Cosbi carcharorion am siarad Cymraeg

2025-10-23

Cartref > Newyddion > Cosbi carcharorion am siarad Cymraeg

Mae adroddiad wedi datgelu bod cyn-garcharorion wedi eu hatal rhag siarad Cymraeg gan swyddogion carchar y Berwyn. Roedd gohebiaeth Gymraeg yn arafach yn cael ei ddanfon a'i dderbyn, a doedd dim ymdrech i roi carcharorion Cymraeg eu hiaith gyda'i gilydd chwaith.

Wrth ymateb i sylwadau cyn-garcharorion oedd wedi eu hatal rhag siarad Cymraeg dywedodd Siân Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:

"Er mai honiadau am gyfnodau hyd at 2022 sydd wedi eu clywed, does dim byd i awgrymu bod y sefyllfa wedi newid. Mae carcharorion mewn sefyllfa fregus, os yw swyddogion yn bygwth cosbi carcharorion am siarad Cymraeg go brin y byddan nhw'n teimlo eu bod yn gallu gwneud cwyn am hynny. Gall Comisiynydd y Gymraeg ymchwilio i'r pryderon yma, a galwn arni i wneud hynny heb aros am gŵyn swyddogol. Er bod cyfarfod ganddi gyda swyddogion y carchar fis nesa, rôl Comisiynydd y Gymraeg yw sicrhau nad oes neb yn cael eu hatal rhag siarad Cymraeg a sicrhau bod Mesur y Gymraeg yn cael ei weithredu yn effeithiol.
“Mae’n wendid sylfaenol mai cynllun iaith gwirfoddol sydd gan y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf o dan hen gyfundrefn Deddf Iaith 1993. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddod â'r gwasanaeth carchardai a chyrff eraill fel y Swyddfa Basport, DVLA, yr Adran Gwaith a Phensiynau, sydd â chynllun iaith ar hyn o bryd, o dan gyfundrefn Safonau'r Gymraeg. 

“Yr wythnos ddiwethaf cafwyd enghraifft warthus o ddibrisio’r Gymraeg gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yng nghyd-destun tystysgrifau marwolaeth. Rydyn ni’n deall bod y Swyddfa yma’n dod o dan y Swyddfa Basport, ac yn sicr fe ddylen nhw ddod o dan y Safonau hefyd.
"Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn gosod Safonau’r Gymraeg ar holl gyrff y Goron. Mae Safonau'r Gymraeg yn gosod disgwyliadau statudol ar gyrff a gall Comisiynydd y Gymraeg weithredu a chosbi cyrff sy'n eu torri. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf iawn i roi’r hawl i Gomisiynydd y Gymraeg osod Safonau ar gyrff, a dyma'r enghraifft diweddaraf o blith nifer sy'n dangos bod hynny’n atal rhyddid pobl i ddefnyddio'r Gymraeg.”

Pob newyddion