Nid Kneecap yw'r stori, ond y gyflafan yn Gasa
2025-05-13
Cartref > Newyddion > Nid Kneecap yw'r stori, ond y gyflafan yn Gasa
Dros 100 o gerddorion wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd, yn datgan "nad Kneecap yw'r stori, ond y gyflafan yn Gasa"
Fel un o brif hyrwyddwyr a chefnogwyr y sîn gerddoriaeth yng Nghymru, mae Cymdeithas yr Iaith yn cefnogi datganiad gan dros 100 o gerddorion Cymraeg sydd wedi mynegi eu cefnogaeth i'r band o Iwerddon, Kneecap. Daeth Kneecap dan y lach yn ddiweddar am feirniadu Israel yn hallt ac am ddatgan eu cefnogaeth i'r Palestiniad. Mae'r cerddorion Cymraeg hefyd yn mynegi hefyd eu cefnogaeth gref i'r Palestiniaid yn yr argyfwng enbyd a'r gorthrwm llethol maent yn wynebu, ac yn galw am gyfiawnder a heddwch i'r Palestiniaid.
Ymhlith y cerddorion sydd wedi datgan eu cefnogaeth i'r datganiad mae aelodau Cowbois Rhos Botwnnog, Gruff Rhys, Gwenno, Pys Melyn, Mali Hâf, Bryn Fôn, Mellt a Mark Roberts (MR).
Dywedodd un o hyrwyddwyr y datganiad, y canwr Steve Eaves:
"Mae'n achosi pryder bod cymaint o sylw wedi ei roi i'r band yn y mater yma, a chyn lleied o sylw i ymosodiadau di-drugaredd Israel ar Gasa, lle mae bwyd, dŵr, trydan, cysgod a thriniaethau meddygol yn cael eu hatal rhag cyrraedd y Palestiniaid. Mae nifer o fandiau o Loegr wedi datgan eu cefnogaeth i Kneecap, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cyhoeddi neges debyg.
"Mae'na draddodiad anrhydeddus o gerddorion Cymraeg yn cefnogi cyfiawnder a heddwch a gwrthwynebu hiliaeth ac apartheid. Teimlwn fod angen i bawb ddefnyddio pob cyfle i alw ar lywodraethau ac arweinwyr i hwyluso diwedd ar y rhyfel, ac na ddylid ceisio tawelu lleisiau sy'n mynegi hynny ac yn gwrthwynebu gorthrwm."
Ychwanegodd Steve:
"Nid gweithgareddau Kneecap yw'r stori sy'n haeddu ein sylw, ond y lladd yn Gasa a'r Lan Gorllewinol."