Cymunedau Cynaliadwy
Cartref > Cyhoeddiadau > Cymunedau Cynaliadwy
Dogfennau Polisi
Deddf Eiddo - Dyma'r Cyfle: Cynigion Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo
RHAGARWEINIAD
Mae ein cymunedau gwledig ac arfordirol yn wynebu prinder digynsail o gartrefi fforddiadwy oherwydd y bwlch cynyddol rhwng lefelau incwm lleol a phrisiau tai i’w prynu a’u rhentu. Mae pobl ifanc a theuluoedd yn cael eu gorfodi i adael eu cymunedau, gan effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau hanfodol, dyfodol ysgolion gwledig, y gweithlu sydd ar gael i fusnesau lleol a chynaliadwyedd ein cymunedau Cymraeg. Roedd y gostyngiad brawychus yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8% o’r boblogaeth yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn brawf pendant o hyn.
Dangosodd gyfnod y pandemig Cofid effeithiau newidiol y farchnad agored ar ei waethaf e.e. cystadleuaeth ffyrnig am dai wrth i bobl gefnog ddianc o’r dinasoedd, tai mewn pentrefi glan môr yn cael eu prynu dros nos fel ail gartrefi a thai gwyliau, landlordiaid preifat yn troi tenantiaid lleol allan a gosod eu cartrefi fel llety gwyliau gan arwain at y boblogaeth leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai yn eu cymunedau eu hunain.
Gwelwyd prawf pellach o hyn wrth i fwy a mwy o bobl Cymru ymgeisio am dai cymdeithasol, profi digartrefedd a wynebu bywyd ansefydlog mewn llety dros-dro. Amcangyfrifir ar hyn o bryd bod bron i 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol a gwyddom fod 10,900 o bobl yn byw mewn llety dros dro ar ddiwedd mis Gorffennaf eleni, gan gynnwys 3,350 o blant o dan 16 oed. Yn 2022/23 roedd nifer yr aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref gan awdurdodau lleol yn fwy na 12,500. Dim ond 30% o'r rhain a gafodd gymorth i sicrhau llety'n llwyddiannus.
Rhaid cymryd camau brys i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb economaidd a chymdeithasol difrifol a achosir gan yr argyfwng tai presennol mewn cymunedau ledled Cymru.
Croesewir y pecyn o fesurau cynllunio, trethiant lleol a thrwyddedu a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2022 i fynd i’r afael ag ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr, Fodd bynnag, ar eu pen eu hunain ni fyddant yn gwneud llawer i leihau niferoedd yr ail gartrefi a llety gwyliau na gwella gallu'r boblogaeth leol i sicrhau cartrefi gwirioneddol fforddiadwy.
Mae targed Llywodraeth Cymru i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd yn ystod ei thymor presennol (2021-26) ymhell o fod yn ddigonol. Rhaid cynyddu'n sylweddol y cyflenwad o gartrefi fforddiadwy ar gyfer aelwydydd incwm isel a chanolig, i'w rhentu ac i'w prynu, drwy adeiladu tai newydd a rhoi mwy o bwyslais ar gaffael tai o'r stoc bresennol.
Bydd sicrhau cyfradd lawer uwch o gartrefi mewn perchnogaeth cyhoeddus a chymunedol - drwy awdurdodau lleol, cymdeithasau tai, mentrau mewn perchnogaeth gymunedol a mentrau cydweithredol - hefyd yn dylanwadu'n gadarnhaol ar fforddiadwyedd yn y farchnad dai ehangach.
Os ydym am sicrhau parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw, rhaid inni wrthod yr athroniaeth economaidd neo-ryddfrydol sydd wedi’i hyrwyddo gan lywodraethau olynol y DU ers dros ddeugain mlynedd. Enghraifft gynnar o’r gred hon yn y farchnad agored a phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus oedd cyflwyno’r Hawl i Brynu tai cyngor yn 1981. Hyd nes i’r Hawl i Brynu gael ei ddiddymu yng Nghymru yn 2019, collwyd dros 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent i’r farchnad agored, ffactor a gyfrannodd yn fawr at yr argyfwng tai presennol.
Dyma pam mae’n rhaid trawsnewid y system dai gyfan i roi anghenion lleol cyn elw a thrin tai fel asedau cymdeithasol er budd pawb. Mae’r ymgyrch dros Ddeddf Eiddo yn ddim llai nag ymgyrch dros ddyfodol holl gymunedau Cymru, boed yn Gymraeg eu hiaith, yn Saesneg eu hiaith neu’n aml-ddiwylliannol.
Galwn ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a diogelu dyfodol ein cymunedau lleol drwy basio Deddf Eiddo flaengar yn ystod tymor y Llywodraeth hon. I ddilyn, gweler ein cynigion ar gyfer y mesurau i’w cynnwys mewn Deddf Eiddo i Gymru.
Fe wnaethon ni ddiweddaru'n cynigion ar gyfer Deddf Eiddo ym mis Tachwedd 2023, maen nhw i'w gweld uchod
NOD 1: HAWL I GARTRE'N LLEOL
Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i weithredu ar gais pobl leol am gartref i'w brynu, ei rentu neu drwy gynllun hybrid - a hynny o fewn pellter ac amser rhesymol.
Byddai Deddf Eiddo yn:
i. gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau datrysiadau tai addas ar gyfer pobl leol o fewn pellter ac amser rhesymol;
ii. rhoi pwerau dewisol eang i awdurdodau lleol fod yn ddyfeisgar wrth hwyluso datrysiadau tai addas o fewn pellter ac amser rhesymol;
iii. gosod dyletswydd ar ddarparwyr tai cymunedol eraill - cymdeithasau tai a mentrau mewn perchnogaeth gymunedol - i gynorthwyo’r awdurdod lleol i sicrhau datrysiadau tai addas ar gyfer pobl leol o fewn pellter ac amser rhesymol.
NOD 2: CYNLLUNIO AR GYFER ANGHENION LLEOL
Gosod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i gyd-gynhyrchu Asesiad Cymunedol rheolaidd ym mhob ardal o'r sir gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal. Byddent yn sail i bolisïau tai, defnydd tir a pholisïau cyhoeddus fel trafnidiaeth ac addysg.
Byddai Deddf Eiddo yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i:
i. cynhyrchu Asesiad Cymunedol ar y cyd â chynghorau cymuned unigol o leiaf bob 5 mlynedd;
ii. llunio Strategaeth Tai Lleol sy'n adlewyrchu canlyniadau'r Asesiadau Cymunedol trwy raglen fuddsoddi o brosiectau penodol i’w comisiynu ar gyfer pob cymuned lle mae anghenion lleol wedi eu hadnabod;
iii. diwygio eu polisïau defnydd tir a’u targedau tai yn y Cynllun Datblygu Lleol yn unol â chanlyniadau’r Asesiadau Cymunedol er mwyn galluogi atebion addas i’r anghenion lleol.
NOD 3: GRYMUSO CYMUNEDAU
Cryfhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol allweddol trwy sefydliadau a arweinir gan y gymuned. Gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i waredu neu brydlesu tir ac eiddo i fentrau cymdeithasol ym mherchnogaeth y gymuned.
Byddai Deddf Eiddo yn cyflwyno Hawl Gymunedol i Brynu gan rymuso cymunedau i brynu a phrydlesu tir ac eiddo oddi wrth dirfeddianwyr preifat a chyhoeddus at ddibenion cymunedol, gan gynnwys mentrau tai fforddiadwy a arweinir gan y gymuned.
NOD 4: BLAENORIAETHU POBL LEOL
Creu system tai ac eiddo sy'n diwallu anghenion lleol ac yn gwarchod cymunedau rhag effeithiau y farchnad rydd; gosod amodau ar berchnogaeth a gwerthiant sy'n rhoi hawliau cyntaf i bobl leol neu sefydliadau a arweinir gan y gymuned i brynu neu rentu tai a phrynu tir ac eiddo yn unol â'r Asesiadau Cymunedol.
Byddai Deddf Eiddo yn:
i. gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau, mewn cymunedau lle mae’r Asesiad Cymunedol yn dangos anghenion lleol heb eu diwallu, moratoriwm ar werthu eiddo i unrhyw un heb gysylltiad lleol;
ii. rhoi pwerau i awdurdodau lleol ei gwneud yn ofynnol i werthwyr eiddo hysbysebu’n lleol yn gyntaf;
iii. gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod darparwyr tai cymunedol yn gweithredu polisïau gosod sy’n blaenoriaethu ymgeiswyr lleol yn unol â’r Asesiadau Cymunedol diweddaraf.
NOD 5: RHEOLI’R SECTOR RHENTU
Rheoli lefel rhenti, safonau tai ac amodau tenantiaeth i sicrhau cartrefi fforddiadwy o safon yn y sector rhentu preifat a'r sector tai cymdeithasol
Byddai Deddf Eiddo yn:
i. diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i roi’r hawl i denantiaid landlordiaid preifat dderbyn Contractau Diogel;
ii. rheoli rhenti landlordiaid preifat a landlordiaid cymunedol i sicrhau eu bod yn fforddiadwy i denantiaid ar incwm is na’r canolrif.
NOD 6: CARTREFI CYNALIADWY
Sicrhau bod y stoc dai presennol a chartrefi newydd yn fforddiadwy, yn lleihau carbon ac yn gydnaws ag anghenion cymunedol – trwy lynu at egwyddor datblygu cynaliadwy.
Byddai Deddf Eiddo yn:
i) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i sicrhau bod eu polisïau tai a chynllunio, Cynlluniau Datblygu, Strategaethau Tai Lleol a rhaglenni buddsoddi tai yn bodloni egwyddor datblygu cynaliadwy a nodau llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015;
ii) diwygio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 drwy ymestyn y ddyletswydd i weithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a gweithio tuag at y nodau llesiant i gynnwys tirfeddianwyr preifat, datblygwyr tai a darparwyr tai cymunedol.
NOD 7: BUDDSODDI MEWN CYMUNEDAU
Galluogi cymunedau i arfer eu hawliau i berchenogi tai, tir ac asedau cymunedol trwy Gronfa Cyfoeth Cymunedol. Hwyluso benthyciadau llog isel gan fanc cymunedol, fel Banc Cambria, ar gyfer pobl leol a mentrau a arweinir gan y gymuned.
Byddai Deddf Eiddo yn:
i) gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sefydlu ac ariannu Cronfa Cyfoeth Cymunedol (yn debyg i Gronfa Dir Yr Alban);
ii) rhoi pwerau i awdurdodau lleol gynnig benthyciadau a grantiau ac i fuddsoddi ecwiti mewn mentrau dan arweiniad y gymuned;
iii) rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol fuddsoddi mewn cronfa Banc Cymunedol ar gyfer benthyciadau llog isel i bobl leol a mentrau mewn perchnogaeth gymunedol.
1. Cyflwyniad
Dangosodd canlyniadau Cyfrifiad 2011 ostyngiad nid yn unig yng nghanran y siaradwyr Cymraeg, o 21% i 19%, ond hefyd yn nifer y wardiau gyda thros 70% yn medru’r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 3,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn yn byw yng Nghymru.
Dengys y ffigyrau nifer o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflwr yr iaith. Amlygir mai allfudo — megis pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith — yw un o’r prif ffactorau sy’n arwain at argyfwng yr iaith. Amcangyfrifir ein bod yn colli tua 5,200 o siaradwyr Cymraeg y flwyddyn drwy allfudo o Gymru.
Os edrychwn ar Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin dros y degawd diwethaf, mae 117,000 o bobl ifanc rhwng 15 a 29 wedi gadael yr ardaloedd hynny, sy'n cyfateb i dros 55 y cant o'r holl allfudiad ar gyfer pob oedran. Yng Ngheredigion, fe wnaeth 3,670 o bobl ifanc adael y sir mewn un flwyddyn yn unig, sef 2015 i 2016 - mae hynny’n cyfateb i bron 20 y cant o'r holl boblogaeth o bobl ifanc rhwng 15 a 29 oed yn gadael sir Ceredigion.
Dyna un o’r prif resymau y mae’n rhaid canolbwyntio ar bolisïau fyddai’n creu gwaith mewn cymunedau Cymraeg, ac ymgyrchu dros bolisïau economaidd a fydd yn cryfhau sefyllfa’r iaith.
Cyflwyniad
Yn ein dogfen weledigaeth ddiweddar, rydym wedi galw ar i bob plaid wleidyddol gynnwys cynigion yn eu maniffesto etholiadau 2016 sy’n ceisio anelu at y tri nod canlynol:
1. Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn
2. Atal yr allfudiad a chynnal cymunedau ynghyd â sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i’w cymunedau
3. Defnyddio’r Gymraeg ymhob rhan o fywyd er mwyn sicrhau mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol o’r crud i’r bedd
Yn nhermau niferoedd siaradwyr, allfudo yw un o’r ffactorau sy’n cael yr effaith mwyaf niweidiol ar y Gymraeg. Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd crynodeb o ganlyniadau’r Gynhadledd Fawr gan Gwmni Iaith ar ran y Llywodraeth a oedd yn dweud mai symudoledd poblogaeth yw’r ‘her gyfredol fwyaf’ i’r iaith.
Mae’r papur hwn yn rhan o gyfres o gyhoeddiadau sy’n ehangu ac yn manylu ar y weledigaeth a gyhoeddwyd gennym yn Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 Ymlaen.
Sicrhawyd nifer o gonsesiynau o ran y Gymraeg yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015 y dylent fod yn llesol i’r Gymraeg a holl gymunedau Cymru, sef:
• Sefydlu’r Gymraeg fel ystyriaeth berthnasol (material consideration) statudol
• Sefydlu proses o asesu effaith iaith cynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol ynghyd â’r fframwaith datblygu genedlaethol
• Creu pwrpas statudol i’r system gynllunio
Er y dylai’r Gymraeg bellach dderbyn rhagor o ystyriaeth yn y gyfundrefn gynllunio, os yw’r Gymraeg yn mynd i ffynnu dros y blynyddoedd nesaf, mae angen ymwneud â defnydd o’r stoc tai presennol. Mae’n glir bod costau tai a rhentu yn rhai o’r ffactorau sy’n cyfrannu at allfudo a symudoledd poblogaeth, patrymau sydd, ar y cyfan, yn niweidiol iawn i’r Gymraeg.
Dyna pam rydym wedi bod yn ymgyrchu ers ymhell dros chwarter canrif am drefn eiddo newydd, sy’n
ystyried tai fel cartrefi yn hytrach nag adnoddau economaidd. Cyhoeddwyd ein llawlyfr Deddf Eiddo cyntaf
ym 1992 yn seiliedig ar y chwech egwyddor canlynol:
1. Asesu’r angen lleol am dai
2. Sicrhau’r hawl i gartref am bris neu rent teg yn y gymuned leol
3. Cymorth i brynwyr tro-cyntaf
4. Blaenoriaeth i bobl leol
5. Cynllunio i’r gymuned
6. Ailasesu caniatâd cynllunio
Wrth bwyso am ddeddfwriaeth newydd a fydd yn mynd i’r afael â’r heriau yn y cyd-destun presennol, rydym
wedi addasu’r egwyddorion gwreiddiol uchod.
Llwythwch y ddogfen i lawr
Cyd-destun
Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn dangos na chyflawnwyd dau o brif amcanion strategaeth iaith flaenorol Llywodraeth Cymru, Iaith Pawb: bu gostyngiad nid yn unig yn y canran o siaradwyr Cymraeg, o 21% i 19%, ond hefyd yn y nifer o wardiau gyda dros 70% yn medru’r iaith. Yn fras, ymddengys fod tua 3,000 yn llai o
siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn.
Dengys y ffigyrau nifer o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar gyflwr yr iaith. Amlygir mai allfudo — megis pobl ifanc yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith — yw un o’r prif ffactorau a arweinia at argyfwng yr iaith. Dyma pam mae rhaid canolbwyntio ar bolisïau fyddai’n creu gwaith mewn cymunedau Cymraeg ac ymgyrchu dros bolisïau economaidd a fydd yn cryfhau sefyllfa’r iaith.
Llwythwch "Iaith a Gwaith - Strategaeth Economaidd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg" i lawr
Cyflwyniad
Nid nawr yw’r amser am newidiadau bychain i’r system gynllunio. Am lawer rhy hir, mae’n cymunedau a’n pobl - boed yn siaradwyr Cymraeg neu beidio - wedi dioddef effeithiau negyddol cyfalafiaeth. Yn hytrach na gwasanaethu pobl a chymunedau, mae’r farchnad dai a’r gyfundrefn gynllunio wedi cymryd mantais ohonynt.
Mae’n rhaid i newidiadau i’r gyfundrefn tai a chynllunio cynnig atebion Cymru-gyfan yn hytrach nag un sydd dim ond yn amddiffynnol ynglŷn â'r Gymraeg. Cred y Gymdeithas fod gan bob cymuned botensial i fod yn gymuned Gymraeg, a dylai'r system gynllunio gyfrannu at dyfu’r Gymraeg ar hyd a lled y wlad, yn hytrach na dim ond amddiffyn y cymunedau Cymraeg sy’n bodoli eisoes.
Credwn yn gryf bod y Gymraeg yn perthyn i bawb a phob ardal yng Nghymru. Mae ein cynigion yn cynnig cymorth i bawb sydd yn dioddef effeithiau’r farchnad rydd bresennol, gan anelu at daclo anghyfartaledd incwm yn ogystal â gwahaniaethu yn erbyn buddiannau’r Gymraeg. Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn bwysig iawn i gyflwr y Gymraeg, yn enwedig yn ein cymunedau.
Mae enghreifftiau lu o broblemau’r gyfundrefn tai a chynllunio bresennol - o Fodelwyddan, i Fethesda a Phenybanc. Nid oes amheuaeth bod y datblygiadau tai anghynaliadwy hyn yn cael effaith niwediol ar yr iaith. Mae nifer y cymunedau gyda mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011.
Yn wir, dyna oedd un o brif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr - ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru a gynhaliwyd yn dilyn canlyniadau trychinebus y Cyfrifiad. Dywed adroddiad yn crynhoi casgliadau’r Gynhadledd Fawr:
“Roedd consensws mai symudoledd poblogaeth yw’r her gyfredol fwyaf i hyfywedd y Gymraeg a gwelwyd bod yr atebion i’r her honno ynghlwm â…polisïau tai a chynllunio…”
Rhagair
Mae bellach yn dair mlynedd ar ddeg ers i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gyhoeddi Llawlyfr Deddf Eiddo. Amserol felly yw adolygu, diwygio a diweddaru’r llawlyfr gwreiddiol yn sgîl y
datblygiadau a welwyd yn ystod y 1990au ac ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif newydd ym maes tai a chynllunio.
Oherwydd y gwahanol ddeddfwriaeth, rheoliadau a chynghorion statudol amrywiol sy’n dylanwadu ar feysydd tai a chynllunio, mae cryn ddryswch a diffyg eglurder yn llesteirio ymdrechion i weithredu mewn modd cynaliadwy yn y meysydd hyn. Y gwir yw nad oes gan Lywodraeth y Cynulliad na’r awdurdodau cynllunio lleol na’r awdurdodau tai ac asiantaethau tai yr un strategaeth gynhwysfawr a chydlynol i’w harwain wrth ymdrin â sefyllfa’r iaith Gymraeg yng nghyd-destun y meysydd tai, cynllunio a datblygu cymunedol.
Fodd bynnag, un o brif amcanion Llywodraeth y Cynulliad a phob awdurdod cynllunio lleol yw “gweithredu mewn modd cynaliadwy”. O safbwynt parhad a ffyniant yr iaith Gymraeg,
rhesymol fyddai disgwyl bod hyn yn golygu gweithredu mewn modd sy’n cynnal, gwarchod a hybu “bio-amrywiaeth” ddiwylliannol, ieithyddol a chymdeithasol cymunedau Cymru. Un o
nodweddion mwyaf arbennig y cymunedau hynny yw eu hunaniaeth Gymraeg a Chymreig.
Ac eto, nid oes ar hyn o bryd fawr ddim rheolaeth dros lawer o’r tueddiadau cyfoes sy’n dylanwadu’n ddirfawr ar wead cymdeithasol cymunedau Cymru, dosbarthiad siaradwyr
Cymraeg a defnydd yr iaith. Ymhlith y tueddiadau di-reolaeth hyn, nodwn:
- batrymau allfudo a mewnfudo
- patrymau gweithio a phreswylio
- adeiladu tai newydd
- amlder ail gartrefi a chartrefi ymddeol
- y duedd i brynu eiddo i’w drin fel buddsoddiad ariannol neu asedion.
Oherwydd sefyllfa fregus yr iaith Gymraeg mae’r tueddiadau hyn yn peryglu ddemograffi a defnydd yr iaith mewn llawer rhan o’r Gymru sydd ohoni.
Ymatebion i Ymgynhgoriadau
Ymateb Cymdeithas yr Iaith i'r ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Rydyn ni’n cytuno gydag Amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, fel mae’r ymgynghoriad yn ei nodi mae angen lliniaru newid hinsawdd ac addasu i’r newidiadau i’r hinsawdd, ac mae rhan gan bob sector ei chwarae, gan gynnwys y sector amaeth. Mae’n allweddol er hynny nad yw’r pwyslais ar y sector amaeth, sydd eisoes yn rhoi mesurau ar waith i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Er mai Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n cael ei gyflwyno, yn anffodus, nid yw’n mynd i’r afael â chynaladwyedd na chryfhau y diwydiant ei hun a’n cymunedau gwledig. Mae datblygu cynaliadwy’n golygu dysgu sut i fyw o fewn terfynau adnoddau cyfyngedig y Ddaear ar yr un pryd â chadw adeiledd ein cymdeithas a’i wella. Ni ellir diystyru cynaladwyedd y diwydiant a chymunedau.
Mae adran 2 Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi bod datblygu cynaliadwy yn cynnwys gwella llesiant diwylliannol y wlad:
“Yn y Ddeddf hon, ystyr “datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (gweler adran 5), gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant (gweler adran 4).”
Credwn fod rhai sectorau economaidd yn allweddol i gynaladwyedd ein cymunedau Cymraeg ac sydd â’r potensial i gyfrannu tuag at greu cymunedau hyfyw i’r dyfodol.
Un o’r sectorau allweddol hynny yw amaethyddiaeth, ond mae’n un a welodd wasgfa sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r wasgfa hon wedi cyfrannu at ddiboblogi ein cymunedau gwledig a newid patrwm cymdeithas.
Ymateb Cymdeithas yr Iaith i ymgynghoriad "Creu llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys rhenti teg a fforddiadwyedd"
Tra yn croesawu’r cyfle i gyflwyno ymateb i gais am dystiolaeth ar sicrhau tai digonol sydd i fod yn sail ar gyfer Papur Gwyn ar Ddeddf Eiddo a Rhenti Teg, nodwn ein siom dybryd a’n pryder nad oes sôn o gwbl am Ddeddf Eiddo fyddai’n rheoleiddio'r farchnad tai.
Gan bod tai yn parhau i gael eu trin fel asedau masnachol i wneud elw ohonyn nhw yn hytrach nag asedau cymdeithasol i ddarparu cartref mae prisiau tai a rhent ymhell y tu hwnt i gyrraedd pobl ar gyflog lleol, sy’n anochel yn eu gorfodi i adael eu cymuned. Mae angen mynd at wraidd y broblem honno, sef y farchnad dai agored, yn hytrach na chyfyngu at rai symptomau.
Mae’r gweithredu i leihau effaith ail dai a thai gwyliau wedi bod yn gyfyng, gan osod cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i benderfynu i weithredu mesurau newydd ai peidio.
Canlyniad mwyaf tebygol cyflwyno’r mesurau newydd hyn fydd lleihau’r cynnydd yn nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhai ardaloedd neu symud y broblem i ardaloedd newydd, yn hytrach nag atal ail dai a llety gwyliau.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn galw am Ddeddf Eiddo i reoli’r farchnad tai ers diwedd y saithdegau. Yn y cyfnod ers hynny mae problemau tai yn ein cymunedau wedi gwaethygu, a’r pandemig diweddar wedi amlygu’r broblem yn fwy wrth i fwy o bobl eisiau symud i ardaloedd mwy gwledig ac wrth i’r arfer o weithio o adref roi mwy o hyblygrwydd a chyfleoedd gan ac arwain at gynnydd yn nifer yr ail dai.
Canlyniad hynny yw gorfodi pobl o’u cymuned. Mae digon o ddata am lefelau allfudo pobl ifanc sy’n rhoi darlun o’r sefyllfa. Er enghraifft yng Ngheredigion, mae data gan StatsCymru ar gyfer y cyfnod rhwng 2011 a 2019 yn dangos i 22% o bobl 16-24 oed adael y sir bob blwyddyn ar gyfartaledd, gyda 13.9% o bobl ifanc yn mynd i Loegr a 8.1% i rannau eraill o Gymru.
Afraid dweud, mae’n eithaf sicr bod nifer sylweddol o’r 13.9% hynny yn golled fawr i’r Gymraeg ac yn peryglu targed y Llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050. Mae allfudo yn ffactor sy’n effeithio fawr ar nifer y siaradwyr Cymraeg mewn siroedd eraill lle mae canran uchel o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Mae’r angen am Ddeddf Eiddo yn fwy nag erioed ac amser yn brin i’n cymunedau ac i’r Llywodraeth o ran amser i ddeddfu.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.
Dylai fod yn egwyddor greiddiol bod gan bawb gartref ond mae annhegwch y system tai fel ag y mae yn golygu bod eiddo yn cael ei drin fel ased yn hytrach na chartref, sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae gan rai pobl sawl cartref tra bod eraill heb yr un.
O drin tai fel ased i wneud elw ohono yn hytrach na chartref mae’r farchnad tai yn gwthio prisiau tai i fyny, y tu hwnt i afael pobl ar gyflog lleol - i’r fath raddau nes bod prisiau tai, ar gyfartaledd, deng gwaith yn uwch na chyflog cyfartalog yng Ngheredigion.
Mae pris uchel tai yn golygu na all pobl ar gyflog lleol, pobl ifanc yn enwedig, yn gallu fforddio rhentu neu brynu cartref ac felly yn methu aros yn eu cymuned. Mae hyn yn effeithio ar y Gymraeg, diwylliant, hyfywedd cymunedau, yr economi lleol a darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus, darpariaeth Cymraeg yn y sector cyhoeddus yn enwedig.
Mae’r arfer newydd o weithio o adref ac awydd pobl, yn dilyn y pandemig, i fyw mewn ardaloedd agored, gwledig wedi dwysau problemau tai.
Er bod prisiau tai yn uchel mewn cymhariaeth â chyflogau, mae prisiau tai yn is yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y Deyrnas Gyfunol ac mae pobl ariannog wedi manteisio ar hynny, trwy brynu ail dŷ neu gartref dŷ at ddefnydd achlysurol yng Nghymru.
Os ydym o ddifrif am sicrhau parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw felly, rhaid inni wrthod yr athroniaeth yma o gyfalafiaeth marchnad rydd sydd wedi ei chofleidio gan bob Llywodraeth yn San Steffan ers dyddiau Margaret Thatcher.
Credwn bod angen trawsnewid y system tai a bod angen:
- Sicrhau'r Hawl i Gartre'n Lleol
- Cynllunio ar gyfer Anghenion Lleol
- Grymuso Cymunedau
- Blaenoriaethu Pobl Leol
- Rheoli'r Sector Rhentu
- Cartrefi Cynaliadwy
- Buddsoddi mewn Cymunedau
Mae Cymdeithas yr Iaith yn gymdeithas o bobl sy'n gweithredu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o'r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid.
Cyflwyniad
Does dim ateb syml nac ateb a fydd yn cynnig datrysiad syml i ddirywiad ein cymunedau. Yn hynny o beth gofynnwn i chi fel Comisiwn fod yn uchelgeisiol ac yn agored i bob math o syniadau.
Mae ffigyrau diweddar y Cyfrifiad wedi dangos bod nifer y cymunedau Cymraeg yn disgyn felly os mai’r bwriad yw cyfyngu’r ymateb i ‘gymunedau Cymraeg’, nifer sy'n lleihau sydd dan sylw.
Os ydyn ni o ddifri yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru rhaid i ni weithredu i wneud y Gymraeg, dros amser, yn iaith ar bob cymuned.
Tu hwnt i ymarferoldeb categoreiddio neu ddiffinio cymued yn gymuned Gymraeg mae perygl i gymunedau sy’n agos at y trothwy ond ddim yn cael eu hystyried yn gymunedau Cymraeg yn teimlo’n eilradd, yn anobiethiol ac wedi eu diystyrru.
Ar hyn o bryd, nid oes strategaeth genedlaethol i ddiogelu ac adfer ein cymunedau Cymreiciaf, a does dim her, anogaeth na chymorth chwaith i gymunedau eraill ddod yn gymunedau Cymraeg, heblaw am gamau cyfyngedig iawn ym maes addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus.
Sail polisïau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw y dylid "cynyddu'r defnydd" o'r Gymraeg a "rhoi cyfleon" i'w defnyddio; a bod y Gymraeg yn ystyriaeth ar wahân i bopeth arall. Mewn geiriau eraill, cydnabyddiaeth mai Saesneg yw'r norm ond y byddai rhywfaint o Gymraeg yn ddymunol; a bod y Gymraeg yn ôl-ystyriaeth i bolisi neu gynllun.
Dydy strategaeth o'r fath ddim yn hwb digonol i gymunedau ledled Cymru, ac mae'n drychinebus i'r cymunedau lle mae'r Gymraeg yn dal i fod yn brif iaith cyfathrebu.
Ymhellach, dydy effaith ar y Gymraeg ddim yn ystyriaeth wrth lunio mwyafrif y strategaethau mewn meysydd fel tai, cynllunio, datblygu economaidd, ad-drefnu llywodraeth a chyrff cyhoeddus, na hyd yn oed addysg mewn rhai achosion.
Mae ein syniadaeth wleidyddol fel mudiad wedi ei seilio ar gymdeithasiaeth ac a ddatblygodd trwy ein profiad o ymgyrchu. Mae esboniad o gymdeithasiaeth ym Maniffesto 1982:
"Yn fyr, gwelodd Cymdeithas yr Iaith na phery'r Gymraeg oni bydd parhad i'r gymdeithas o bobl sy'n siarad yr iaith honno; golyga hyn amddiffyn seiliau materol y cymunedau. Y mae hyn yn wir am ein cymunedau ledled Cymru, o'r gymuned wledig Gymraeg i'r gymuned ddinesig Saesneg. Ni ellir adfer y Gymraeg ond yng nghyd-destun cymdeithas fyw, a bydd iachâd y Gymraeg ynghlwm wrth adferiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach. Dyna'r rheswm dros ddatblygu set o bolisïau a elwir yn gymdeithasiaeth, sef polisïau a fyddai'n rhoi'r grym i gymunedau i reoli eu tynged eu hunain, gan na chredwn y gall mympwy buddiannau'r farchnad a chyfalaf breifat fyth amddiffyn cymdeithasau Cymraeg."
Gellid ystyried cymdeithasiaeth felly yn rhan o’r traddodiad sosialaidd ehangach, ond mae hefyd yn cynrychioli damcaniaeth neilltuol Gymreig a Chymraeg.
Areithiau
I ddechrau dwi am dalu teyrnged i Sel Williams a fu farw fis yn ôl. Diolch am ei gyfraniad, am gyflwyno’r term ‘cymunedoli’ i’r iaith Gymraeg ac am ei ffydd yng ngallu cymunedau i ddod at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau hanfodol a chreu cyfoeth er budd lleol.
Cyd-destun
Yr argyfwng tai presennol yw’r gwaethaf y gallaf ei gofio yn fy 30 mlynedd a mwy yn gweithio yn y sector cymdeithasau tai.
Mae cymunedau gwledig ac arfordirol yn wynebu prinder digynsail o gartrefi fforddiadwy i’w prynu neu eu rhentu. Dangosodd ymchwil Cyngor Gwynedd yn 2023 fod 65.5% o’r boblogaeth leol wedi eu prisio allan o’r farchnad dai, ac mewn ardaloedd gyda niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau roedd y ganran yn llawer uwch. Er enghraifft, yn ward Abersoch mae 96% o'r bobl leol wedi cael eu prisio allan o'r farchnad.
Os nad gennych chi'r modd ariannol i brynu ty ar y farchnad agored, a bod llawer llai o dai ar gael i’w rhentu oherwydd y farchnad llety gwyliau, pa opsiynau eraill sydd gan bobl i ddod o hyd i le addas, diogel a fforddiadwy i fyw ynddo? Nid yw’n gyd-ddigwyddiad bod rhestrau aros tai cymdeithasol ledled Cymru wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf: mwy na 90,000 o aelwydydd mewn angen yn ôl Shelter Cymru. Mae digartrefedd ar y lefel uchaf erioed (13,539 o aelwydydd ar 31 Mawrth 2024) gyda 11,466 o bobl yn byw mewn llety dros dro, fel gwely a brecwast: 2,823 ohonynt yn blant o dan 16 oed.
Gwyddom mai prif achos yr argyfwng tai yng Nghymru, gweddill y DU ac ledled yr UE yw masnacheiddio tai h.y. trin tai fel nwyddau ariannol i’w prynu a'u gwerthu am elw. Un o’r esiamplau cyntaf o’r athroniaeth neo-ryddfrydol hon oedd cyflwyno’r Hawl i Brynu tai cyngor yn yr wythdegau. Erbyn i’r polisi niweidiol hwn gael ei ddiddymu yng Nghymru yn 2019 roeddem wedi colli 139,000 o gartrefi cymdeithasol ar rent i’r farchnad agored. Mae hyn wedi cyfrannu'n fawr at yr argyfwng tai presennol.
Yn ogystal â difetha bywydau, mae’r argyfwng tai yn tanseilio dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol drwy ddadleoli pobl o’u cymunedau. Gwelodd pob awdurdod lleol yn y Gogledd a’r Gorllewin ostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghyfrifiad 2021. Ardaloedd lle mae’r argyfwng tai, mewnfudo ac allfudo wedi bod yn ffactorau arwyddocaol
Tai cymdeithasol
Mae digon o dystiolaeth gan ranbarthau a gwledydd ar draws yr UE bod cynyddu cyfran y cartrefi mewn perchnogaeth gyhoeddus a chymunedol yn hanfodol, nid yn unig i sicrhau cyflenwad digonol o gartrefi fforddiadwy, ond hefyd fel arf i gydbwyso prisiau yn y farchnad dai ehangach. Pam felly fod cymunedau Llŷn a thu hwnt yn gwrthwynebu ceisiadau cynllunio am dai cymdeithasol?
Ateb amlwg yw bod cymunedau wedi colli hyder yn y system gynllunio, ac yn ddrwgdybus o ddatblygwyr tai a chymdeithasau tai. Ym mhentref Botwnnog cyflwynodd datblygwr lleol gais i adeiladu 18 o dai fforddiadwy a fyddai yn y pen draw yn cael eu rheoli gan gymdeithas dai. Mae’r Cyngor Cymuned yn gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig am nifer o resymau:
-
Pryder bod nifer y tai yn fwy na'r angen lleol
-
Bod galw am dai fforddiadwy i'w prynu, nid tai ar rent cymdeithasol
-
Amheuon am iaith y rhai sy'n dod i fyw i'r tai newydd a'r effaith ar y defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned.
Rwy'n falch o ddweud bod Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi galwadau Cynghorau Cymuned Aberdaron a Thudweiliog, a Chyngor Tref Nefyn i sefydlu a gweithredu Polisïau Gosod a Gwerthu Lleol a fydd yn cymryd y Gymraeg i ystyriaeth. Rydym yn croesawu barn gyfreithiol ddiweddar Comisiynydd y Gymraeg, sy’n cadarnhau’r hawl i ystyried y Gymraeg mewn polisïau gosod tai cymdeithasol.
Galwn heddiw ar gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i weithredu ar fyrder, a sefydlu Polisïau Gosod Lleol sy’n blaenoriaethu siaradwyr Cymraeg lleol yn Llŷn a chymunedau Cymraeg eraill.
Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Er mwyn galluogi cymryd camau radical fel hyn, mae'n hanfodol sefydlu dynodiad statudol o ardaloedd o arwyddocád ieithyddol arbennig, fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Fel y mae adroddiad y Comisiwn yn nodi “Byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer:
-
dwysáu’r ystyriaeth a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi.
-
caniatáu ymyraethau ac amrywiaeth polisi o blaid y Gymraeg fel iaith gymunedol.
-
sicrhau fod yr amrywiaeth polisi yn ymateb i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol yr ardaloedd hyn.”
Mae saith mis bellach wedi mynd heibio ers cyhoeddi adroddiad y Comisiwn yn ystod yr Eisteddfod ym Mhontypridd. Mae sôn y bydd ymateb yn Eisteddfod yr Urdd, fydd yn gadael deg mis, ar y mwyaf, i ddechrau gweithredu ar unrhyw argymhellion. Rhaid inni ofyn felly pam fod Llywodraeth Cymru yn llusgo’i thraed cyn cyhoeddi ei hymateb? Esiampl arall o ddifaterwch a ddiffyg ymwybyddiaeth y Llywodraeth bresennol o'r argyfwng yn ein cymunedau Cymraeg!
Deddf Eiddo
Mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi cynigion diwygiedig ar gyfer Deddf Eiddo yn dilyn y consesiynau polisi pwysig a enillwyd i reoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau ym meysydd cynllunio, trethiant lleol a thrwyddedu llety gwyliau. Dyma rai o’r cynigion manwl a gyhoeddwyd yn 2023:
- Hawl i dai digonol yn lleol
Corffori’r Hawl i Dai Digonol yng nghyfraith ddomestig Cymru i sefydlu’r egwyddor gyfreithiol bod tai yn hawl ddynol sylfaenol, ac i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i roi polisïau ar waith i sicrhau bod cartref diogel yn cael ei ddarparu i bawb. Ni fyddai hyn yn datrys yr holl broblemau tai yng Nghymru yn y tymor byr, ond byddai’n gam cyntaf pwysig tuag at sefydlu system dai decach, fwy cynhwysol i ddiwallu anghenion yn y tymor hir. - Cynllunio ar gyfer anghenion lleol
Gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gydgynhyrchu Asesiad Cymunedol rheolaidd gyda chymunedau fel partneriaid cyfartal o leiaf bob 5 mlynedd. Y rhain fyddai'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer Strategaethau Tai a Chynlluniau Datblygu'r Awdurdodau Lleol. Dylai’r Strategaethau Tai Lleol gynnig rhaglen fuddsoddi a fyddai’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion lleol, a sicrhau cyflenwad o’r mathau cywir o dai yn y mannau cywir, gan gynnwys prynu tai o’r stoc bresennol. - Grymuso cymunedau
Cryfhau hawliau perchnogaeth a rheolaeth cymunedau dros dai, tir ac asedau cymunedol eraill trwy gyflwyno Hawl Gymunedol i Brynu. Galluogi cymunedau i arfer eu hawl newydd drwy Gronfa Cyfoeth Cymunedol a fyddai’n ariannu prynu tir ac adeiladau sy’n cyfrannu at gynaliadwyedd cyffredinol cymuned neu'n galluogi cadw neu ddarparu gwasanaethau lleol allweddol. - Blaenoriaethu pobl leol
Sefydlu Marchnad Dai Leol mewn ardaloedd lle mae cyfran uchel o’r boblogaeth leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad. Gosod amodau ar brynu, gwerthu a gosod tai er mwyn pennu pwy all fyw mewn llety penodol – gan gynnwys targedau gosod tai cymdeithasol a fforddiadwy i siaradwyr Cymraeg lleol.
Etholiad 2026
Etholiad nesaf Senedd Cymru fydd y pwysicaf erioed o ran mynnu dyfodol llewyrchus i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae posibilrwydd cryf y bydd y system bleidleisio gyfrannol newydd yn 2026 yn arwain at gynghrair neu glymblaid i ffurfio’r Llywodraeth newydd.
Rydym yn galw heddiw ar ein pleidiau gwleidyddol blaengar i gynnwys cynigion radical ar gyfer polisïau tai a chynllunio yn eu maniffestos etholiadol, sef Deddf Eiddo a fydd yn grymuso cymunedau, lleihau anghydraddoldeb a rheoleiddio’r farchnad dai agored.
Deddf Eiddo: dim byd llai!
Rydym ni fel Cymry Cymraeg yn yr argyfwng mwyaf yn ein hanes, argyfwng bodolaeth, argyfwng parhad. Mi wyddoch chi hynny neu fyddech chi ddim yma heddiw. Ni fu erioed gyn lleied ohonom ni. Ac i feddwl bod y Gymraeg wedi cael ei siarad drwy Gymru gyfan yn ddi-dor ers mil a hanner o flynyddoedd, a’r Frythoneg, mam y Gymraeg, am fil o flynyddoedd cyn hynny. Beth sydd wedi dod â ni i’r fath gyfyngder? Ein gorchfygu fel cenedl yn y drydedd ganrif ar ddeg; ein llyncu’n rhan o Loegr ac esgymuno’n hiaith drwy’r Deddfau Uno yn yr unfed ganrif ar bymtheg; a sefydlu cyfundrefn addysg Saesneg orfodol a gweithredu polisi’r ‘Welsh Not’ yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Dyma gamau clasurol trefedigaethu. Ac mae’r broses o’n Seisnigo wedi arwain at ddatgymalu a diberfeddu’r Gymru Gymraeg ddaearyddol nes cyrraedd ein sefyllfa ni heddiw, efo ond ychydig gymunedau Cymraeg unigol yn weddill, yn dioddef allfudo a mewnfudo. Dwy ochr i’r un geiniog ydy allfudo a mewnfudo – dwy ran un broses. A’r canlyniad? Disodli’r gymdeithas frodorol gan fewnlifiad Saesneg, efo’r gweddill ohonom dan bwysau’r Seisnigo cymdeithasol sy’n dwysáu.
Cafodd hyn ei egluro gan Saunders Lewis yn Tynged yr Iaith a chan haneswyr a chymdeithasegwyr proffesiynol, a’r un rhybudd a gawsom ni gan yr athronydd J.R. Jones – fod rhaid inni adnabod y broses o’n dileu ni fel cenedl cyn y medrwn ni ei gwrthsefyll. Dyma’r darlun mawr gwirioneddol, a dyma’r ffaith y mae’n rhaid inni ei chydnabod yn onest heddiw. Fel arall, fyddwn i ddim yn deall yr hyn sy’n digwydd inni, a fyddwn i ddim yn medru goroesi. Cadw’r cymunedau Cymraeg yn fyw ydy hanfod y frwydr genedlaethol.
Beth fydd yna os collwn ni’r bywyd cymunedol Cymraeg naturiol, hanesyddol, di-dor dros fileniwm a hanner? Byddai’n ergyd farwol hefyd i’r diwylliant Cymraeg ym mhob rhan o Gymru. A fyddai yna ddim cynhaliaeth i’r rhai sydd â’r Gymraeg yn ail iaith. Heb y bywyd Cymraeg fydd yna ddim byd ond y bywyd Saesneg a’r diwylliant Eingl-Americanaidd, a sut fedrwch chi ymgadw’n genedl heb hunaniaeth genedlaethol wahanol? Heb wahanrwydd does yna ddim ‘ni’ yn bod.
Fel hyn y disgrifiodd J.R. Jones y profiad o weld colli ein hiaith o’n cwmpas: ‘Dywedir am un profiad ei fod yn un o’r rhai mwyaf ingol sy’n bod, yn llawn ‘torcalon dirwymedi’, sef gorfod gadael daear eich gwlad am byth, – cael eich codi allan gerfydd y gwraidd o dir eich cynefin... Ond y mae yna brofiad arall sydd yr un mor ingol ac yn fwy anesgor, a hwnnw yw’r profiad o wybod, nid eich bod yn gadael eich gwlad, ond fod eich gwlad yn eich gadael chwi, – yn darfod allan o fod o dan eich traed chwi, yn cael ei sugno i ffwrdd oddi wrthych i ddwylo ac i feddiant gwlad a gwareiddiad arall.’
Ydy’r arswyd o golli’r cwbwl yn gafael digon mewn digon ohonom ni inni weithredu? Mae gofyn inni fynd ati’n egnïol ac yn gadarn fel unigolion cyfrifol ac fel grwpiau yn ein cymunedau unigol. Cynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Cymru i weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, ac mae hi’n hollbwysig bod Plaid Cymru, wrth wynebu etholiad Senedd Cymru, yn cynnwys yn ei maniffesto fwriad i gefnogi dynodi ein cymunedau Cymraeg yn Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch, a bod grymoedd yn cael eu rhoi i’r cynghorau sir er mwyn eu gwarchod a’u cryfhau. Ochor yn ochor â hynny, rhaid inni gael cynghorau cymuned a thref ein hardaloedd i’w diffinio eu hunain yn Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch a’u cael i alw’n daer ar Lywodraeth Cymru a’r cynghorau sir i’w diogelu fel cymunedau Cymraeg. Mae nifer o gynghorau cymuned Llŷn eisoes wedi rhoi arweiniad yn hyn o beth, a da hynny. Dylai Cyngor Gwynedd a chynghorau sir eraill roi’r gorau i ganiatáu codi stadau tai cymdeithasol sy’n rhy fawr i’r cymunedau. Mae’r polisi presennol mewn cydweithrediad â’r cymdeithasau tai yn medru gwanychu a hyd yn oed ddryllio gwead a strwythur cymdeithasol Cymraeg ein cymunedau. Dylid gweithredu Polisi Gosod a Gwerthu Lleol mewn cydweithrediad â’r cynghorau cymuned a thref.
Beth am inni i gyd ymdynghedu yma heddiw yng ngwlad Llŷn y byddwn ni’n dyblu’n hymdrechion ac yn ymgyrchu’n fwy taer ac yn fwy effeithiol i sicrhau hyn a hynny ar frys. Efo’n gilydd mi fedrwn ni, ac mae’n rhaid inni. Awn ati.
Yn gyntaf hoffwn ddiolch i chi gyd am ddod yma. A croeso i dref forwrol Nefyn.
Wrth i ni sefyll yma heddiw, mae cymaint o gymunedau hen a Chymreig yn diflannu. Cymunedau lle mae ein tadau a chyn-dadau wedi byw ers ganrifoed yn cael eu colli am byth.
Yn anffodus mae Abersoch yn dangos i ni be sydd am ddigwydd i'n cymunedau os nad ydyn nu yn neud wbath nawr! Ma rhaid i ni sefyll fyny i'n hunain i wahardd unrhyw bentref droi mewn i Abersoch arall.
Dychmygwch bentref bach sydd wedi siarad Cymraeg ers canrifoedd, pentref lle mae plant yn cael eu addysg yn yr Gymraeg, lle mae pobl yn sgwrsio yn Gymraeg, a lle mae sain yr iaith yn llenwi'r awyr. Nawr, dychmygwch y pentref hwn yn cael ei drawsnewid yn dref ysbrydion lle mai'r unig Gymraeg a glywch ar wefusau ychydig o siaradwyr oedrannus. Nid yw'r iaith yn atyniad i dwristiaid; mae'n rhan fyw o'n hunaniaeth. Os byddwn yn caniatáu i berchnogaeth ail gartrefi barhau, rydym mewn perygl o golli’r iaith honno am byth
Mae ymdrech ein hachos yn gweithio, mae'r prisau yn dechra dod lawr ac mae'r arwyddion ar werth yn dod fyny. Ond mae rhaid i ni gario mlaen ei'n achos i sicarhau fod en plant ni byth yn gorfod cynnal rali i gael byw yn eu milltir sgwâr.
Fel unigolyn or ardal yma, fy mwriad i yw byw yma, sefydlu cartef yma ac yn y dyfodol mynd â fy mhlant i'r un ysgol â fi pan o'n i yn fachgen. Does genym ni ddim cyfle arall, hwn ydi'r ynig gyfle i sicarhau fod ein cymunedau am fod yn lleol.
Mae Llywodraeth Caerdydd o dan afael Llafur wedi dangos i ni nad oes ots ganddyn nhw am yr Iaith Gymraeg nac sicarhau dyfodol i'r genhedlaeth nesaf.
Mae dros 17 o gynghorau yng Nghymru wedi dangos eu cefnogaeth i ddatganoli ystâd y goron yng Nghymru. Ac o'r diwadd ma Llwodraeth Caerdydd o dan Lafur wedi gwrando arna ni.
Wrth i etholiad y Senedd ddod o gwmpas y flwyddyn nesaf, cofiwch y blaid wleidyddol oedd yma yn gwrando ar ein achos, A chofiwch hefyd am y pleidiau gwleidyddol sydd ddim yma. Mae eu absenoldeb heddiw yn anfon neges glir atom.
Wrth gloi, nid yw mater ail gartrefi yn ymwneud â’r economi’n unig; mae’n ymwneud â chadw diwylliant, yr iaith, a traddiodiad Cymru.
Gadewch inni sefyll gyda’n gilydd i amddiffyn calon Cymru – ein iaith, ein hanes a’n pobl.