Galw am fynd ati’n ddiymdroi i benodi Comisiynydd y Gymraeg
2026-10-20
Cartref > Newyddion > Galw am fynd ati’n ddiymdroi i benodi Comisiynydd y Gymraeg
Galw am fynd ati’n ddiymdroi i benodi Comisiynydd y Gymraeg newydd sydd ag ymrwymiad dwfn i hawliau
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am benodi Comisiynydd y Gymraeg newydd parhaol sydd â record o weithredu dros hawliau iaith, ar fyrder, yn sgil ymddiswyddiad y deiliad presennol.
Ym mis Awst eleni, lleisiodd y mudiad bryderon difrifol am fethiannau'r Comisiynydd i reoleiddio'n briodol gan gyfeirio at y lefel isaf erioed o ymchwiliadau i gwynion, pryderon am symud ei swyddfa i bencadlys Llywodraeth Cymru a gwanhau ar gyfres o bolisïau hawliau iaith.
Wrth groesawu penodi Lowri Williams yn Ddirprwy Gomisiynydd a dymuno'n dda iddi, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am benodiad parhaol buan, a fydd yn symud ymlaen â phrif ddyletswyddau’r Comisiynydd o reoleiddio, drwy ehangu a chryfhau safonau’r Gymraeg a gwirioneddol ddal cyrff a chwmnïau i gyfrif am eu diffygion, gan ail-sefydlu annibyniaeth y Comisiynydd.
Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd y Grŵp Hawl, Cymdeithas yr Iaith:
“Mae cael rheoleiddiwr effeithiol sydd ag ymrwymiad dwfn i hawliau yn allweddol. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder ers tro am wanhau a dibrisio swyddogaeth reoleiddiol bwysig y Comisiynydd.
“Yr hyn a welwyd yw erydu annibyniaeth y swyddfa a’i droi’n gorff sy’n hyrwyddo’r Gymraeg drwy ddulliau meddal, sy’n ochri gyda sefydliadau tra’n gynyddol haerllug tuag at brofiad pobl cyffredin a’r rhwystrau mae dinasyddion yn eu hwynebu o hyd o ran byw yn Gymraeg.
“Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi’i hethol ar addewidion uchelgeisiol i ehangu a chryfhau hawliau, gan gynnwys eu hymestyn i’r banciau, i’r archfarchnadoedd ac i feysydd parcio preifat. Rhaid cael Comisiynydd sy’n barod i fynd â’r sefydliad yn ôl at ei swyddogaeth graidd o sefyll dros hawliau i’r Gymraeg.
“Er mwyn troi’r llanw dros ein hawliau iaith, rhaid i’r Comisiynydd nesaf ddechrau â llechen lân gan ymrwymo i ollwng yr arbrawf cyd-reoleiddio a gwanhau sydd wedi methu. Dylai’r gwaith hwnnw ddechrau’n syth dan arweinyddiaeth newydd Lowri Williams fel Dirprwy Gomisiynydd. Mae angen penodiad Comisiynydd parhaol fydd yn adfer hyder yn y rôl fel rheoleiddiwr difrifol, annibynnol – rhywun sydd â’r awch a’r ymrwymiad i arfer grym y gyfraith er lles y Gymraeg.”