Yr hawl i addysg lawn trwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol
2026-11-24
Cartref > Newyddion > Yr hawl i addysg lawn trwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol
Rhwydwaith cydraddoldeb ieithoedd lleiafrifol Ewrop yn galw am yr hawl i addysg lawn trwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol
Mae’r Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) wedi pleidleisio’n unfrydol o blaid cynnig Cymdeithas yr Iaith i sicrhau hawl pob plentyn i dderbyn addysg lawn yn eu hieithoedd lleiafrifol. Yng Nghynulliad Cyffredinol ELEN yn Béal Feirste (Belffast) dros y penwythnos, cafwyd cefnogaeth unfrydol i’r cynnig, gafodd ei gyflwyno gan Siân Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.
Mudiad lobïo rhyngwladol yw ELEN, sy'n cydweithio'n agos gyda'r Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, Cyngor Ewrop a sefydliadau eraill i sicrhau tegwch i ieithoedd lleiafrifoledig a rhanbarthol ar draws Ewrop.
Mae’r cynnig yn nodi:
“Mae ELEN yn galw ar bob awdurdod a darparwr addysg i fabwysiadu a gweithredu polisïau cyfrwng addysg fel y bydd pob person ifanc, heb wahaniaethu, wrth adael addysg statudol yn medru bod yn rhugl ac yn llythrennog [yn iaith leiafrifol eu hardal ac yn iaith swyddogol y wlad].”
Wrth ymateb i lwyddiant y cynnig, dywedodd Siân Howys, Is-gadeirydd Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith:
“Rydyn ni’n falch o gael cefnogaeth ELEN i’n hymgyrch yn y maes hwn. Dylai pob plentyn gael yr hawl i sicrhau rhuglder llawn yn iaith leiafrifol eu hardal a iaith swyddogol y wlad, beth bynnag fo cefndir iaith teuluol unrhyw ddisgybl. Y model mwyaf effeithiol i sicrhau hyn yw addysg gyflawn drwy gyfrwng yr iaith leiafrifol.
“Yng Nghymru, mae addysg yn ganolog i ddyfodol y Gymraeg, ond mae’r gyfundrefn bresennol yn parhau i fethu mwyafrif ein plant a’n pobl ifanc. Mae 80% o’n plant yn cael eu hamddifadu o ddysgu’r Gymraeg yn rhugl drwy ein system addysg, ffigwr sydd heb newid rhyw lawer ers dros 20 mlynedd. Mae’n rhaid i bethau newid.
“Galwn ar Lywodraeth Cymru i weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg yn llawn fel rhan o strategaeth ehangach i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gadael yr ysgol yn rhugl yn ein hiaith genedlaethol.”