Hawl i’r Gymraeg
Cartref > Ymgyrchoedd > Hawl i’r Gymraeg
Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith yw'r grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg a dros lawer mwy o ddefnydd o'r iaith mewn sefydliadau, cwmnïau a mudiadau.
Nodir isod ein prif ymgyrchoedd ar hyn o bryd.
- Ymestyn gwasanaethau Cymraeg: Rydyn ni'n galw am ymestyn Mesur y Gymraeg 2011 fel bod rhaid i bob sector ddarparu gwasanaethau Cymraeg o dan y Safonau. Dau faes blaenoriaeth yw'r siopau mawr a'r banciau, lle rydyn ni wedi gweld colli tir yn ddiweddar, yn enwedig o ran technoleg fel bancio ar-lein a pheiriannau hunanwasanaeth.
- Y Gymraeg yn y gweithle: Rydyn ni'n ymgyrchu dros greu llawer mwy o weithleoedd lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio fel prif iaith y gweithle. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy o bobl wedi'u hatal rhag siarad Cymraeg yn y gwaith. Rydyn ni'n tynnu sylw at hawl pawb i ddefnyddio'r iaith yn eu gwaith.
Cofiwch fod croeso i chi rhannu eich profiadau o wasanaethau Cymraeg; cysylltwch gyda ni ar post@cymdeithas.cymru.
Rydyn ni bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd i'r grŵp. Os ydych chi'n teimlo'n gryf dros y materion hyn, cysylltwch ac ymunwch â ni!
Mae’r Grŵp Hawl i’r Gymraeg yn cwrdd dros Zoom bob rhyw 4-6 wythnos. Os nad ydych yn siwr ai dyma’r grŵp i chi, beth am fynychu cyfarfod i weld beth yw beth.