Cyfarfod Grŵp Addysg
Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod Grŵp Addysg
7.00, nos Iau, 30 Hydref
Cyfarfod dros Zoom
Bydd Grŵp Addysg y Gymdeithas yn cyfarfod nesaf dros Zoom ar nos Iau, 30 Hydref.
Dyma'r grŵp sy'n trafod materion addysg, gan gynnwys addysg uwch a phrentisiaethau.
Mae'r grŵp wedi bod yn ymgyrchu am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb a byddwn yn trafod y camau nesaf yn yr ymgyrch yn dilyn diweddariad Mark Drakeford ar Ddeddf y Gymraeg ac Addysg y Senedd yr wythnos hon.
Rydym bod amser yn chwilio am aelodau newydd i'r grwp. Os oes gennych brofiad neu ddiddordeb yn y maes, beth am roi cynnig arni? Os nad ydych yn siwr, dewch i gwpwl o gyfarfodydd i gael gweld beth yw beth.
Am fanylion pellach, cysylltwch.