Gruff Rhys i chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
2025-05-12
Cartref > Newyddion > Gruff Rhys i chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gyhoeddi y bydd y canwr Gruff Rhys yn cynnal gig mawr ar Nos Wener wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Neuadd William Aston ar gampws Prifysgol Wrecsam.
Wrth gyhoeddi'r newydd, dywedodd Nia Marshall ar ran Pwyllgor Trefnu Lleol y Gymdeithas:
"Dyma'r tro cyntaf ers 2002 i Gruff chware'n ystod wythnos yr Eisteddfod, a tydy o rioed wedi chware o'r blaen efo'r band llawn.
"Rydyn ni'n falch iawn o bartnera gyda Theatr Clwyd (sy'n trefnu Neuadd William Aston yn Wrecsam) i drefnu'r noson hon a dwy noson fawr arall, a hynny ar ben y gigs bob nos yn y Saith Seren - y dafarn Gymraeg a fydd yn gartre i ni trwy'r wythnos. Mae'n gyfnod cyffrous newydd i Gruff Rhys wrth iddo ryddhau yr haf hwn deunydd Cymraeg newydd."
Yn chwarae gyda Gruff Rhys a'r Band fydd Griff Lynch (o Yr Ods gynt) a'i fand newydd, Ynys a Wrkhouse.
Bydd tocynnau i weld Gruff Rhys ar werth o o 10am ddydd Mawrth 13 Mai ar wefan Neuadd William Aston ac ar wefan Cymdeithas yr Iaith ac ar werth
yn uned Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Margam ddiwedd y mis.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu bysiau o Neuadd William Aston ar ddiwedd y noson i faes carafannau yn Eisteddfod.