Cam yn ôl ar gyfer tai i bobl leol
2025-09-24
Cartref > Newyddion > Cam yn ôl ar gyfer tai i bobl leol

Cam yn ôl ar gyfer tai i bobl leol: galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Cynghorau Sir
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i Gyngor Gwynedd ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau sir sy’n awyddus i ddefnyddio pwerau Erthygl 4 er mwyn sicrhau tai i bobl yn eu cymunedau, yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys heddiw (24/09/25).
Ym mis Medi 2024, cyflwynodd Cyngor Gwynedd gyfarwyddyd Erthygl 4 fyddai’n mynnu bod angen caniatád cynllunio i droi tŷ preswyl yn ail dŷ neu’n llety gwyliau. Gyda 66.5% o boblogaeth Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai a’r Gymraeg yn dioddef yn sgil diffyg argaeledd tai i bobl leol, roedd y Gymdeithas yn hapus i groesawu camau Cyngor Gwynedd i leihau’r broblem.
Gresyn felly oedd dyfarniad yr Uchel Lys heddiw yn barnu nad oedd yr adroddiad a gyflwynwyd i gabinet Cyngor Gwynedd wedi bod yn hollol glir. Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod am apelio yn erbyn y dyfarniad.
Dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith:
“Os na fydd apêl Cyngor Gwynedd yn llwyddo, bydd hynny’n ergyd fawr i gymaint o’n cymunedau, ein pobl a’n hiaith. Mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn cael eu gorfodi o’u hardaloedd ers blynyddoedd am nad ydyn nhw’n gallu fforddio aros, tra bod pentrefi cyfan yn troi’n barciau gwyliau i bob pwrpas. Nod Erthygl 4 yw lleihau nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau er mwyn i dai fod yn fforddiadwy i bobl ar gyflog lleol. Mae eisoes wedi gwneud gwahaniaeth mewn sawl man yng Ngwynedd drwy leihau nifer y tai sy’n cael eu prynu fel ail dai ac mae’n hanfodol gweld yr effeithiau calonogol cychwynnol yma’n parhau. Mae’r Gymdeithas yn annog Cyngor Gwynedd i ddal ati a gwneud safiad cryf dros eu pobl, eu cymunedau a’r Gymraeg.”
Ychwanegodd Jeff Smith
“Mae’r Gymdeithas hefyd wedi beirniadu Llywodraeth Cymru sawl gwaith yn y gorffennol am beidio â chynnig digon o gefnogaeth i gynghorau ac awdurdodau cynllunio sydd am ddefnyddio pwerau Erthygl 4 i reoli niferoedd y tai gwyliau yn eu cymunedau. Rydyn ni’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cynghorau sydd am gyflwyno Erthygl 4 yn hytrach na chynnig y pwerau a cherdded i ffwrdd, gan adael i gynghorau gyflawni amcanion y Llywodraeth heb fawr ddim cefnogaeth.”