Galwad am ailasesu cynnig i gau Ysgol Bentref yn Sir Gar
2026-11-23
Cartref > Newyddion > Galwad am ailasesu cynnig i gau Ysgol Bentref yn Sir Gar
Heddiw mae ESTYN wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar Ysgol Bancffosfelen, ddim ond pythefnos ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin ddechrau ymgynghoriad ar gynnig i gau’r ysgol gan ddefnyddio hen adroddiad Estyn o 8 mlynedd yn ôl!
Mae Rhanbarth Sir Gaerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith wedi cefnogi galwad llywodraethwyr yr ysgol ar y Cyngor Sir i derfynu’r ymgynghoriad cyfredol i gau’r ysgol er mwyn ailasesu’r sefyllfa.
Ar ran y Gymdeithas, esbonia Ffred Ffransis:
“Mae’r ddogfen sy’n sail i’r ymgynghoriad cyfredol yn adroddiad Estyn o wyth mlynedd yn ôl, ac felly mae’r opsiynau, cymariaethau a ffeithiau yn y ddogfen yn hen ac yn awr yn anghywir. Mae’r Cyngor, yn ei ddogfen wedi cydnabod hyn, ac felly gofynnwn ‘Beth yw pwynt mynd ymlaen gydag ymgynghoriad ar sail ffeithiau sy’n hen a bellach yn anghywir pan fo gyda ni nawr y ffeithiau perthnasol a chywir.”
Mae’n parhau i fynnu:
“Nid yw’n ddigonol i’r Cyngor ddweud y byddan nhw’n rhoi adroddiad newydd Estyn fel atodiad i’w hadroddiad ar yr ymgynghoriad gan y bydd yr holl ymgynghoriad wedi’i gynnal ar sail hen ffeithiau ac felly’n anghywir. Byddai dal ati’n tanseilio hygrededd yr holl ymgynghoriad, gan fod adroddiad newydd Estyn yn casglu fod yr addysg a gynigir a’r arweinyddiaeth yn wych.
“Deallwn fod trafodaethau hefyd wedi bod, ers cyhoeddi’r ddogfen ymgynghorol, i geisio dull o ddefnyddio neuadd y pentref - sydd ar yr un safle a’r ysgol - er mwyn ateb y pryder nad oedd gan yr ysgol neuadd. Doedd dim bwriad gan y Cyngor i newid y drefn yn yr ysgol am dros flwyddyn eto, ac felly mae hen ddigon o amser - os bydd angen wedi ailasesu’r sefyllfa - i gynnal ymgynghoriad yn y flwyddyn newydd ar sail y ffeithiau fel y maent heddiw.”