Grwp Hawl i'r Gymraeg
Cartref > Digwyddiadau > Grwp Hawl i'r Gymraeg
6.00, nos Fercher, 29 Hydref
Cyfarfod dros Zoom
Y Grŵp Hawl yw'r grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg a dros lawer mwy o ddefnydd o'r iaith mewn sefydliadau, cwmnïau a mudiadau. Ymysg y materion fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod hwn y mae Cyrff y Goron, Comisiynydd y Gymraeg a strategaeth y grŵp am y misoedd i ddod. Mae croeso i unrhyw aelod o'r Gymdeithas fod yn rhan o'r grŵp hwn.
Cysylltwch felly am fwy o wybodaeth neu ddolen i ymuno. Os nad ydych chi'n siwr, beth am ddod i un neu ddau o gyfarfodydd i weld beth yw beth!