Comisiynydd Iaith ‘wedi colli’i ffordd’

2025-11-12

Cartref > Newyddion > Comisiynydd Iaith ‘wedi colli’i ffordd’

Mae Comisiynydd y Gymraeg ‘wedi colli’i ffordd’ yn ôl ymgyrchwyr sy’n tynnu sylw at y ganran isaf o ymchwiliadau i gwynion yn hanes y swydd – dim ond chwarter.

Mewn dogfennau at Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd cyn sesiwn i graffu ar waith y Comisiynydd heddiw (dydd Mercher 12 Tachwedd), mae Cymdeithas yr Iaith yn honni nifer o fethiannau gan y rheoleiddiwr iaith.

Ymhlith pryderon y mudiad, mae haneru nifer y cwynion sy’n destun ymchwiliad, o 63% yn 2021-22 i ddim ond 26% yn 2024-25; cuddio gwybodaeth yr arferid ei gyhoeddi; gwrthod herio Llywodraeth Cymru i estyn hawliau iaith i sectorau eraill; a symud ei swyddfa i bencadlys Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.

Daw ymdrechion yr ymgyrchwyr wedi i’r Comisiynydd, Efa Gruffydd Jones a benodwyd yn 2022, fabwysiadu Cynllun Strategol newydd eleni sy’n rhoi llawer llai o bwyslais ar hawliau iaith.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau bod trywydd y Cynllun yn groes i’r ddeddfwriaeth a basiwyd yn 2011 oedd yn sefydlu swydd y Comisiynydd. Mae’r ddeddf honno’n datgan mai drwy orfodi’r Safonau ar gyrff y mae hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn cael eu creu.

Dywedodd Aled ap Robert, Cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith:

“Ers cael ei phenodi, mae’r Comisiynydd wedi dilyn agenda sy’n tanseilio’r ddeddfwriaeth, ac yn ceisio gweithredu dymuniadau rhai yn y gwasanaeth sifil sydd eisiau blaenoriaethu buddiannau cyrff fel nhw’u hunain yn lle hawliau iaith pobl. Yn llythrennol, mae hi wedi symud ei swyddfa i’r un adeilad â’r bobl hynny nad ydyn nhw eisiau rheoleiddio cadarn. Mae’n sgandal. 

“Cyflwynwyd dull ‘cyd-reoleiddio’ o dan Efa Gruffydd Jones, sy’n brawf ei bod hi wedi colli ei ffordd. Mae hi wedi colli golwg ar ei swyddogaeth graidd fel rheoleiddiwr annibynnol dros y Gymraeg ac eiriolwr dros hawliau siaradwyr Cymraeg. 

"Effaith ymarferol y cyfeiriad yma gan Efa Gruffydd Jones yw nad oes sicrwydd y bydd plant Cymru'n gallu cael gwersi nofio yn Gymraeg ac nad oes dim canlyniadau i wasanaeth carchar sy'n gwahardd carcharorion bregus rhag siarad Cymraeg gyda'i gilydd. Mae'r Comisiynydd yn rhoi'r cyfrifoldeb yn gynyddol ar bobl gyffredin i "ddefnyddio" eu Cymraeg er bod y gwasanaethau yn aml ddim ar gael, tra bod cwmnïau ariannog sy’n darparu gwasanaethau hanfodol fel nwy a thrydan, ffonau a gwasanaethau post, yn cael rhwydd hynt i barhau i anwybyddu anghenion siaradwyr Cymraeg bymtheg mlynedd ers i lywodraeth y dydd addo y byddai Safonau'n cael eu gosod arnynt."

“Yn ogystal â gwanhau rheoleiddio, mae newid amlwg a niweidiol ym mhwyslais a chyfeiriad y sefydliad yn ei gyfanrwydd o dan y Comisiynydd presennol. Mae’n amlwg bod y Comisiynydd yn benderfynol o droi’r corff yn gorff a fydd yn bennaf yn hyrwyddo’r Gymraeg mewn ffordd feddal. Mae’n ceisio gweithredu drwy’r drws cefn hen gynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud hynny drwy ddeddfwriaeth newydd, ond a ollyngwyd yn dilyn gwrthwynebiad chwyrn. Allwn ni ddim bod â ffydd mewn Comisiynydd sy’n ymddwyn felly.”

Mae gwybodaeth am nifer y cwynion a dderbyniodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a nifer yr ymchwiliadau i'w gweld trwy bwyso yma

Pob newyddion