Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas
Cartref > Digwyddiadau > Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas

Cyfarfod o Senedd y Gymdeithas
10.30, dydd Sadwrn, 10 Ionawr 2026
Canolfan Arad Goch, Aberystwyth (gyda chyfle i ymuno arlein)
Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith Cymdeithas yr Iaith. Etholir Swyddogion i fod yn aelodau o'r Senedd yn y Cyfarfod Cyffredinol bob blwyddyn, ond mae gan bob aelod o'r Gymdeithas yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt (ond heb yr hawl i bleidleisio).
Mae'r Senedd yn cyfarfod yn fisol, ac yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o waith y Gymdeithas bob tro ymgyrchoedd, materion rhanbarthol ac ochr weinyddol gwaith y Gymdeithas (sy'n cynnwys cyfathrebu, codi arian, dysgwyr, materion rhyngwladol, ac ati). Senedd Rhanbarthau fydd ym mis Ionawr.
Byddai'n braf gweld cymaint o aelodau â phosib yno. Cysylltwch os am fynychu neu os am wybodaeth bellach.
Noder hefyd:
- Mae croeso i blant yn ein cyfarfodydd.
- Gall swyddogion y Gymdeithas gynnig lifft o nifer o leoedd yn y wlad.
- Os yw costau teithio, bwyd neu ofal yn rhwystr rhag ddod i'r cyfarfod, gallwch wneud cais i hawliau'r costau yn ôl.
- Dylech gysylltu â'n swyddfa ganolog ar 01970 624501 cyn gwneud trefniadau teithio neu ofal rydych chi eisiau eu hawliau yn ôl rhag ofn bod modd i ni drefnu lifft neu wneud trefniant arall. Byddwn ond yn ystyried ceisiadau am gostau teithio mewn amgylchiadau pan nad oedd yn bosib i chi gael lifft.
- Darllenwch y Polisi Treuliau ar gyfer Gwirfoddolwyr am fwy o fanylion.