Diogelwn
Cartref > Ymgyrchoedd > Diogelwn

Mae DIOGELWN yn gynllun arbennig sy'n bartneriaeth rhwng Cymdeithas yr Iaith a phobl Cymru i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir.
Rydym yn gweld enwau Cymraeg ar dai a thir fel eiddo cymunedol ac fel rhan annatod o gyd-dreftadaeth y Cymry y dylid eu diogelu er mwyn cenedlaethau’r dyfodol.
Mae'r syniad sydd wrth wraidd y cynllun yn un syml iawn, ac yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n berchen ar dŷ neu dir ag enw Cymraeg (hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ei werthu ar hyn o bryd):
- Os ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ neu'r tir: gallwch ofyn i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr gynnwys cymal penodol yn y cytundeb gwerthu a'r trosglwyddiad er mwyn atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ neu'r tir (neu roi unrhyw enw ar dŷ newydd ar wahân i enw'r tir neu enw sydd â chysylltiad â'r ardal leol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau) yn y dyfodol.
- Os nad ydych yn bwriadu gwerthu'r tŷ neu'r tir ar hyn o bryd: gallwch lofnodi cytundeb gyda Chymdeithas yr Iaith â chymorth eich cyfreithiwr/trawsgludwr, a gofyn iddo/iddi gwblhau'r cytundeb hwnnw a'i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, er mwyn atal prynwyr neu gymyndderbynwyr o dan eich Ewyllys chi a'u holynwyr mewn teitl rhag newid enw'r tŷ neu'r tir (neu roi unrhyw enw ar dŷ newydd ar wahân i enw'r tir neu enw sydd â chysylltiad â'r ardal leol, yn ddibynnol ar yr amgylchiadau) yn y dyfodol.
Mae’n cyfreithwyr ni wedi paratoi cymalau a dogfennau y mae croeso i'ch cyfreithiwr/trawsgludwr i ddefnyddio pa bynnag un sy’n berthnasol i’ch sefyllfa. Gofynnwn i chi ddarllen y Telerau Defnyddio a gweler hefyd y Nodiadau ar gyfer Cyfreithwyr a Thrawsgludwyr.
Mae fersiwn Saesneg o'r dudalen hon a’r holl ddogfennau yma (English version of this page and all the documents here). - I'w ddod yn fuan....
- Cymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir): i’w ddefnyddio os ydych yn gwerthu tŷ ag enw Cymraeg a leolir yng Nghymru (naill ai gyda thir neu heb dir) ac eisiau atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid yr enw yn y dyfodol.
- Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tŷ naill ai gyda thir neu heb dir): i’w defnyddio os ydych yn berchen ar dŷ (naill ai gyda thir neu heb dir) a leolir yng Nghymru nad ydych yn bwriadu ei werthu ar hyn o bryd ond eisiau gwarchod yr enw ar gyfer y dyfodol.
- Cymal Safonol y Cynllun (Gwerthiannau) (tir na fu adeiladu arno): i’w ddefnyddio os ydych yn gwerthu darn o dir (na fu adeiladu arno) a leolir yng Nghymru ac eisiau atal prynwyr a'u holynwyr mewn teitl rhag newid yr enw yn y dyfodol.
- Dogfen Safonol y Cynllun (Hunangyfamodi) (tir na fu adeiladu arno): i’w defnyddio os ydych yn berchen ar ddarn o dir (na fu adeiladu arno) a leolir yng Nghymru nad ydych yn bwriadu ei werthu ar hyn o bryd ond eisiau gwarchod yr enw ar gyfer y dyfodol.