Cymunedau Cynaliadwy
Cartref > Ymgyrchoedd > Cymunedau Cynaliadwy
Grŵp Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith yw’r grŵp sy'n ymgyrchu dros gymunedau lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ac yn rhan annatod o fywyd y gymuned. Ein cymunedau sy'n cynnal y Gymraeg fel iaith fyw. Er hynny, dydy'r system gynllunio na pholisi datblygu ddim yn gweithredu er lles yr iaith ar hyn o bryd.
Mae cymunedau a fu’n gadarnleoedd traddodiadol i’r Gymraeg wedi bod o dan warchae economaidd a chymdeithasol ers degawdau. Mae mewnfudo, tueddiadau’r farchnad dai a datblygiadau anaddas wedi sicrhau bod y farchnad dai yn aml allan o gyrraedd pobl leol.
O ganlyniad, mae cwymp yn nifer y cymunedau lle mai’r Gymraeg yw’r iaith naturiol, ac mae cyfleoedd i gryfhau'r iaith mewn cymunedau eraill yn cael eu colli.
Mae’r Gymdeithas yn credu bod cymunedau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng yn holl-bwysig er mwyn sicrhau dyfodol i’r iaith. Credwn y dylid ystyried tai fel cartrefi ac nid fel adnodd economaidd, y dylid sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at y farchnad dai, ac y dylai’r farchnad dai adlewyrchu cyflogau lleol.
Galwn am Ddeddf Eiddo fydd yn galluogi pobl i aros yn lleol trwy:
- sicrhau'r hawl i gartre'n lleol
- cynllunio ar gyfer anghenion lleol
- grymuso cymunedau
- blaenoriaethu pobl leol
- rheoli sector rhentu
- creu cartrefi cynaliadwy
- buddsoddi mewn cymunedau.
Credwn hefyd fod angen ffurfioli’r drefn o asesu effaith datblygiadau tai ar yr iaith Gymraeg.
Rydyn ni bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd i'r grŵp, cysylltwch am sgwrs am waith y grŵp.
Mae’r Grŵp Cymunedau Cynaliadwy yn cwrdd dros Zoom bob rhyw 4-6 wythnos.