg yn
rhai o siroedd y gorllewin.

Yr hyn sy’n glir felly yw bod angen i Lywodraeth Cymru greu cynllun gweithredu, cyllido’r cynnydd a gosod targedau ar gyfer Awdurdod Lleol, waeth beth fo’r nod.

Llwytho'r ddogfen i lawr

Fe wnaethon ni ddiweddaru ein Deddf Addysg Gymraeg ym mis Mai 2023, yn dilyn ymgynghoriad. Gweler uchod

Llwythwch Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith 2022 i lawr

Argymhellion Gweithgor Cymwysterau Cymdeithas yr Iaith

1. Cyflwyniad

1.1. Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, am sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Nodai’r adroddiad: “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro … Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”

1.2. Argymhellodd adroddiad yr Athro Davies y dylid disodli Cymraeg Ail Iaith gyda chontinwwm lle byddai pob disgybl yng Nghymru yn cael cyfran o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg, gan argymell y canlynol:

“Argymhelliad 6

Llywodraeth Cymru i adolygu’r rhaglen astudio Cymraeg, dros gyfnod o dair i bum mlynedd, a defnyddio’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol ar gyfer Cymraeg fel sylfaen ar gyfer cwricwlwm diwygiedig gan gynnwys:

-un continwwm o ddysgu Cymraeg, ynghyd â disgwyliadau clir ar gyfer disgyblion sy’n dysgu Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, cyfrwng Cymraeg a lleoliadau dwyieithog; a chanllawiau, deunyddiau cefnogi a hyfforddiant.

“O ganlyniad byddai’r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â’r term Cymraeg ail iaith.”

1.3. Yn ogystal, argymhellodd yr adroddiad annibynnol y dylid “… ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg; a gosod targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.” Yn ôl ymateb i gwestiwn ysgrifenedig diweddar, ymddengys nad yw’r Llywodraeth wedi gweithredu ar yr argymhelliad chwe blwydd oed hwn o gwbl.

1.4. Chwe blynedd ers i adroddiad yr Athro Sioned Davies gael ei gyhoeddi, mae Cymraeg Ail Iaith yn parhau i gael ei addysgu mewn ysgolion a hynny er gwaethaf nifer o ymrwymiadau gan Weinidogion i'w ddileu.

1.5. Ar 18 Tachwedd 2015, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod e a'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dod i'r un casgliad: "Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol ... Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn."

1.6. Ar 28 Medi 2016, yn siambr y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd Alun Davies, y Gweinidog oedd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ar y pryd, y byddai Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gan un cymhwyster Cymraeg erbyn 2021.

1.7. Ym mis Mawrth 2018, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams y "bydd yna un cymhwyster Cymraeg" i bob disgybl, a fydd yn disodli'r cymwysterau Cymraeg a Chymraeg Ail Iaith presennol.

1.8. Fodd bynnag, ni all y Gymraeg aros tan i ddisgyblion ddechrau astudio’r cymhwyster cyfunol yn 2025 a sefyll ei arholiadau yn 2027, sef amserlen hynod araf y Llywodraeth ar gyfer newid cymwysterau yn gyffredinol. Oherwydd y system bresennol, mae tua 26,000 o bobl ifanc yn colli allan ar ruglder yn y Gymraeg bob blwyddyn. Er gwaethaf dros ddegawd o ddysgu’r Gymraeg fel pwnc felly, cânt eu hamddifadu o allu i ddefnyddio’r Gymraeg. Ni all y Gymraeg, Cymru na’r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc fforddio parhau â’r system yma am flynyddoedd lawer i ddod.

1.9. Tra bod tua 22% o blant 7 mlwydd oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, dim ond tua 17% o bobl ifanc ym mlwyddyn 11 sy'n dilyn llwybr Cymraeg iaith gyntaf. Mae canran sylweddol o ddisgyblion sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn symud ymlaen i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg, gan ddilyn llwybr Cymraeg Ail Iaith fel arfer a cholli'r arferiad o ddefnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu o ddydd i ddydd. O blith y plant a asesir fel disgyblion iaith gyntaf ym mlwyddyn 6 yng Ngwynedd, dydy 15% ddim yn cael eu hasesu felly ym mlwyddyn 9. Mae ffigwr tebyg, sef 14%, yn Sir Gaerfyrddin. Ar lefel Cymru gyfan, mae 11% o blant yn colli rhuglder yn y Gymraeg o achos diffyg dilyniant rhwng y sector gynradd ac uwchradd.

1.10. Ymhellach, mae’r Llywodraeth wedi gosod nod uchelgeisiol o sicrhau bod hanner y plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn rhugl erbyn 2050. Heb weddnewid y system, gan gynnwys creu un cymhwyster Cymraeg i bawb, ni fydd modd i'r Llywodraeth gyrraedd ei tharged ei hunan.

Llwytho'r ddogfen i lawr

Pam fod angen Deddf Addysg Gymraeg i Bawb?

Dydy’r system addysg bresennol ddim yn addas i gyrraedd miliwn o siaradwyr

  • 0.05% yw twf blynyddol addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant 7 mlwydd oed ers 20101. Byddai’n cymryd 1,560 o flynyddoedd i sicrhau bod pob plentyn 7 mlwydd yn cael addysg cyfrwng Cymraeg ar sail y twf ers 2010.
  • Mae 15% o blant Gwynedd yn colli eu gafael ar y Gymraeg wrth drosglwyddo o’u hysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
  • Mae 11% o blant Cymru yn colli rhuglder yn y Gymraeg o achos diffyg dilyniant rhwng y sector gynradd ac uwchradd.
  • Er bod 22.2% o blant 7 mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg, dim ond 17% o ddisgyblion sy’n cael eu hasesu fel Cymraeg iaith gyntaf yn 16 mlwydd oed - cwymp o 25%.
  • Er bod 17% o ddisgyblion yn sefyll arholiad TGAU Cymraeg iaith gyntaf, dim ond 5.2% o weithgareddau addysg sy’n cael eu cynnal yn Gymraeg
  • neu’n ddwyieithog mewn sefydliadau addysg bellach - cwymp o 70%.
  • -34.3% yw’r gostyngiad yn y nifer sy’n hyfforddi i fod yn athrawon sy’n medru’r Gymraeg.
  • -47% yw’r gostyngiad yn nifer y plant sy’n sefyll Cymraeg fel Safon Uwch.

Llwythwch Deddf Addysg Gymraeg Cymdeithas yr Iaith i lawr

1. Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ers dros hanner canrif.
1.2. Rydym yn cytuno’n gryf bod angen newid y Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Erfyniwn ar y Llywodraeth i beidio â gwanhau Mesur y Gymraeg 2011, ac yn lle hynny, canolbwyntio ar newid deddfwriaeth addysg Gymraeg.
1.3. Croesawn yn benodol y penderfyniad i gynnull panel o arbenigwyr i ystyried newidiadau i'r gyfraith. Mae'n drueni nad oedd y Llywodraeth wedi dilyn y model yma cyn mynd ati i lunio cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg.
1.4. Nid yw Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi cyflawni, ac mae angen creu strwythur fydd yn arwain at normaleiddio ac ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae gwaith yr adolygiad hwn yn cynnig cyfle euraid i fynd i'r afael â’r diffygion difrifol hynny. Nid yw’n addas, yn sgil yr addewidion pwysig a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn ei strategaeth iaith ddiweddar, i oddef cyfundrefn mor aneffeithiol ac ymatebol. Rhaid sefydlu cyfundrefn sy’n sicrhau cynllunio rhagweithiol, bwriadus, cadarn a hirdymor, gan fod y drefn bresennol wedi methu.

Llwytho'r ddogfen i lawr

1. Cyflwyniad
1.1. Darn o waith ystadegol cychwynnol yw'r hyn sy'n dilyn; gobeithio y bydd yn sbarduno sgwrs ehangach ynghylch y camau trawsnewidiol sydd eu hangen yn y maes addysg er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
1.2. Dim ond un darn o'r jig-so yw'r ystadegau hyn, ond mae'n ddarn allweddol os yw'r Llywodraeth am gyrraedd ei tharged. Mae targedau o'r math yma, fel rhan o becyn o fesurau, yn allweddol er mwyn cyflawni'r dyhead trawsbleidiol i sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Fel dywedon ni ddwy flynedd yn ôl yn ein dogfen weledigaeth, yn ogystal â'r elfen addysg, bydd angen mesurau i leihau'r allfudiad, o bobl ifanc yn enwedig, ynghyd â normaleiddio defnydd yr iaith ym mhob maes bywyd.
1.3. Mae'r targedau arfaethedig hyn yn seiliedig ar dybiaethau optimistaidd o ran newidiadau demograffig, felly dyma'r lleiafswm sy'n bosib ei ganiatáu o ran twf addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd y filiwn o siaradwyr. Yn wir, mae dadl gref bod rhaid symud yn gyflymach ac yn bellach.
1.4. Fodd bynnag, rydym eto i weld newidiadau trawsnewidiol, sydd eu hangen ar frys erbyn hyn. 
1.5. Mae rhanbarthau'r Gymdeithas wedi ymateb a chraffu ar eu cynlluniau addysg cyfrwng Cymraeg lleol:

  • maent yn annigonol a dweud y lleiaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ystyried system sy'n gosod targedau ar
  • awdurdodau lleol, sy'n cynnwys lleiafswm o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ry'n ni'n credu y dylai'r system
  • orfodi awdurdodau i gynllunio sut y byddan nhw'n cyflawni eu targedau, er mwyn creu'r filiwn o siaradwyr.

1.6. Ar yr ochr gadarnhaol, heb os, mae bwriad y Llywodraeth i symud pob ysgol lan y continwwm o ran darparu mwyfwy o addysg cyfrwng Cymraeg, a'r penderfyniad i ddileu Cymraeg Ail Iaith, yn galonogol. Ym mhob sir, dylen ni ddisgwyl i'r gyfundrefn addysg sicrhau bod pob plentyn yn gadael ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg.
1.7. Mewn nifer o siroedd dilyniant yn y system addysg cyfrwng Cymraeg yw'r her fwyaf. Yn siroedd fel Gwynedd, mae dileu'r opsiwn o sefyll yr arholiad ail iaith yn rhan hanfodol o wella'r sefyllfa, gan ei fod yn atal y posibiliad bod y system yn caniatáu iddynt golli eu gafael ar yr iaith. Mae'r diffyg dilyniant rhwng addysg gynradd Gymraeg ac ysgolion uwchradd yn broblem fawr mewn nifer o siroedd yn enwedig yn y Gogledd a'r Gorllewin.
1.8. Felly, rydym yn gobeithio adeiladu ar yr y gwaith ystadegol cychwynnol isod er mwyn dangos yr her o ran dilyniant yn y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg sy'n wynebu nifer o ardaloedd yn y wlad.

Llwythwch y ddogfen i lawr

Prif Gasgliadau ac Argymhellion

Cyflwyniad

1.1.Nodwyd ar ddechrau'r cyfarfod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i:

  • disodli'r cymwysterau 'Cymraeg Ail Iaith' gydag un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl erbyn 2021; a

  • creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

1.2. Cafwyd trafodaeth ddofn dwy awr rhwng asiantaethau addysg ac arbenigwyr iaith ynghylch y newidiadau sydd eu hangen i'r gweithlu addysg yn sgil y datblygiadau polisi uchod. Ceir isod nifer o brif gasgliadau'r drafodaeth.

Llwythwch y ddogfen i lawr

Ymatebion i Ymgynghoriad

Cyflwyniad 

  1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru.

  2. Credwn fod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, beth bynnag eu cefndir, ac y dylai polisi addysg y Llywodraeth fod yn adlewyrchu hynny trwy anelu at roi’r iaith i bob plentyn yn y wlad. 

  3. Mae’r ffaith bod 80% o’n plant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg cyfrwng Cymraeg yn warth cenedlaethol, gyda’r anghyfartaledd ar ei waethaf ymysg cymunedau difreintiedig, mudwyr a lleiafrifoedd ethnig. Am nad ydyn nhw’n dod yn rhugl yn Gymraeg, mae’n debygol y bydd y bobl ifanc yma’n cael eu hallgau o gyfleoedd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd am weddill eu bywydau. 

  4. Yn ogystal, mewn ardaloedd lle siaredir yr iaith gan fwyafrif y boblogaeth, mae nifer o bobl ifanc yn colli eu sgiliau iaith wrth fynd drwy’r system addysg oherwydd methiannau’r system ‘ddwyieithog’ a’r drefn asesu. Caiff hyn effaith negyddol ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.

  5. Dangosodd ffigurau o Gyfrifiad 2021 bod canran y siaradwyr Cymraeg wedi disgyn, gyda gostyngiad penodol ymysg plant a phobl ifanc. Dangosodd ffigurau diweddaraf data CYBLD bod y ganran ar draws pob cyfnod dysgu sy’n derbyn addysg Gymraeg ddim ond wedi cynyddu 0.5% ers cynnal y Cyfrifiad diwethaf, sy’n dangos methiant llwyr y system presennol. 

  6. Mae effeithiolrwydd y system addysg i greu siaradwyr newydd yn gwbl ganolog ac allweddol i strategaeth iaith y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr: nid oes modd fforddio peidio â chyflawni yn y maes hwn. Mae tynged holl strategaeth y Llywodraeth yn y fantol, ac nid oes amheuaeth bod y system addysg bresennol yn gwbl anaddas i gyflawni’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen. 

  7. Mae’n amlwg ers blynyddoedd bod y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer addysg Gymraeg yn ddiffygiol, ac rydyn ni’n croesawu felly ymrwymiad y Llywodraeth i’w diwygio. Cyflwynwn ein sylwadau ac argymhellion ar y cynigion islaw. 

  8. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fyddai’n symud y system addysg yng Nghymru, dros amser, at fod yn system sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl. 

  9. Rydym wedi cydweithio gydag arbenigwyr ym maes addysg, a Chymrawd Cyfraith Cymru, Keith Bush CB, i lunio Deddf Addysg Gymraeg fyddai’n cyflawni’r nod hwn, yn ogystal â’r diwygiadau eraill sydd eu hangen. Anogwn y Llywodraeth i fabwysiadu’r cynigion yn y Bil hwnnw yn eu cyfanrwydd os yw o ddifrif am sicrhau bod pob person ifanc yn tyfu i fyny yn siaradwr Cymraeg hyderus.

Llwythwch ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Bil Addysg Gymraeg i lawr

1. Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

1.2. Gwrthwynebwn y cynigion yn y canllawiau drafft hyn gan eu bod yn cynnig parhau â’r system Cymraeg ail iaith, drwy gynnig dau lwybr, yn groes i addewidion blaenorol y Llywodraeth. Drwy gynnig parhau â llwybr Cymraeg eilradd, mae’r Llywodraeth yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o bobl ifanc Cymru o ruglder yn y Gymraeg.

1.3. Mae’r cynnig o greu un continwwm o ddysgu’r Gymraeg yn adlewyrchu consensws ymysg mudiadau iaith [1] o blaid y cynnig o ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwn o ddysgu’r Gymraeg er mwyn gwella’r ffordd a’r gyfundrefn o ddysgu’r Gymraeg i bob disgybl. Yn hynny o beth, mae’r cynigion hyn yn groes i ddymuniad y mudiadau iaith.

2. Dau lwybr dysgu’r Gymraeg yn parhau methiant Cymraeg Ail Iaith

2.1. Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, am sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Nodai’r adroddiad: ‘Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith … mae lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn is nag mewn unrhyw bwnc arall. Petai hyn wedi cael ei ddweud am Fathemateg, neu am y Saesneg, diau y byddem wedi cael chwyldro … Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.’

2.2. Mae’r cynigion yn y canllawiau statudol drafft ynghylch ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ yn cynnig cadw’r ‘gwahaniaeth artiffisial’ rhwng Cymraeg iaith gyntaf a Chymraeg ail iaith yn groes i addewidion clir Llywodraeth Cymru mewn nifer o ddogfennau polisi a chyhoeddiadau, gan gynnwys y polisi yng nghanllawiau statudol eraill yr ymgynghoriad hwn. Yn hynny o beth, mae’r cynigion yn torri ymrwymiadau clir y Llywodraeth ac yn siom aruthrol i ni a’r holl bobl ifanc sy’n cael eu hamddifadu o’r Gymraeg o ganlyniad i fethiannau a diffyg uchelgais y system bresennol.

2.3. Dywed y ‘Canllaw i Gwricwlwm i Gymru 2022’: “Y bwriad yw y bydd pob dysgwr yn symud ar hyd yr un continwwm dysgu ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad, a hynny o 3 i 16 oed.” Ac yn y cynigion asesu dywed: ‘Bydd ymarferwyr yn asesu cynnydd dysgwyr ar hyd yr un continwwm, a thrwy hynny’n lleihau effaith y broses bontio rhwng lleoliadau ac ysgolion, yn ogystal ag oddi mewn iddynt.’ Fodd bynnag, mae’r canllaw ‘Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu’ yn cynnig creu dau gontinwwm, neu lwybr, dysgu i’r Gymraeg, nid un.

2.4. Ym mis Awst 2014, dywedodd y cyn-Brif Weinidog yn ei ddogfen polisi 'Bwrw Mlaen' bod angen i “holl ddysgwyr Cymru – p’un a ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg … siarad y Gymraeg yn hyderus”. Nid yw’r cwricwlwm arfaethedig yn cynnig cadw at yr addewid hwnnw, gan nad yw’n cynnig y bydd y disgyblion yn y rhan fwyaf o ysgolion yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus.

2.5. Mewn llythyr atom ar 18fed Tachwedd 2015, meddai'r cyn-Brif Weinidog Carwyn Jones ei fod e a'r Gweinidog Addysg ar y pryd wedi dod i'r un casgliad: "Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol ... Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn."[2]

2.6. Ar 21ain Medi 2016, mewn cyfweliad ar raglen newyddion S4C, dywedodd Gweinidog y Gymraeg y bydd y system addysg yn 'symud at un continwwm' fel bod 'pob un plentyn' yn 'gallu bod yn rhugl yn Gymraeg'. Cyfeiriodd at y cyfnod wrth i gymhwyster Cymraeg ail iaith cael ei ddiwygio fel 'cyfnod pontio' a fydd yn dod i ben yn 2021, gan awgrymu y bydd y cymwysterau Cymraeg ail iaith yn cael eu disodli gydag 'un ffrwd' erbyn y dyddiad hwnnw.

2.7. Dywed strategaeth iaith y Llywodraeth a gyhoeddwyd yn 2017 bod y Llywodraeth:
“... yn bwriadu datblygu un continwwm ar gyfer addysgu’r Gymraeg, gan bwysleisio dysgu Cymraeg yn bennaf fel modd o gyfathrebu, yn enwedig cyfathrebu ar lafar. Bydd yn ofynnol i bob ysgol yng Nghymru gyflwyno’r continwwm iaith i’r holl ddysgwyr a gwreiddio’r broses o gaffael sgiliau yn y Gymraeg ar draws y cwricwlwm dros amser.”[3]

2.8. Yn nogfen polisi ‘Cymraeg mewn Addysg: Cynllun Gweithredu 2017-21’, datgenir ar dudalen 42:
“Fel rhan o’r cwricwlwm newydd, bydd continwwm newydd ar gyfer ieithoedd yn cael ei ddatblygu, i gynnwys y Gymraeg, a bydd pob dysgwr yn dilyn yr un llwybr ar gyfer dysgu’r Gymraeg.”[4]

2.9. Fodd bynnag, mae’r cwricwlwm arfaethedig hwn yn cynnig dau lwybr ar gyfer dysgu’r Gymraeg, nid un.

2.10. Ymhellach, yn y Papur Gwyn ‘Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol’ a gyhoeddwyd eleni, ymrwymodd y Llywodraeth i:
“Cael gwared ar y rhaglenni astudio Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith a rhoi un continwwm dysgu yn eu lle fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.” [5]

2.11. Nid yw’r canllawiau statudol yn cynnig unrhyw gyfiawnhad polisi neu sail tystiolaeth er mwyn cyfiawnhau’r newid polisi arfaethedig. Chwe blynedd ers i’r Athro Sioned Davies argymell y dylid dileu Cymraeg Ail Iaith, mae’r Llywodraeth, heb ddarparu tystiolaeth i’w chyfiawnhau, yn cynnig ei hatgyfodi.

2.12. Credwn fod peryglon mawr mewn gosod disgwyliadau gwahanol ar gyfer rhai ysgolion o gymharu gydag eraill oherwydd gall hyn ond arwain at gadw ‘Cymraeg Iaith gyntaf’ a ‘Chymraeg Ail Iaith’ yn groes i addewid yr Ysgrifennyd Cabinet dros Addysg presennol a gweinidigion blaenorol. Mae’n drefn sydd wedi methu dros y degawdau yn ôl tystiolaeth adroddiad annibynol ar Gymraeg ail-iaith a gyhoeddwyd yn 2013 a thystiolaeth arolygiadau Estyn dros y degawdau.

2.13. Yn y sefyllfa bresennol mae canrannau sylweddol o ddisgyblion yn y Gorllewin a'r Gogledd yn gadael ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg i fynychu ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg - ac yn dilyn llwybr ail-Iaith. Nid yw'r disgwyliadau cyrhaeddiad Saesneg yn lleihau ar gyfer disgyblion sy’n parhau gydag addysg cyfrwng Cymraeg, ac felly ni ddylai'r disgwyliadau bod yn wahanol ar gyfer y Gymraeg yn yr ysgolion nad ydynt yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r un peth yn wir am y disgwyliadau cynnydd ar gyfer Llythrennedd a Rhifedd.

2.14. Mae’r cynigion o ran asesu yn cynnig gwneud cynllunio pontio rhwng gwahanol gyfnodau addysg yn orfodol. Sut felly mae’r Llywodraeth yn cysoni yr angen i gael proses pontio i ddangos cynnydd dysgwyr unigol, ond eto yn caniatáu i ysgolion uwchradd sydd bennaf yn cyfrwng Saesneg gymryd plant o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg ac wedyn gosod dim disgwyliad eu bod yn parhau i deithio ar hyd y continwwm o ran eu sgiliau Cymraeg, gan arwain atynt yn colli sgiliau, yn lle parhau i wneud cynnydd?

2.15. Mae’r deilliannau cyflawniad yn y camau cynnydd arfaethedig o ran y Gymraeg ar gyfer disgyblion mewn ysgolion sydd bennaf yn cyfrwng Saesneg yn gosod disgwyliadau yn llawer rhy isel ac nad ydynt yn cynrychioli newid gwirioneddol o’r sefyllfa bresennol. Gwelwn hyn yn glir o ystyried datganiad fel ‘Gallaf adnabod ac ynganu llythrennau a geiriau syml yn Gymraeg’ ar gyfer plant ar gam cynnydd un, sydd ddim yn gynnydd ar ddisgwyliadau presennol ac yn gosod disgwyliadau yn rhy isel o lawer, yn enwedig o ystyried gallu plant ifanc i gaffael iaith. Ar y pen arall, nodwn nad oes unrhyw ddisgwyliad o ruglder, neu’r gallu i gyfathrebu’n hyderus yn y Gymraeg, i bobl ifanc ar gam cynnydd pump, sydd eto ddim yn cynrychioli codi disgwyliadau a chyrhaeddiad presennol.

2.16. Os taw un o brif amcanion Cwricwlwm i Gymru ydy gwella cyrhaeddiad holl bobl ifanc Cymru a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion, nid yw’r cynigion hyn yn gwneud hynny pan mae’n dod at y Gymraeg. Yn wir, maent yn golygu parhau gyda system sy’n rhwystro pobl ifanc rhag cyrraedd eu llawn botensial o ran sgiliau iaith, ac yn cadw’r bwlch cyrhaeddiad enfawr o ran y Gymraeg rhwng pobl ifanc mewn lleoliadau addysg gwahanol.

2.17. Byddwn yn gorfod gwrthwynebu’r cynigion asesu i osod y pum cam cynnydd mewn deddfwriaeth fel y maent gan y byddai’n gosod nenfwd statudol ar ddeilliannau cyflawniad y rhan fwyaf o bobl ifanc Cymru o ran y Gymraeg.

2.18. Er mwyn sefydlu un continwwm o ran y Gymraeg i bob disgybl, a sicrhau bod digon o hyblygrwydd i benaethiaid, yn lle cynnig yr ail lwybr, dylai’r canllawiau bwysleisio bod gan benaethiaid mewn ysgolion sydd yn bennaf cyfrwng Saesneg fwy o hyblygrwydd o ran symud disgyblion ar hyd y camau cynnydd fel rhan o un continwwm dysgu Cymraeg.

Cwestiynau sy’n codi o’r cynnig i barhau â dau lwybr iaith yn y canllawiau

2.19. Mae nifer o gwestiynau yn codi o gynigion y canllawiau statudol mae angen i’r Llywodraeth eu hateb:

  • Pa adroddiad arbenigol sydd wedi cynnig cadw dau lwybr dysgu’r Gymraeg yn lle un?
  • Pam ydy’r Llywodraeth yn cynnig troi ei chefn ar ei holl addewidion polisi blaenorol i sefydlu un continwwm dysgu’r Gymraeg i bob disgybl?
  • Sut mae’r disgwyliadau a gynigir gan y canllawiau hyn yn uwch na’r system Cymraeg ail iaith bresennol?
  • Sut y bydd y canllawiau hyn yn codi safonau dysgu’r Gymraeg ym mhob ysgol?
  • Sut mae’r Llywodraeth yn cyfiawnhau eu cynigion i barhau â dau lwybr dysgu’r Gymraeg ond ar yr un pryd dweud y ‘Bydd ymarferwyr yn asesu cynnydd dysgwyr ar hyd yr un continwwm, a thrwy hynny’n lleihau effaith y broses bontio rhwng lleoliadau ac ysgolion, yn ogystal ag oddi mewn iddynt’?
  • Sut mae’r canllawiau statudol hyn yn gyson ag ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg i greu un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl?
  • Ar ba sail polisi ac ar sail pa dystiolaeth penderfynodd y Llywodraeth y byddai’n briodol cynnig adolygu’r camau cynnydd Cymraeg ar gyfer disgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg dros amser? Ac ar ba sail penderfynwyd ar yr amserlen ar gyfer eu hadolygu?
  • Sut mae’r cynnig i adolygu’r camau cynnydd Cymraeg ar gyfer disgyblion mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg dros amser yn cyd-fynd â chynigion y Llywodraeth i bennu’r camau cynnydd mewn deddfwriaeth? A oes ymrwymiad felly i adolygu’r ddeddfwriaeth er mwyn cryfhau’r camau cynnydd neu ydy’r ddeddfwriaeth yn mynd i gynnig bod modd gwneud hynny heb ddeddfwriaeth bellach?

3. Cwricwlwm Cymreig
3.1. Rydym yn croesawu’r pwyslais ar berspectif Cymreig mewn rhai mannau yn y ddogfen. Fodd bynnag, mae nifer o anghysondebau yn y pwyslais rhwng gwahanol ddogfennau ac adrannau. Credwn y dylai’r Llywodraeth gysoni’r polisi o ran Cymreictod y cwricwlwm newydd drwy gadw at y term ‘Cymru a’r byd’ ym mhob rhan o’r canllawiau. Credwn fod y mannau lle mae’r ddogfen yn rhoi pwyslais ar ddysgu gan wledydd eraill y Deyrnas Unedig yn gam gwag o safbwynt y Gymraeg, gan fod gwir angen edrych tu hwnt i wledydd Prydain er mwyn rhoi’r Gymraeg mewn cyd-destun sy’n llesol o ran hybu defnydd a dealltwriaeth ohoni.

4. Casgliad

4.1. Pe bai Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r cwricwlwm arfaethedig hwn, byddai’n torri ei haddewidion, a wnaed ar sawl achlysur ac mewn nifer o ddogfennau polisi, i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un continwwm o ddysgu’r Gymraeg. Drwy wneud hynny, byddai’r cynigion arfaethedig yn parhau gyda system eilradd o ddysgu’r Gymraeg gan osod nenfwd isel iawn ar allu y rhan fwyaf o bobl ifanc yn y Gymraeg. Yn wir, mae’r cynigion yn golygu cadw’r methiannau a’r ‘gwahaniaeth artiffisial’, yng ngeiriau’r cyn-Brif Weinidog, rhwng Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith yn y gyfundrefn bresennol.

4.2. Er gwaetha’r ffaith bod y Llywodraeth yn ymrwymo at y canlynol:
‘Byddwn yn adolygu’r disgwyliadau ar gyfer dysgwyr sy’n dysgu’r Gymraeg mewn lleoliadau/ysgolion/ffrydiau cyfrwng Saesneg ac yn cynyddu’r disgwyliadau hynny wrth i’r carfannau weithio trwy Gwricwlwm i Gymru 2022, ac wrth i sgiliau methodolegol a phrofiad ymarferwyr gynyddu. Bydd hyn yn cyfrannu at wireddu’r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050’

ni roddir unrhyw fanylion o ran ffurf, cynllun, nod nac amserlen yr adolygiad hwn, nac at ba garfannau yn union mae hyn yn cyfeirio. Ni welir y fath gynnig ar gyfer meysydd eraill. Trwy wneud hyn, mae’r Llywodraeth yn ymwrthod â’i chyfrifoldeb, yn osgoi atebolrwydd ac yn tanseilio ei pholisi ei hun. O ganlyniad, byddwn yn colli cyfle gwirioneddol i sefydlu un continwwm Cymraeg.

4.3. Nid yw’r ddogfen yn cynnig unrhyw dystiolaeth wrthrychol nag unrhyw gyfiawnhad dros y newid ym mholisi’r Llywodraeth o gadw dau lwybr dysgu’r Gymraeg, a hynny yn groes i addewidion nifer o Weinidogion y Llywodraeth dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, byddai’r cynigion a amlinellir yn y ddogfennaeth hon yn gam mawr yn ôl yn yr ymdrech i sicrhau bod pob plentyn yn gadael yr ysgol yn siarad Cymraeg yn hyderus.

5. Gwybodaeth bellach

5.1. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi sawl papur polisi allweddol ynglŷn ag addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf fel rhan o’r agenda miliwn o siaradwyr Cymraeg: 

  • Ymateb i’r papur gwyn ‘Cenhadaeth ein cenedl: cwricwlwm gweddnewidiol – cynigion am fframwaith deddfwriaethol newydd’ (2019)
  • Un Cymhwyster Cymraeg Iaith i Bawb (2019)
  • Bil Addysg Gymraeg i bawb - papur trafod (2019)
  • Ymateb i adolygiad Bwrdd Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (2018)
  • Cynllunio'r Gweithlu Addysg – Cyrraedd Miliwn o Siaradwyr (2016)
  • Miliwn o Siaradwyr Cymraeg – Gweledigaeth 2016 Ymlaen (2015)

5.2. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r ymateb hwn, a’r materion sy’n codi, cysylltwch â post@cymdeithas.cymru neu 01970 624501.


Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Gorffennaf 2019


1 - Yn eu maniffesto ar gyfer etholiadau Cymru yn 2016, dywedodd Rhieni dros Addysg Gymraeg: “Mae adroddiad Sioned Davies (2012) wedi nodi bod ysgolion Saesneg ar y cyfan yn aneffeithiol wrth ddysgu’r Gymraeg. Bydd dysgu’r Gymraeg ar un continwwm, gan ddatblygu o’r sector cynradd i’r uwchradd a hefyd defnyddio’r Gymraeg ar gyfer gweithgareddau, yn fodd o gyflwyno’r Gymraeg yn effeithiol fel iaith fyw yn yr ysgolion hyn.”
2 - http://cymdeithas.cymru/dogfen/addysg-gymraeg-i-bawb-llythyr-carwyn-jones
3 - https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-03/cymraeg-2050-strategaeth-y-gymraeg-v1-1.pdf
4 - https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-02/y-gymraeg-mewn-addysg-cynllun-gweithredu-2017%E2%80%9321.pdf
5 - https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-02/dogfen-ymgynghori-cwricwlwm-trawsnewidiol.pdf

 

1. Cyflwyniad
1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
1.2. Mae effeitholrwydd y system addysg i greu siaradwyr newydd yn gwbl ganolog ac allweddol i strategaeth iaith y Llywodraeth: nid oes modd fforddio peidio â chyflawni yn y maes hwn.
Mae tynged holl strategaeth y Llywodraeth yn y fantol.
1.3. Nid oes amheuaeth bod y system addysg bresennol yn gwbl anaddas i gyflawni’r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen. Ar sail y ‘twf’ ers 2010, byddai’n cymryd:
- 1,560 o flynyddoedd i sicrhau bod pob plentyn 7 mlwydd yn cael addysg cyfrwng Cymraeg;
- a 352 o flynyddoedd i gyrraedd targed y Llywodraeth o 40% o blant 7 mlwydd oed yn cael addysg cyfrwng Cymraeg.
1.4. Cyflwynwn argymhellion a sylwadau manwl ar y canllaw arfaethedig is-law. Fodd bynnag, credwn fod angen dybryd i’r Llywodraeth nesaf gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn unol ag argymhelliad ei phanel o arbenigwyr ei hun, Bwrdd Cynghori Strategol y Gymraeg mewn Addysg. Er ein bod yn gwerthfawrogi ymdrechion swyddogion i wneud eu gorau o fewn cyfyngiadau’r ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, mae’n gwbl amlwg bellach bod angen Deddf Addysg Gymraeg er mwyn cyflawni gweledigaeth miliwn o siaradwyr y Llywodraeth.
1.5. Ymhellach, mae’r newidiadau i’r categorïau hyn yn codi cwestiynau eraill am bolisi addysg y Llywodraeth, yn benodol cwestiynau ynghylch y cymhellion ariannol a chamau i gynllunio’r
gweithlu sydd eu hangen. Galwn ar y Llywodraeth i gyhoeddi camau gweithredu pendant a newidiadau sylweddol yn y meysydd hyn, a hynny’n fuan.

Llwythwch ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad ar ganllaw anstatudol yn ymwneud â chategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i lawr