Dewch i'n gweld yn Ngorymdaith Annibyniaeth Y Rhyl!

2025-10-14

Cartref > Newyddion > Dewch i'n gweld yn Ngorymdaith Annibyniaeth Y Rhyl!

Dewch i'n Gweld yn yr Orymdaith dros Annibyniaeth yn Y Rhyl!

Fel byddwch yn gwybod, bydd rali fawr dros annibyniaeth gan YesCymru ac AUOB yn y Rhyl ddydd Sadwrn yma (18 Hydref).

Mae rhyddid i Gymru wedi bod wrth galon ein gweledigaeth ni fel Cymdeithas ar gyfer Cymru ers degawdau, ac mae’n greiddiol i’n maniffesto diweddaraf, ‘Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg’ o 2022. Ni fydd ein gwlad yn gallu cyflawni ei llawn botensial na threchu’r heriau sy’n wynebu ein hiaith a’n cymunedau heb i Gymru berchnogi’r grymoedd llawn dros ei dyfodol.

Rydym felly’n gobeithio am bresenoldeb cryf gan y Gymdeithas yn Rhyl ddydd Sadwrn ac yn galw arnoch chi fel aelodau i ymuno â ni yno. Bydd baner fawr y Gymdeithas yn dechrau o’n stondin yn y ‘Farchnad Annibyniaeth’ am 12:30yh.

Bydd hefyd crysau-t newydd sbon a baneri “Cymru Rydd i Bawb” ar gael i’w prynu o’n stondin o 10yb ymlaen, cyn iddyn nhw fynd ar werth ar ein siop ar-lein wythnos nesa.

 

https://cy.yes.cymru/rhyl

Pob newyddion