Iechyd a Lles

Cartref > Ymgyrchoedd > Iechyd a Lles

Grŵp Iechyd a Lles Cymdeithas yr Iaith yw'r grŵp sy'n ymgyrchu dros hawliau pobl i gael gwasanaeth Cymraeg wrth dderbyn gofal iechyd a lles.

Dros y blynyddoedd diwethaf, tyfodd y grŵp o fod yn is-grŵp i’r Grŵp Hawl i’r Gymraeg i fod yn grŵp llawn ar wahân oherwydd pwysigrwydd y maes hwn. Mae enghreifftiau lu o ddiffyg darpariaeth cyfrwng Cymraeg sy'n peryglu diogelwch ac ansawdd y gwasanaethau hynny ar gyfer siaradwyr Cymraeg, yn enwedig y rhai mwyaf bregus.

Ar hyn o bryd mae’r grŵp yn canolbwyntio ar gynllun Mwy na Geiriau, sydd i fod i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a lles yn cael eu darparu trwy'r Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny. Dydy'r cynllun ddim yn cael ei weithredu felly rydyn ni'n casglu tystiolaeth i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru er mwyn pwyso am weithredu Mwy na Geiriau yn llawn. 

Beth yw'ch profiad chi o wasanaethau iechyd a lles yn Gymraeg?

Rydyn ni bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd i'r grŵp. Os oes gennych chi ddiddordeb neu arbenigedd yn y meysydd iechyd neu les, cysylltwch i gymryd rhan! 

Mae’r Grŵp Iechyd a Lles yn cwrdd dros Zoom bob rhyw 4-6 wythnos.