Methu ymddiried yn y BBC i warchod y Gymraeg
2026-11-23
Cartref > Newyddion > Methu ymddiried yn y BBC i warchod y Gymraeg
Mae ymgyrchwyr iaith yn honni na ellir ymddiried yn y BBC i warchod darlledu Cymraeg, wrth i Bennaeth y Gorfforaeth ymddangos o flaen pwyllgor yn y Senedd heddiw (23 Tachwedd).
Ym mis Medi, cyhoeddodd y Gorfforaeth Ddarlledu Gyhoeddus Brydeinig eu bod yn torri 250 awr y flwyddyn o raglenni newyddion a materion cyhoeddus oddi ar Radio Cymru.
Datgelodd geisiadau rhyddid gwybodaeth diweddar gan Gymdeithas yr Iaith hefyd fod y BBC yn torri’r cyflenwad statudol o 10 awr o raglenni Cymraeg yr wythnos i S4C, fel pris am roi gwell amlygrwydd i'r Sianel Deledu Gymraeg ar yr iPlayer.
Ym mis Ebrill, adroddwyd y byddai BBC Cymru yn rhoi’r gorau i ddarparu rhaglen y Clwb Rygbi ar gyfer S4C yn gyfnewid am well amlygrwydd ar yr iPlayer, gyda rhagor o doriadau ar y ffordd i ddarllediadau o’r Eisteddfod hefyd.
Er gwaetha’r ffaith bod y mudiad iaith wedi holi’r S4C a’r BBC nifer o weithiau, ni chafwyd ymateb i faint o oriau yn llai y bydd y BBC yn darparu i S4C o ganlyniad i fargen rhwng y ddwy ddarlledwr, sy’n dal heb ei chyhoeddi er bod dyletswydd gyfreithiol arnynt i wneud hynny.
Meddai Robin Farrar, Cadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol, Cymdeithas yr Iaith:
"Mae mwyfwy o dystiolaeth sy’n dangos yn gwbl glir na ellir ymddiried yn y BBC i warchod darlledu Cymraeg. Rydyn ni eisoes wedi codi pryderon am y ffaith bod y BBC wedi bargeinio gyda phenaethiaid S4C i leihau’r cynnwys mae’n ei dderbyn. Eu hesgus yw y bydd hyn yn gyfnewid am amlygrwydd ar yr iPlayer, llwyfan arall a ariennir gan y cyhoedd. Ond ni all amlygrwydd ar lwyfan Prydeinig o’r fath fyth wneud yn iawn am doriadau i gynnwys yr unig sianel Gymraeg yn y byd. Bydd hyn yn gwneud S4C yn dlotach ac yn cyfaddawdu ansawdd ei rhaglenni a’i hannibyniaeth ddigidol yn y pen draw.
"Mae gwir angen eglurder ynglŷn â’r gytundeb anghyfrifol yma i’r BBC leihau’r ddarpariaeth o 10 awr o raglenni i S4C, a’r hyn y byddwn yn ei golli yn sgil.
"Gyda chyhoeddi toriadau sylweddol i Radio Cymru eto fyth ddeufis yn ôl, mae’r BBC yn colbio’r Gymraeg yn ddidrugaredd. Dydy gwasanaethau Cymraeg ddim yn ddiogel yn eu dwylo."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi pwysleisio bod angen datganoli grymoedd darlledu a chyfathrebu i Gymru. Ychwanegodd Robin Farrar:
“Mae’r toriadau hyn yn dangos yn glir bod yn rhaid cael rheolaeth dros ein cyfryngau ni’n hunain yng Nghymru. Yr hyn sydd ei angen yw cynyddu’n sylweddol y buddsoddiad mewn cynnwys Cymraeg, a’r ffordd orau o wneud hynny yw trwy fodel cyllido sy'n cynnwys ardoll ar gorfforaethau mawrion. Mae methiant y BBC i lawn ystyried modelau o’r fath yn cadarnhau bod yn rhaid creu dyfodol i gyfryngau Cymru tu hwnt i rwystrau Llundain.
“Mae’n galonogol bod gennym Lywodraeth bellach yng Nghymru sy’n cefnogi ein hymgyrch i ddatganoli darlledu, a bod y gwaith o greu Awdurdod Darlledu cysgodol wedi dechrau. Mae angen Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu llawn i Gymru ar frys, a bydd angen i’r Awdurdod fwrw at y gwaith o gynllunio ar gyfer datganoli grymoedd darlledu yn syth. Galwn ar Lywodraeth Lafur San Steffan i wrando ar lais Cymru ac i ddatganoli grymoedd darlledu a chyfathrebu i Gymru heb oedi. Allwn ni ddim fforddio gadael y cyfryngau yng Nghymru yn nwylo diofal a difater swyddogion anetholedig y BBC yn Llundain na gwleidyddion gwlad arall chwaith.”