Ysgol Bentre'n Cyhoeddi Gwrth-Gynllun i Ymgynghoriad
2026-01-16
Cartref > Newyddion > Ysgol Bentre'n Cyhoeddi Gwrth-Gynllun i Ymgynghoriad
Bydd y cyfnod chwe wythnos o ymgynghoriad statudol ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Meidrim yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau o'r diwedd heddiw (16.01.2026), yn ôl neges a dderbyniodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ann Jones, gan Brif Weithredwr y Cyngor Sir, Wendy Walters.
Gohiriwyd dechrau'r cyfnod ymgynghori - a oedd i fod ar ddydd Mawrth 13eg - gan nad oedd y fersiwn Gymraeg o'r ddogfen ymgynghorol yn barod. Ond disgwylir cyhoeddi'r ddwy ddogfen ar wefan y Cyngor heddiw.
Ar gyfer diwrnod cyntaf yr Ymgynghoriad, mae'r llywodraethwyr wedi rhyddhau eu gwrth-gynllun i sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r ysgol a'i datblygu'n gyfochrog yn hyb cymunedol hyfyw. Mae'r ddogfen 73 o dudalennau o hyd yn cynnwys gwaith ymchwil manwl a dadansoddiad cost-budd manwl o'r prosiect arfaethedig, gan fanylu ar ffynonellau cyllid ychwanegol a chyfleon newydd. Yn ogystal, mae atodiad yn dangos i'r Cyngor Sir sut y gallent arbed dros chwarter miliwn o bunnoedd y flwyddyn o'u cyllideb addysg yn gyffredinol.
Y gobaith yw y bydd swyddogion y cyngor yn barod i ddefnyddio'r cyfnod chwe mis o ymgynghoriad i drafod y cynllun yn fanwl gyda'r llywodraethwyr.
Ar ran Llywodraethwyr yr ysgol, dywedodd Sian Straczek:
"Fel llywodraethwyr Ysgol Meidrim, siom mawr i ni oedd peidio â chael cyfle iawn i drafod ein cynlluniau ac opsiynau ar gyfer dyfodol yr ysgol gyda swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin.
"Mae'r cod statudol yn mynnu y dylai'r Awdurdod Lleol drafod gyda ni'r holl bosibiliadau cyn penderfynu ar gynnig i gau ysgol, neu bydd y "Rhagdyb yn erbyn cau Ysgolion Gwledig" yn ddiystyr.
"Rydyn ni wedi gweithio'n galed ar ein cynllun i ddatblygu'r ysgol hefyd fel hyb cymunedol gwerthfawr tu allan i oriau ysgol, ac rydyn ni wedi dangos yn fanwl fod y costau'n ymarferol a bod llawer o botensial incwm newydd. Ein gobaith yn awr yw y cawn gyfle'n ystod y cyfnod ymgynghorol am drafodaethau manwl gyda swyddogion mewn ysbryd o gydweithio."
Mae llywodraethwyr yr ysgol hefyd wedi lansio heddiw eu logo ymgyrch "'Mlaen Meidrim" i bwysleisio eu hyder ar gyfer y dyfodol a'u hymgyrch fideo i ddangos pwysigrwydd yr ysgol i'r gymuned.
Ar ran Rhanbarth Sir Gaerfyrddin Cymdeithas yr Iaith, ychwanegodd Ffred Ffransis:
"Yn ôl ffigurau'r Cyngor Sir ei hun, bydd 38 o ddisgyblion yn Ysgol Meidrim o fewn dwy flynedd ac, wedi tynnu cost trafnidiaeth disgyblion i ysgolion eraill, ni fyddai cau'r ysgol yn arbed ond £13,000. Os caeir ysgol fel hon, byddai 20 o ysgolion gwledig Cymraeg eraill trwy'r sir mewn peryg.
"Ar y llaw arall, mae'r llywodraethwyr gwirfoddol wedi cyflawni camp anhygoel wrth lunio, a chostio'n ofalus, eu gwrth-gynllun i ddiogelu a datblygu'r ysgol i'r dyfodol. Gall fod yn gynllun peilot gwerthfawr o ddefnyddio ysgolion felly i adfywio'n cymunedau gwledig Cymraeg. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn llawer mwy parod i drafod o fewn y ddegawd ddiwethaf, a gobeithiwn ninnau y daw ymdrafod cadarnhaol nawr."
Mae'r gwrth-gynllun "Cynnig Ysgol Meidrim 2026" i'w weld trwy bwyso yma.
Mae fideo ymgyrch i'w gweld yma: https://f.io/QJaUcQAc