Cartrefi i bobl leol

Cartref > Digwyddiadau > Cartrefi i bobl leol

Troi'r Llanw dros y Gymraeg: Cartrefi i bobl leol

08:45, bore Sadwrn, 3 Hydref

Ystafell Rhuddlan, Venue Cymru, Llandudno (cyfarfod ymylol yn ystod Cynhadledd Plaid Cymru)

Nodwch fod yn rhaid i chi fod yn aelod o Blaid Cymru i fynychu'r digwyddiad hwn; nid yw'n ddigwyddiad cyhoeddus.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio Siarter Troi'r Llanw i'r llywodraeth newydd ei gweithredu. Dwy o alwadau canolog y siarter yw:

  • cyflwyno Deddf Eiddo i sicrhau’r hawl i gartref a rheoli’r farchnad dai o blaid pobl leol

  • gwarchod Cymunedau Cymraeg trwy weithredu holl argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Wrth i lanw uchel barhau i fygwth boddi’r Gymraeg a’n cymunedau, allwn ni ddim aros rhagor. Dyma’r cyfle olaf i weithredu a chyflwyno’r newidiadau sylfaenol sydd eu hangen i sicrhau dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

Yn ystod y cyfarfod, bydd Walis George ar ran Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol ar ran Sefydliad Bevan ac Elwyn Vaughan, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Wynedd Maldwyn, yn trafod pwysigrwydd cyflwyno Deddf Eiddo a gweithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg er mwyn troi’r llanw o blaid yr iaith a chymunedau Cymraeg a sicrhau cartrefi i bobl leol.

 

Pob digwyddiad