Dyfodol Digidol

Cartref > Cyhoeddiadau > Dyfodol Digidol

Dogfennau Polisi

Cyflwyniad

Galwodd llyfryn polisi y Gymdeithas ‘Darlledu yng Nghymru’, a gyhoeddwyd ym 1970, am sefydlu tonfeddi radio Cymraeg a sianel deledu Cymraeg (Atodiad 1), a chymerodd hi dros ddegawd i gyflawni’r ddau nod. Yn ogystal, bu sefydlu sianel deledu Gymreig a gorsaf radio Gymreig, cyfrwng Saesneg, ymysg rhai o’n galwadau ym 1970.

Ond, dechreuodd yr ymgyrchu dros yr alwad am ‘Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru’ gydag ‘awdurdod llwyr dros ddarlledu yng Nghymru’. Credwn ei bod hi’n amserol ail-ymweld â’r ystyriaethau hyn, gan hefyd ystyried pa gamau ychwanegol sydd angen eu hystyried wrth gofio bod camau mawrion eisoes wedi’u cymryd o ran technoleg yn ddiweddar. Mae’n werth nodi nad yw’r ddarpariaeth ddarlledu yn Gymraeg ar y radio na’r teledu wedi symud ymlaen llawer yn y deugain mlynedd diwethaf ac nad yw cylch gorchwyl S4C wedi datblygu braidd dim er gwaethaf y datblygiadau enfawr ar blatfformau darlledu eraill.

Nawr bod Senedd ddatganoledig gyda ni yng Nghymru, ceir cyfle i greu cyfraith gwlad a all fod o fudd uniongyrchol i’r Gymraeg, i’r economi ac i ddemocratiaeth.

Mae’r ddadl dros ddatganoli darlledu yn un gref iawn. Mae’r maes wedi ei ddatganoli mewn gwledydd datganoledig eraill: Gwlad y Basg a Chatalwnia ymysg eraill, ac mae’r pwerau wedi cael eu defnyddio er lles eu hieithoedd nhw.

Darganfu pwyllgor trawsbleidiol Comisiwn Silk, a sefydlwyd gan Lywodraeth Prydain ei hunan, ynghyd ag arolwg barn YouGov (2017), bod dros 60% o bobl Cymru o blaid datganoli darlledu yn ei gyfanrwydd i Gymru. Felly, mae cefnogaeth y cyhoedd yn ddiamheuol. Argymhellodd y Comisiwn ddatganoli i Gymru grant y Llywodraeth ar gyfer S4C yn unig, er i nifer o sefydliadau eraill ofyn iddynt fynd ymhellach. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Prydain wedi gwrthod gweithredu argymhelliad y Comisiwn i ddatganoli i Lywodraeth Cymru yr ychydig filiynau o bunnau’n unig sy’n mynd oddi wrth drethdalwyr i S4C.

Mae nifer cynyddol o gyrff a sefydliadau eraill yn y maes yn galw ar Lywodraeth Prydain i fynd ymhellach hefyd, ac yn gweld rhinwedd y ddadl dros ddatganoli darlledu.

Mae gennym gyfle yma i ddechrau cyfnod newydd ar gyfer y cyfryngau yng Nghymru drwy ddatganoli’r maes i Gymru.

Llwythwch y ddogfen i lawr

Sefyllfa

Gwelwn y gall y Gymraeg gael ei hennill neu ei cholli fan hyn. 

Mae datblygu’r Gymraeg ar lein ac yn ddigidol yr un mor bwysig i’r Gymraeg ag oedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg a datblygiad y wasg brintiedig yng Nghymru - mae’n hanfodol. 

Rydym yn colli’r frwydr ar hyn o bryd ac mae’r ychydig o Gymraeg sydd i’w chael ar-lein yn cael ei foddi. 

Yr Angen

Mae angen ymchwilio i’r hyn sydd ar gael ar-lein ac yn ddigidol yn barod yn Gymraeg. Mae angen edrych i weld sut mae’r bobl yn defnyddio’r hyn sydd ar gael a sut gellir gwella mynediad iddo.

Mae angen ymchwilio i’r rhwystrau sydd yn wynebu pobol wrth greu a dod o hyd i ddeunydd ar lein yn Gymraeg ac ymchwilio i’r atebion i oresgyn y rhwystrau hyn. 

Rhaid mynd ati i adnabod anghenion megis creu mwy o ddeunydd, hyrwyddo deunydd a chreu platfformau newydd sy’n cyfateb i’r rhai sydd ar gael mewn ieithoedd eraill, gan ar yr un pryd ddatblygu syniadau gwreiddiol.

Rhaid hefyd edrych ar heriau technolegol sydd yn wynebu’r Gymraeg ar lein ac ymateb i’r heriau hynny.

Llwythwch y ddogfen i lawr

Ymatebion i Ymgynhgoriadau

Cyflwyniad

Mae Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sy'n ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru.

Dechreuodd yr ymgyrchu dros sianel deledu Gymraeg â galwad am ‘Awdurdod Darlledu Annibynnol i Gymru’ ag ‘awdurdod llwyr dros ddarlledu yng Nghymru’.

Dydy’r alwad honno ddim wedi ei gwireddu o hyd, er i S4C gael ei sefydlu yn 1982.

Yn y cyfnod ers sefydlu S4C, nid yw’r ddarpariaeth Gymraeg sy'n cael ei darlledu wedi symud ymlaen rhyw lawer a phrin fu datblygiad cylch gorchwyl S4C, er gwaethaf datblygiadau sylweddol ar lwyfannau darlledu eraill.

Mae'n amlwg felly, os ydy S4C i ddatblygu a ffynnu, na ellir parhau â'r sefyllfa bresennol ac y dylid datganoli grym rheoleiddio ym maes darlledu, gan gynnwys cyfrifoldeb dros y ffi drwydded, i Senedd Cymru, ac y dylid sefydlu fformiwla ariannol statudol ar gyfer ein sianel a llwyfannau Cymraeg fydd yn cynyddu ar raddfa nad yw’n llai na chwyddiant, er mwyn rhoi sicrwydd ariannol hirdymor i’r darlledwyr a’r maes darlledu Cymraeg.

Rydyn ni'n awgrymu datganoli fesul cam:

1. Datganoli grymoedd i ddeddfu dros reoleiddio’r holl sbectrwm darlledu er mwyn galluogi sefydlu cyfundrefn reoleiddio i Gymru;
2. Datganoli arian ffi’r drwydded a grymoedd i godi trethi er mwyn ariannu darlledu cyhoeddus;
3. Trosglwyddo grymoedd dros radio masnachol, cymunedol a theledu lleol.

Llwythwch y ddogfen i lawr

1.Cyflwyniad

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru ers dros hanner canrif.

1.2. Credwn fod presenoldeb y Gymraeg yn y cyfryngau yn hollbwysig i bawb yng Nghymru a bod gan bawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio, hawliau i’r Gymraeg. Hynny yw, nid yn unig hawliau i’w defnyddio a’i dysgu, ond hefyd i’w chlywed a’i gweld. Felly, mae presenoldeb yr iaith ar y teledu, y radio, y we a phob cyfrwng arall yn allweddol i’n gweledigaeth ni fel mudiad.

1.3. Mae S4C, yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd, yn unigryw yng ngwledydd Prydain gan iddi gael ei sefydlu a'i diogelu o ganlyniad i ymgyrchoedd torfol gan bobl Cymru. Nid sianel gyffredin mohoni. Mae gan y sianel ran bwysig iawn i'w chwarae yn nhwf yr iaith a'i defnydd.

1.4. Rydym wrthi'n ymgynghori ar bapur trafod gyda'n cynigion ar gyfer datblygu S4C a datganoli grymoedd dros ddarlledu yn eu cyfanrwydd i Gymru. Mae'r papur i'w weld yma:

http://cymdeithas.cymru/dogfen/darlledu-yng-nghymru-ii-papur-trafod

1.5. Mae nifer o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthod talu eu trwydded deledu ar hyn o bryd fel rhan o ymgyrch dros ddatganoli darlledu i Gymru.

1. Cyflwyniad  

1.1. Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn fudiad sydd wedi bod yn ymgyrchu'n ddi-drais dros y Gymraeg a holl gymunedau Cymru ers dros hanner ganrif.  

2. Safbwynt  

2.1. Yn gryno, nid oes tystiolaeth bod Llywodraeth Prydain wedi ystyried effaith dadreoleiddio pellach ar y Gymraeg o gwbl. Galwn ar i'r pwyllgor ystyried hwn yn fanwl. Er nad oes sôn am y Gymraeg yn y ddogfennaeth, ymddengys bydd cynigion Llywodraeth Prydain yn niweidiol iawn i anghenion y Gymraeg a Chymru gan eu bod yn caniatáu:  

  • llai o ddarlledu cynnwys lleol;  

  • diddymu goblygiadau i gadw at unrhyw amodau o ran darlledu canran o oriau, cynnwys a/neu gerddoriaeth yn Gymraeg;  

  • peidio â darparu newyddion neu raglenni sy'n craffu ar sefydliadau democrataidd cenedlaethol Cymru sef y Senedd a Llywodraeth Cymru.