Plant i ofyn i Gyngor Sir am yr anrheg Nadolig gorau erioed

2025-12-22

Cartref > Newyddion > Plant i ofyn i Gyngor Sir am yr anrheg Nadolig gorau erioed

Am 10.30 bore fory (Dydd Mawrth 23/12/25) bydd plant a rhieni o Ysgol Gynradd Llansteffan yn mynd at Neuadd y Sir Caerfyrddin i gyflwyno cardiau Nadolig a gofyn am “yr anrheg Nadolig gorau erioed”, sef sicrwydd am ddyfodol eu hysgol. Bydd eraill yn y gymuned leol ac aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ymuno a nhw i'w cefnogi ac i wrando arnynt yn canu carolau.

Yfory yw'r diwrnod olaf I dderbyn gwrthwynebiadau I Rybudd Cyngor Sir Caerfyrddin I gau Ysgol Llansteffan yr haf nesaf. Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar bobl I gefnogi'r plant trwy ddanfon I mewn eu gwrthwynebiadau erbyn yfory at RhMYYmgynghoriadau@sirgar.gov.uk
Mae ymaten Rhanbarth Caerfyrddin i'w weld yma: https://cymdeithas.cymru/cyhoeddiadau/addysg#p7AP4c6_1 

Ar ran Rhanbarth Cerfyrddin o Gymdeithas yr Iaith, esboniodd Ffred Ffransis:

“Yr hyn sy'n drist am fwriad y Cyngor i gau'r ysgol yw fod nifer y plant yn ailgynyddu - fel y dengys ffigurau'r Cyngor Sir ei hun - a bod gan y rhieni a llywodraethwyr gynlluniau cyffrous ar gyfer datblygu'r ysgol. Eu hawydd yw defnyddio neuadd fawr yr ysgol, a’i safle wrth y traeth, i ddatblygu cyrsiau Astudiaethau Amgylcheddol ac Addysg Awyr Agored gan astudio'r arfordir, y goedwig a'r castell gerllaw.

“Gall yr ysgol fod yn adnodd addysgol pwysig i’r ffederasiwn lleol o ysgolion, ac yn wir yn ganolfan i gyfoethogi addysg holl blant y sir. Gall hefyd fod yn ffynhonnell incwm ychwanegol o logi allan y lleoliad yn ystod penwythnosau a gwyliau ysgol.”

Ychwanegodd:

“Dylai fod yn awr drafodaethau brwd a difrifol rhwng swyddogion y Cyngor a'r rhieni a llywodraethwyr i ddatblygu cynllun busnes hyfyw. Yr ysgol yw canolfan Gymraeg y pentre, ac ni allwn ni fforddio colli rhagor o'n cymunedau gwledig Cymraeg. Dyma'r union fath ar ddatblygiad y mae ei angen i integreiddio ysgolion yn gymdeithasol ac yn economaidd ym mywyd cymunedau lleol.”

Pob newyddion