Toriadau i Gomisiynydd y Gymraeg

2026-11-18

Cartref > Newyddion > Toriadau i Gomisiynydd y Gymraeg

Toriadau i Gomisiynydd y Gymraeg yn 'mynd yn groes i amcanion maniffesto Plaid Cymru' yn ôl mudiad iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder am doriadau o £300,000 i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg a gyhoeddwyd fel rhan o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddoe (dydd Mawrth, 17 Tachwedd). Golyga’r toriad y bydd cyllideb y rheoleiddiwr yn cwympo o £3,511,000 i £3,212,000 ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf mewn termau absoliwt.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud bod y toriadau’n annerbyniol, gan bwysleisio bod angen cynnydd, nid lleihad, yng nghyllideb y Comisiynydd er mwyn gweithredu addewidion maniffesto hanfodol sy’n ymwneud â’r iaith.

Yn ôl y mudiad, mae angen cyllideb o £6.7 miliwn ar Gomisiynydd y Gymraeg er mwyn gallu gwneud ei waith yn effeithiol ac er mwyn cyfateb â’r cynnydd mewn chwyddiant ers ei sefydlu. Mae’r cyllid fyddai ar gael i’r corff yn 2027-28 fel rhan o’r gyllideb ddrafft yn llai na hanner y ffigwr hwnnw.

Ar 6 Hydref 2026, paratodd Comisiynydd y Gymraeg adroddiad, ‘Amcangyfrif ar gyfer blynyddoedd ariannol 2027-28 hyd 2029-30’, a gyhoeddwyd pan osodwyd y gyllideb ddrafft, Yn yr adroddiad nodwyd nad oedden nhw “bellach yn ystyried bod modd parhau i gynnal y llwyth gwaith a mynd i’r afael â’r cynnydd mewn dyletswyddau heb gynnydd i’r capasiti presennol a’n costau gwaelodol… yn ein barn ni, mae'r sefydliad bellach wedi cyrraedd y terfyn ymarferol o ran cyflawni rhagor o arbedion neu ail-ddyrannu adnoddau heb effeithio'n andwyol ar effeithiolrwydd ei swyddogaethau craidd.”

Meddai Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith:

“Mae’r ffaith bod y Llywodraeth yn bwriadu gwneud toriadau pellach o dros £300,000 i gyllideb Comisiynydd y Gymraeg yn gwbl annerbyniol. Mae’r Comisiynydd wedi wynebu toriadau ar hyd y blynyddoedd ers ei sefydlu, ac rydyn ni wedi bod yn galw ers tro am adfer y gyllideb. Pe bai’r swyddfa wedi cael cynnydd yn unol â chwyddiant, ers ei sefydlu yn 2011 gyda chyllideb o £4.2 miliwn ar y pryd, byddai bellach yn £6.7 miliwn y flwyddyn, o gymharu â'r £3.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.

“Mae’r Comisiynydd blaenorol eisoes wedi rhybuddio’n glir na all y sefydliad barhau i weithredu heb gynnydd yn y gyllideb. Ac mae yna addewidion hanfodol o ran yr iaith ym maniffesto Plaid Cymru, sef ymestyn Safonau’r Gymraeg i’r banciau, yr archfarchnadoedd ac i feysydd parcio preifat, addewidion y bydd yn llawer anoddach eu cyflawni os ydy cyllideb y Comisiynydd yn mynd i barhau i grebachu.

“Mae’r Llywodraeth yn pwysleiso bod ‘cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn flaenoriaethau allweddol’ iddi, felly mae’n rhaid i benderfyniadau cyllideb y Llywodraeth adlewyrchu’r blaenoriaethau allweddol yma. Byddai torri’r strwythur sy’n gwarantu’r hawliau yma yn anghyson â hynny.”

Daw’r toriad i gyllideb y Comisiynydd fel rhan o doriadau o 5% i Gomisiynwyr eraill sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd Osian Rhys:

“Yn wahanol i’r comisiynwyr eraill, mae gan Gomisiynydd y Gymraeg swyddogaeth reoleiddiol neilltuol o osod, monitro cydymffurfiaeth a gorfodi cydymffurfiaeth â safonau sy’n creu hawliau iaith. Wrth i nifer y cyrff sy’n dod o dan y Safonau gynyddu, mae llwyth gwaith y Comisiynydd hefyd yn cynyddu.

“Pwynt pwysig arall yw mai’r Gymraeg yw iaith weinyddol fewnol Comisiynydd y Gymraeg. Dydy’r cysyniad o wneud arbedion drwy rannu adnoddau gyda swyddfeydd eraill, sydd ddim yn gweinyddu drwy’r Gymraeg, ddim yn un ymarferol bosib.”

Pob newyddion