Cofio'r Beasleys

Cartref > Digwyddiadau > Cofio'r Beasleys

Cofio'r Beasleys: sgwrs rhwng Angharad Tomos a Delyth Prys

2.00, pnawn Mawrth, 4 Awst

Stondin Cymdeithas yr Iaith (rhif 1019-1020), Maes Eisteddfod y Garreg Las

Yn dilyn cyhoeddi'r llyfr Cofio'r Beasleys: Brwydro dros yr Iaith bydd Delyth Prys yn sgwrsio gydag Angharad Tomos am ei rhieni ac am y llyfr hwn sydd newydd ei gyhoeddi gan y Lolfa.

Cofiant poblogaidd i Trefor ac Eileen Beasley yw'r llyfr sy'n rhoi'r cefndir a'r cyd-destun i hanes eu brwydr i gael papur y dreth yn Gymraeg, a'u cyfraniad at frwydr yr iaith, eu cefnogaeth weithredol i Gymdeithas yr Iaith ac i addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r llyfr wedi'i seilio ar atgofion personol Delyth o'r cyfnod ac o ymdrechion ei rhieni, ynghyd â llawer o luniau a llythyrau heb eu cyhoeddi o'r blaen.

Pob digwyddiad