Agwedd Llywodraeth Nesaf Cymru tuag at Ysgolion Gwledig

2026-03-03

Cartref > Newyddion > Agwedd Llywodraeth Nesaf Cymru tuag at Ysgolion Gwledig

Mae llefarydd cenedlaethol Plaid Cymru wedi dweud mewn neges at Gymdeithas yr Iaith yn Sir Gar y byddai Llywodraeth nesaf Cymru, petai o dan arweiniad Plaid Cymru, “yn awyddus i gydweithio gydag awdurdodau lleol er mwyn canfod datrysiadau ymarferol i'w cadw (ysgolion gwledig) yn agored a chynnwys y gymuned leol yn y trafodaethau hynny”. Ychwanega y byddai hyn yng nghyd-destun adfywio cymunedau gwledig yn gyffredinol.

Ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gar, dywedodd Ffred Ffransis fod y Gymdeithas wedi danfon y neges fel rhan o ymateb i ymgynghoriad i gau Ysgol Y Fro ac Ysgol Meidrim a ddaeth i ben neithiwr, a bod bwriad i'w hanfon hefyd at y cynghorwyr cyn eu cyfarfod llawn fory (Mercher 4/2) lle byddant yn penderfynu ar ddyfodol Ysgol Llansteffan.

Ychwanegodd Mr Ffransis: 

“Dywedodd y Cyng. Glynog Davies (Aelod Cabinet a chyfrifoldeb dros Addysg) yn y Cabinet nad cau ysgolion oedd eu dymuniad, a gobeithiwn y bydd geiriau Cefin yn rhoi cyfle iddynt aros i weld beth fydd y sefyllfa mewn dau fis ar ôl yr Etholiad cyn mynd ati i amharu ar addysg y Plant a thanseilio cymunedau Cymraeg. 

“Croesawn hefyd yr ymrwymiad i adolygu sut y mae'r Rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig wedi'i gweithredu'n ymarferol. Yn syml iawn, mae angen i swyddogion addysg bob amser droafod gyda llywodraethwyr sut i gryfhau ysgolion yn gyntaf, a chynnig cau ysgol yn unig os bydd camau eraill yn methu. Dyna oedd bwriad Senedd Cymru ym 2018, ond nid dyna sy wedi digwydd.”

Pob newyddion