Addysg

Cartref > Ymgyrchoedd > Addysg

Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith yw’r grŵp sy’n ymgyrchu dros addysg Gymraeg i bawb.

Rydyn ni’n credu mai hawl yw addysg, ac nid braint, a dylai addysg o ansawdd fod ar gael i bawb am ddim trwy gydol eu hoes. Rydyn ni’n ymgyrchu dros wireddu’r weledigaeth o wlad lle mai’r Gymraeg yw cyfrwng addysg, a bod pob plentyn, ymhob rhan o’r wlad ac o bob cefndir, yn tyfu i fyny yn medru’r Gymraeg. Rydyn ni’n gweithio ar bob agwedd ar addysg ‒ o ofal plant i brifysgolion, o brentisiaethau i ddysgu Cymraeg i oedolion.

Mae’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn sgil hanfodol i holl bobl Cymru. Ni ddylai unrhyw ddisgybl gael ei amddifadu o’r Gymraeg na gadael yr ysgol heb allu defnyddio’r Gymraeg yn rhugl a hyderus. Rydyn ni’n galw am:

  • addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl erbyn 2050
  • creu un cymhwyster Cymraeg yn lle’r system addysg ail iaith
  • sicrhau cyrsiau Cymraeg am ddim i ffoaduriaid

ac rydyn ni’n cydweithio gydag ysgolion gwledig sydd dan fygythiad i sicrhau eu parhâd.

Dyma grynodeb o’n prif ymgyrchoedd ar hyn o bryd.

Addysg Gymraeg i Bawb

Ymgyrch i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn gadael yr ysgol yn medru’r Gymraeg. Rydyn ni wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros ddileu Cymraeg ail iaith a chreu un llwybr ar gyfer dysgu’r Gymraeg i bob disgybl, ac yn galw am Ddeddf Addysg Gymraeg i Bawb fydd yn sicrhau bod ein holl ysgolion yn symud i ddysgu mwy drwy gyfrwng y Gymraeg; darllenwch ein rhesymau dros hyn yma, ac mae Deddf Addysg Cymdeithas yr Iaith yma.

Rydyn ni’n galw am un cymhwyster Cymraeg i bawb, a mesurau pellgyrhaeddol i Gymreigio’r gweithlu addysg.

Prentisiaethau

Ar hyn o bryd, dim ond 0.3% o brentisiaethau sy’n cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydyn ni’n galw am gynyddu’r gwariant yn y maes yma yn sylweddol, ac am sicrhau bod ein holl bobl ifanc, waeth beth yw eu llwybr gyrfaol, yn gallu dysgu, byw a gweithio yn Gymraeg.

Cadwn ein hysgolion

Calon ein cymunedau yw ein hysgolion, ac rydyn ni’n ymgyrchu dros warchod ysgolion bach a phentrefol ymhob rhan o’r wlad, fel bod modd i blant a theuluoedd gael addysg Gymraeg yn lleol. Rydyn ni wedi ymgyrchu’n llwyddiannus i achub nifer o ysgolion lleol, ac i gyflwyno mesurau fel y Cod Trefniadaeth Ysgolion, sy’n gosod rhagdybiaeth o blaid cadw ysgolion bach ar agor.

Mae’r Grŵp Addysg yn cwrdd dros Zoom bob rhyw 4-6 wythnos. Os nad ydych yn siwr ai dyma’r grŵp i chi, beth am fynychu cyfarfod i weld beth yw beth.