50 mlynedd ers dringo mast Crystal Palace

2026-10-17

Cartref > Newyddion > 50 mlynedd ers dringo mast Crystal Palace

50 mlynedd ers dringo mast Crystal Palace: Darlledu Cymru yn dal i gael ei reoli o Lundain

Ar ddydd Sadwrn (17 Hydref) bydd un o’r ymgyrchwyr wnaeth ddringo mast Crystal Palace hanner can mlynedd yn ôl fel rhan o’r ymgyrch dros sefydlu sianel deledu Gymraeg yn dychwelyd at y mast gyda’r un neges.

Yn 1976, fe wnaeth yr ymgyrchwyr Angharad Tomos, Gareth (Parc) Dafydd, Siôn Aled Owen a Teresa Pierce ddringo mast yr Awdurdod Darlledu Annibynnol, Crystal Palace.

Trwy ddarllediad digidol, bydd un o’r protestwyr gwreiddiol, Dr Siôn Aled Owen yn annerch cyfarfod ‘Darlledu: Ddoe, Heddiw ac Yfory’ fydd yn cael ei gynnal gan y Gymdeithas yn Aberystwyth.

Meddai Dr Siôn Aled Owen:

“Adeg dringo mast darlledu Crystal Palace hanner can mlynedd yn ôl, prin y byddai'r pedwar ohonom a weithredodd wedi gallu dychmygu'r newidiadau chwyldroadol ym maes darlledu a ddigwyddai erbyn 2026. Ar y pryd, 'Sianel Gymraeg yn Awr' oedd yr alwad a dyna, hyd y cofiaf, oedd y geiriau ar y faner yr aethom â hi gyda ni i'r platfform yna ymhell uwchlaw Parc y Palas Grisial yn Ne Llundain y noson honno fis Hydref 1976.

“Bryd hynny, wrth gwrs, doedd gan Gymru ddim llywodraeth ddatganoledig, dim ond Swyddfa Gymreig weinyddol ddigon llywaeth. Newidiodd hynny, wrth gwrs, dros chwarter canrif yn ôl bellach, ond dydi darlledu eto heb ei ddatganoli. Ac yn wyneb yr ehangu rhyfeddol (ac arswydus, weithiau) ar y cyfryngau sydd ar gael. Mae'r angen am hynny'n cynyddu'n feunyddiol.

“Petawn i ddringo'r mast eto (a na, dydw i ddim am fentro, sori!), dyna fyddwn yn galw amdano fel blaenoriaeth. A dw i'n felly'n falch o all cyfrannu mewn rhyw ffordd fach, o bellafoedd Llundain, ac o berfeddion hanes, at drafodaeth Cymdeithas yr Iaith ar y pwnc yn y Cyfarfod Cyffredinol eleni.”

Yn dilyn, bydd panel yn trafod sefyllfa’r Gymraeg o fewn y maes darlledu a chyfathrebu, yn ogystal â galwadau’r Gymdeithas.

Meddai Owain Meirion, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

“Hanner can mlynedd yn ôl roedd brwydr dros sefydlu sianel Gymraeg fel cyfrwng y pryd, ac roedd yn rhaid mynd â’r alwad i Lundain. Hyd heddiw, mae ein cyfryngau Cymraeg yn dal i gael eu rheoli gan wleidyddion a darlledwyr mawr yn Llundain. Mae’n hen bryd i bethau newid.”

Mae’r digwyddiau yn cael ei gynnal rai wythnosau wedi i’r BBC gyhoeddi toriadau niferus i raglenni a swyddi Cymraeg. 

Ychwanegodd Owain Meirion:

“Yn ogystal â thorri rhaglenni Radio Cymru, mae’r BBC yn torri’r isafswm statudol o 10 awr o raglenni Cymraeg yr wythnos i S4C fel pris am roi gwell ‘amlygrwydd’ ar yr iPlayer. Mae’n rhaid troi’r llanw a newid tynged y Gymraeg yn y maes darlledu a chyfathrebu.

“Rydym wedi croesawu’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru - galwn arnyn nhw i gyflymu’r broses ar fyrder fel bod platfformau cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn cael eu gwarchod.”

Cynhelir y digwyddiad yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith, yng Nghanolfan Arad Goch (Aberystwyth) am 2.45yh.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio’r ddeiseb ‘Diogelu Darlledu Cymru,’ gan alw am ddiogelu darlledu Cymru, sicrhau dyfodol y Gymraeg ar bob llwyfan, sgrin a thonfedd, a datganoli grymoedd dros ddarlledu ar frys.

Pob newyddion